Sam Rowlands MS for North Wales says the introduction of 20mph on restricted roads is a backward step for Wales and will have a dangerous impact.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, Welsh Conservative Shadow Minister for Local Government urged fellow members to vote against the Restricted Roads (20mph Speed Limit) (Wales) Order 2022.
He said:
We certainly support letting our councils put 20 mph speed limits outside schools, hospitals and other areas. But this blanket approach across urban roads in Wales, without recognising the vast differences in our communities, seems to me like a knee-jerk reaction.
This may work in city centres where there is good infrastructure, good public transport in place, but many of our villages and towns that are linked by 30 mph roads at the moment simply do not have that same transport system, the same connectivity, the same infrastructure, it is nothing like Cardiff, it is nothing like Swansea. These rural villages and towns are going to be suffering because of this.
The Welsh Government's currently trialling this scheme across areas in Wales, including, Buckley in North Wales, where I met with residents and local representatives last week. They highlighted a number of issues. They believe they see a higher level of pollution, observed more accidents and more delays. They also feel that Government have not been listening to them and to their concerns through this process.
They are concerned about the level of pollution, because what they observe is cars and drivers having to drive in a lower gear, churning out more fumes. They have seen more accidents, because they believe they have seen more drivers distracted with having to try and live within this new speed limit.
In terms of the cost, we are talking about £33 million, I am sure that that could be better spent on employing more teachers, doctors and nurses here in Wales. Along with this, there is real concern that there is going to be a massive impact on business and the economy as well.
A constituent wrote to me and said, and I quote, 'Drivers checking their speed constantly, not giving their full attention to road conditions, as well as impatient drivers trying to overtake will make the roads more dangerous, not less.'
It is clear the Welsh Government has not properly consulted with those who have undergone this trial and it has caused real anger across many of our communities and it simply hasn't worked and won't work. It could have a dangerous impact and is a backwards step in how we go about our daily lives in Wales.
Sam Rowlands AS yn pleidleisio yn erbyn cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn dweud bod cyflwyno 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yn gam yn ôl i Gymru ac y bydd yn cael effaith beryglus.
Wrth siarad yn y Senedd, fe wnaeth Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol i’r Ceidwadwyr Cymreig, annog ei gyd-aelodau i bleidleisio yn erbyn Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022.
Meddai:
Rydyn ni'n sicr yn cefnogi gadael i'n cynghorau roi terfynau cyflymder o 20 mya y tu allan i ysgolion, ysbytai ac ardaloedd eraill. Ond mae'r agwedd gyffredinol hon ar draws ffyrdd trefol yng Nghymru, heb gydnabod y gwahaniaethau enfawr yn ein cymunedau, yn ymddangos fel ymateb braidd yn fyrbwyll i mi.
Efallai y bydd hyn yn gweithio yng nghanol dinasoedd lle mae seilwaith da, trafnidiaeth gyhoeddus dda ar waith, ond does gan lawer o'n pentrefi a'n trefi sydd wedi'u cysylltu â ffyrdd 30mya ar hyn o bryd mo'r un system drafnidiaeth, na'r un seilwaith na chysylltedd - dydyn nhw ddim fel Abertawe neu Gaerdydd. Mae'r pentrefi a'r trefi gwledig hyn yn mynd i ddioddef oherwydd hyn.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn treialu'r cynllun hwn ar hyd a lled y wlad, gan gynnwys Bwcle yn Sir y Fflint, lle cefais gyfarfod gyda thrigolion a chynrychiolwyr lleol yr wythnos diwethaf. Fe wnaethon nhw godi sawl mater. Maen nhw'n credu eu bod yn gweld lefelau uwch o lygredd, bod mwy o ddamweiniau yn digwydd a mwy o oedi. Maen nhw'n teimlo nad yw'r llywodraeth wedi gwrando arnyn nhw na'u pryderon gydol y broses.
Maen nhw'n poeni am lefel y llygredd, ar ôl sylwi ar geir a gyrwyr yn gorfod dreifio mewn gêr is, gan ollwng mwy fyth o fygdarthau. Maen nhw wedi gweld mwy o ddamweiniau, ac maen nhw o’r farn bod y terfyn cyflymder newydd hwn yn tynnu sylw gyrwyr.
O ran y gost, rydym yn sôn am £33 miliwn - dwi'n siŵr y gellid gwario hynny'n well ar gyflogi mwy o athrawon, meddygon a nyrsys yma yng Nghymru. Ar ben hynny, mae pryder gwirioneddol y bydd yn cael effaith aruthrol ar fusnesau a'r economi hefyd.
Ysgrifennodd etholwr ataf a dweud, ac rwy’n dyfynnu, 'Bydd gyrwyr sy'n gwirio eu cyflymder yn gyson, heb roi eu sylw llawn i amodau ffyrdd, yn ogystal â gyrwyr diamynedd sy'n ceisio goddiweddyd yn gwneud y ffyrdd yn fwy, nid llai, peryglus.'
Mae'n amlwg nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori'n briodol â'r rhai sydd wedi bod yn rhan o’r treial hwn ac mae wedi achosi dicter gwirioneddol ar draws llawer o'n cymunedau. Dydy e ddim wedi gweithio ac ni fydd yn gweithio. Gallai gael effaith beryglus, ac mae'n gam yn ôl yn y ffordd rydym yn byw ein bywydau bob dydd yng Nghymru.