Sam Rowlands, MS for North Wales, has pledged to support a day-long event next month to promote farming.
Sam is supporting ’24 Hours in Farming’, from 5am on August 9, until 5am August 10, run by leading agricultural magazine Farmers Guardian and sponsored by supermarket giant, Morrisons.
The event, which has been running since 2015, invites people working in the agricultural industry, to take to social media platforms to showcase the work they do on a normal day.
Sam says:
I am delighted to support this very worthwhile event and cannot speak highly enough about the work our farmers carry out every day.
This is a wonderful opportunity, through social media, for farmers to share a day in their lives and show the public what it is really like to work in agriculture.
As we continue to recover from the pandemic it is vitally important people realise what an enormous amount of sheer hard work and effort goes in both to producing the food we eat and protecting our countryside.
This online, event is an ideal chance to showcase what farmers do, day in and day out, to bring us all the range and quality of produce we want.
I am happy to give my backing and call on fellow MSs and constituents to back the initiative and show their support for the farming industry.
24 Hours in Farming is the agricultural industry’s biggest online event with an audience of more than 112 million.
Each year farmers are encouraged to take to social media for one day to post pictures, videos and text to show and explain the work they are doing that day. The aim is to show consumers the vast extent of the effort and care which goes into producing the food they eat.
Farmers and supporters can post on any platform using the hashtag #Farm24 and are encouraged to post numerous times through the day with updates about what they are doing.
For more information go to www.fginsight.com/getinvolved.
Sam yn cefnogi ymgyrch #Farm24.
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, wedi pledio ei gefnogaeth i ddigwyddiad undydd y mis nesaf i hyrwyddo ffermio.
Mae Sam yn cefnogi ’24 Hours in Farming’, rhwng 5am ar 9 Awst a 5am ar 10 Awst, a gynhelir gan y cylchgrawn amaethyddol blaenllaw Farmers Guardian ac sy’n cael ei noddi gan yr archfarchnad fawr, Morrisons.
Mae’r digwyddiad, sydd wedi’i gynnal ers 2015, yn gwahodd pobl sy’n gweithio yn y diwydiant amaeth, i fynd ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol i ddangos y gwaith maen nhw’n ei wneud ar ddiwrnod cyffredin.
Meddai Sam:
Rydw i wrth fy modd yn cefnogi’r digwyddiad gwerth chweil hwn – alla’i ond canu clodydd gwaith ein ffermwyr bob dydd.
Dyma gyfle gwych, drwy’r cyfryngau cymdeithasol, i ffermwyr rannu diwrnod yn eu bywydau a dangos i’r cyhoedd sut beth yw gweithio yn y byd amaeth go iawn.
Wrth i ni ddal ati i ddod dros y pandemig, mae’n hollbwysig bod pobl yn sylweddoli cymaint o waith caled ac ymdrech sy’n mynd i mewn i gynhyrchu’r bwyd rydym yn ei fwyta ac i ddiogelu ein cefn gwlad.
Mae’r digwyddiad ar-lein hwn yn gyfle gwych i arddangos yr hyn mae ffermwyr yn ei wneud o ddydd i ddydd i roi’r holl gynnyrch o ansawdd sydd eu hangen arnom ni.
Mae’n fraint cefnogi ac rwy’n galw ar fy nghyd Aelodau o’r Senedd ac etholwyr i gefnogi’r fenter a dangos eu cymorth i’r diwydiant ffermio.
24 Hours in Farming yw digwyddiad ar-lein mwyaf y diwydiant amaethyddol gyda chynulleidfa o fwy na 112 miliwn.
Bob blwyddyn anogir ffermwyr i fynd ar y cyfryngau cymdeithasol am un diwrnod a llwytho lluniau, fideos a thestun yn dangos ac yn egluro’r gwaith y maen nhw’n ei wneud ar y diwrnod hwnnw. Y gobaith yw dangos i ddefnyddwyr hyd a lled anferth yr ymdrech a’r gofal sydd eu hangen i gynhyrchu’r bwyd maen nhw’n ei fwyta.
Gall ffermwyr a chefnogwyr anfon negeseuon i unrhyw blatfform gan ddefnyddio’r hashnod #Farm24 ac fe’u hanogir i gyfrannu sawl gwaith drwy’r dydd gyda diweddariadau ar yr hyn maen nhw’n ei wneud.
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.fginsight.com/getinvolved.