Today’s announcement from Mark Drakeford and Adam Price contained a number of measures giving responsibilities to local authorities, including in the areas of land transaction tax and planning.
Commenting, Welsh Conservative Shadow Minister for Local Government, Sam Rowlands MS, said:
I welcome increased responsibilities and opportunities for local authorities to support their communities, but I do worry this is just a top-down diktat from Labour and Plaid Cymru in Cardiff Bay.
Many councils, particularly those in North Wales and rural areas, have been underfunded for many years by the Labour Government and struggle to fulfil their essential obligations.
More powers over second homes and land transaction tax rates for local authorities must be matched by a genuine increase in funding and a real devolution of powers to councils.
Y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnig sylwadau am bwerau awdurdodau lleol
Roedd y cyhoeddiad heddiw gan Mark Drakeford ac Adam Price yn cynnwys nifer o fesurau yn rhoi cyfrifoldebau i awdurdodau lleol, gan gynnwys ym meysydd treth trafodiadau tir a chynllunio.
Wrth gynnig sylw, dywedodd Sam Rowlands AS, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, y Ceidwadwyr Cymreig:
Rwy’n croesawu cynyddu cyfrifoldebau a chyfleoedd i awdurdodau lleol gefnogi eu cymunedau, ond rwy’n poeni mai dictad o’r brig i lawr gan Lafur a Phlaid Cymru ym Mae Caerdydd yw hyn.
Mae llawer o gynghorau, yn enwedig yn y gogledd ac mewn ardaloedd gwledig, wedi cael eu tangyllido gan y Llywodraeth Lafur ers blynyddoedd lawer, ac yn ei chael hi’n anodd cyflawni eu rhwymedigaethau hanfodol.
Rhaid i fwy o bwerau dros ail gartrefi a chyfraddau treth trafodiadau tir i awdurdodau lleol gael eu paru gyda chynnydd gwirioneddol mewn cyllid a gwir ddatganoli pwerau i gynghorau.