Sam Rowlands MS for North Wales is calling on the Welsh Government to make sure the potential of Holyhead Port is fully realised.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, was speaking in the Senedd following the recent announcement that the former Anglesey Aluminium site at Holyhead port had been bought by Stena Line.
He said:
It is great news to see Stena Line investing in the port to boost its operations, which is a clear endorsement of the fantastic opportunities that the port of Holyhead has to offer.
Stena is at the forefront of seeking to deliver a free port in Holyhead, which would be so beneficial to North Wales, and is supported fully by the Anglesey free port bidding consortium, chaired by Anglesey’s MP, Virginia Crosbie.
Minister, how will you work with the Minister for Economy and Stena Line to ensure that this fantastic opportunity for a free port is maximised to the full, which will boost our economy in North Wales, support communities and create jobs?
Lesley Griffiths, Minister for North Wales said she had regular conversations with the Minister of Economy who has had discussions with the UK Government around free ports.
Mr Rowlands added:
It is certainly welcome to hear that discussions are taking place for such an important site. It is absolutely vital the dialogue continues. We need to support calls to make more use of this working port as it is ideally placed to be set up as a freeport which would bring many positive opportunities for the island and North Wales.
Sam Rowlands AS yn croesawu buddsoddiad Stena Line yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod potensial Porthladd Caergybi yn cael ei wireddu'n llawn.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid ar Lywodraeth Leol, yn siarad yn y Senedd yn dilyn y cyhoeddiad diweddar fod hen safle Alwminiwm Môn ym mhorthladd Caergybi wedi ei brynu gan Stena Line.
Meddai:
Mae'n newyddion gwych gweld Stena Line yn buddsoddi yn y porthladd er mwyn rhoi hwb i'w weithrediadau, sy'n gadarnhad amlwg o'r cyfleoedd gwych sydd gan borthladd Caergybi i'w cynnig.
Mae Stena ar flaen y gad wrth geisio darparu porthladd rhydd yng Nghaergybi, a fyddai mor llesol i'r Gogledd, ac mae'r cam hwn yn cael ei gefnogi'n llawn gan gonsortiwm cynigion porthladdoedd rhydd Ynys Môn, o dan gadeiryddiaeth Virginia Crosbie, AS Ynys Môn.
Weinidog, sut fyddwch chi'n cydweithio â Gweinidog yr Economi a Stena Line er mwyn sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfle gwych hwn i gael porthladd rhydd, a fydd yn rhoi hwb i'n heconomi yn y Gogledd, yn cefnogi cymunedau ac yn creu swyddi?
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru, ei bod yn cael sgyrsiau cyson â Gweinidog yr Economi, sydd wedi cael trafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch porthladdoedd rhydd.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Yn sicr, rydyn ni'n croesawu'r ffaith bod trafodaethau'n cael eu cynnal ar gyfer safle mor bwysig. Mae'n gwbl hanfodol bod y ddeialog yn parhau. Mae angen i ni gefnogi galwadau i wneud mwy o ddefnydd o'r porthladd gwaith hwn gan ei fod mewn lleoliad delfrydol i gael ei sefydlu fel porthladd rhydd a fyddai'n cyflwyno llawer o gyfleoedd cadarnhaol i'r ynys ac i'r Gogledd.