Sam Rowlands MS for North Wales wants more to be done to educate children about world heritage sites.
Mr Rowlands, Welsh Conservative and Shadow Minister for Local Government, was responding to a statement from the Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip on World Heritage in North-West Wales.
He said:
It is really encouraging to see that the slate landscape of North-West Wales is being inscribed on the UNESCO world heritage site list.
I would like to put on record my thanks to all the organisations, individuals and communities who have helped to make this happen.
This newly found status is an excellent way to recognise the importance of our slate industry, and heritage plays an important role in our tourism economy, bringing a number of benefits, from attracting more visitors, boosting investment, creating jobs and telling an important part of our story as North Walians.
It is important for our local residents and communities, to understand why the landscape looks the way that it does. Living in Penygroes as a child up until nine years old, with the Nantlle Valley right on my doorstep, I perhaps did not understand or appreciate what all that meant.
Mr Rowlands called on the Welsh Government to ensure children in local communities had the opportunity to understand the importance of world heritage status.
Sam Rowlands AS yn dathlu tirwedd llechi Gogledd-orllewin Cymru fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o'r Senedd dros Ranbarth y Gogledd, eisiau gwneud mwy i addysgu plant am safleoedd treftadaeth y byd.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Gwrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Lywodraeth Leol yng Nghymru, yn ymateb i ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip ar Safle Treftadaeth y Byd yng Ngogledd-orllewin Cymru.
Meddai:
Mae'n galonogol iawn gweld bod tirwedd llechi'r Gogledd-orllewin yn ymuno â rhestr safleoedd treftadaeth y byd UNESCO.
Hoffwn ddiolch i'r holl sefydliadau, unigolion a chymunedau sydd wedi helpu i sicrhau hyn.
Mae'r statws newydd hwn yn ffordd ardderchog o gydnabod pwysigrwydd ein diwydiant llechi, ac mae treftadaeth yn chwarae rhan bwysig yn ein heconomi dwristiaeth, gan ddod â manteision di-ri, o ddenu mwy o ymwelwyr, hybu buddsoddiad a chreu swyddi i adrodd rhan bwysig o'n stori ni fel Gogleddwyr.
Mae'n bwysig i'n trigolion a'n cymunedau lleol ddeall pam mae'r dirwedd yn edrych fel y mae. Fel rhywun fu'n byw ym Mhen-y-groes tan oeddwn i'n naw oed, gyda Dyffryn Nantlle reit ar stepen drws, efallai nad oeddwn i’n deall nac yn llawn werthfawrogi beth oedd hynny i gyd yn ei olygu.
Galwodd Mr Rowlands ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod plant mewn cymunedau lleol yn cael y cyfle i ddeall pwysigrwydd statws treftadaeth y byd.