Sam Rowlands MS for North Wales has warned rail strikes could seriously affect the tourism industry in his region.
Mr Rowlands shares the concerns of tourism business across North Wales who are concerned that industrial action by railway unions will put people off visiting or cause increased congestion on roads.
He said:
I am really concerned about the effect these strikes will have on the tourism industry especially in my constituency where we rely heavily on this sector for employment and for the economy.
I am particularly worried over the plans to strike this Saturday and next Thursday, which is usually one of the busiest weeks of the year for us. People faced with problems with rail transport may just not bother coming here and will seek alternatives or will choose to drive and increase congestion on our roads.
Tourism businesses in North Wales are already reporting cancellations due to this strike action, backed by the Welsh Labour Government, who frankly seem to have no interest in helping our tourism sector to recover after the pandemic.
On the horizon is a proposed tourism tax and the detrimental 182-day holiday let regulations, measures I believe are likely to cripple the industry and force many hard-working and local businesses to go bust.
This is the same tourism sector that supports and sustains many of our communities with tens of thousands of jobs, supporting a vast number of businesses through the supply chain, and welcoming tens of millions of visitors to Wales every single year.
The rail strikes will just be adding more pressure onto our tourism industry and certainly something we do not need.
Sam Rowlands AS yn rhybuddio y gallai twristiaeth yn y Gogledd fod mewn perygl yn sgil y streiciau ar y rheilffyrdd
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, wedi rhybuddio y gallai streiciau ar y rheilffyrdd effeithio’n enbyd ar y diwydiant twristiaeth yn ei ranbarth.
Mae Mr Rowlands yn rhannu pryderon busnesau twristiaeth ledled y Gogledd sy’n poeni y bydd gweithredu diwydiannol gan undebau’r rheilffyrdd yn atal pobl rhag dod yma ar wyliau neu’n achosi mwy o dagfeydd ar y ffyrdd.
Meddai:
Rwy’n bryderus iawn am effaith y streiciau hyn ar y diwydiant twristiaeth, yn enwedig yn fy etholaeth lle’r ydym yn dibynnu’n fawr ar y sector hwn ar gyfer cyflogaeth a’r economi.
Rwy’n poeni’n arbennig am y cynlluniau i streicio ddydd Sadwrn a dydd Iau nesaf, sef un o wythnosau prysuraf y flwyddyn i ni. Efallai y bydd pobl sy’n wynebu problemau teithio ar drenau yn penderfynu peidio â thrafferthu dod yma ac yn chwilio am opsiynau eraill neu’n penderfynu gyrru gan gynyddu’r tagfeydd ar ein ffyrdd.
Mae busnesau twristiaeth yn y Gogledd eisoes yn crybwyll pobl yn canslo yn sgil y streicio, a gefnogir gan Lywodraeth Lafur Cymru, sy’n ymddangos nad oes ganddyn nhw iot o ddiddordeb mewn helpu ein sector twristiaeth i ddod dros y pandemig.
Mae’r dreth ar dwristiaeth arfaethedig sydd ar y gorwel, a’r rheoliadau gosod cartref gwyliau 182 diwrnod, yn fesurau sy’n debygol o fod yn ergyd andwyol i’r diwydiant a byddant yn gorfodi llawer o fusnesau lleol sy’n gweithio’n galed i’r wal.
Dyma’r un sector twristiaeth ag sy’n cefnogi a chynnal llawer o’n cymunedau gyda degau o filoedd o swyddi, drwy gefnogi llwyth o fusnesau ym mhob rhan o’r gadwyn gyflenwi a chroesawu degau o filiynau o ymwelwyr i Gymru bob blwyddyn.
Bydd y streiciau ar y rheilffyrdd yn rhoi mwy o bwysau ar ein diwydiant twristiaeth – rhywbeth rydyn ni’n sicr ddim ei angen.