Sam Rowlands MS for North Wales has praised farmers in his region for helping to increase food exports.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, was speaking in the Senedd after asking Lesley Griffiths, Minister for Rural Affairs what action Welsh Government was taking to support farmers in North Wales.
He said:
I am sure you were delighted, as I was this week, to see the announcement that Welsh food and drink exports hit a record high, with Wales seeing the highest increase in value of exports between all four UK nations in the last year.
In addition to this, the highest value export category was meat and meat products, and, of course, it's down to our fantastic farmers up and down the country.
Last week I had the privilege of being a panel member at the Da Byw future of farming event in North Wales, and farmers there were keen to remind the panel that quality food production is, and always will be, central to farming.
I am regularly reminded of this too on social media by farmers like Gareth Wyn Jones in Llanfairfechan, who highlight the hard work that farmers carry out in feeding the nation.
So, Minister, will you join me in thanking and congratulating our farmers across North Wales for their efforts in food production, and give assurances today that the upcoming agriculture Bill has food production central to its ambition?
The Minister said she was happy to join Mr Rowlands in congratulating all farmers and fantastic Welsh food and drink producers who have achieved such an amazing amount of exports.
Sam Rowlands AS yn llongyfarch ffermwyr gwych Gogledd Cymru am eu hymdrechion i gynhyrchu bwyd
Mae’r AS dros Ogledd Cymru, Sam Rowlands, wedi canmol ffermwyr yn ei ranbarth am helpu i gynyddu allforion bwyd.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, yn siarad yn y Senedd ar ôl gofyn i Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, pa gamau yr oedd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ffermwyr yn y gogledd.
Dywedodd:
Rwy’n siŵr eich bod chi, fel fi, wrth eich bodd yr wythnos hon o weld y cyhoeddiad bod allforion bwyd a diod o Gymru wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, gyda Chymru’n gweld y cynnydd mwyaf yng ngwerth allforion o bedair gwlad y DU yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ogystal â hyn, y categori allforio gwerth uchaf oedd cig a chynnyrch cig, ac, wrth gwrs, ein ffermwyr gwych ar hyd a lled y wlad sy’n gyfrifol am hyn.
Yr wythnos diwethaf, cefais y fraint o fod yn aelod o’r panel yn nigwyddiad dyfodol ffermio Da Byw yn y gogledd, ac roedd ffermwyr yno’n awyddus i atgoffa’r panel fod cynhyrchu bwyd o safon yn ganolog i ffermio, ac y bydd yn ganolog iddo am byth.
Rwy’n cael fy atgoffa’n rheolaidd o hyn hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol gan ffermwyr fel Gareth Wyn Jones yn Llanfairfechan, sy’n tynnu sylw at y gwaith caled y mae ffermwyr yn ei wneud i fwydo’r genedl.
Felly, Weinidog, a wnewch chi ategu fy niolch i’n ffermwyr ledled y gogledd a’u llongyfarch am eu hymdrechion i gynhyrchu bwyd, a rhoi sicrwydd heddiw bod cynhyrchu bwyd yn ganolog i uchelgais y Mesur Amaethyddiaeth arfaethedig?
Dywedodd y Gweinidog ei bod yn hapus i ategu geiriau Mr Rowlands a llongyfarch yr holl ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd a diod gwych o Gymru sydd wedi llwyddo i allforio cymaint.