Member of the Welsh Parliament for North Wales, Sam Rowlands highlighted the importance of sport to local communities, our general health and wellbeing during his short debate in the Senedd, today. He also spoke of the lack of sport access in North Wales.
Commenting on the debate, he said:
“As a relatively small country of just over 3 million, Wales punches well above its weight on the world sporting stage. However, North Wales does not benefit to anywhere near the same degree from sporting opportunities as the South, despite the obvious physical and mental health benefits.
“North Wales has only one professional sports team and lacks an Olympic size swimming pool. This will no doubt have an impact on people's exposure to local heroes to inspire them to go on and achieve success in competitive sport.
“I am calling on the Welsh Labour Government to back local community sports, to support moves to encourage professional rugby teams to play some games in North Wales and to work with governing bodies to expand access and improve facilities. We must aim to bring about opportunity to all in Wales, no matter where they live.”
Y Ceidwadwyr Cymreig yn galw am gyfle i bawb mewn dadl chwaraeon am y Gogledd
Heddiw, fe fu Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, yn sôn am bwysigrwydd chwaraeon i gymunedau lleol, ein hiechyd a'n lles cyffredinol yn ystod ei ddadl fer yn y Senedd. Tynnodd sylw hefyd am ddiffyg mynediad at gyfleoedd chwaraeon yn y Gogledd.
Wrth ymateb i'r ddadl, dywedodd:
“Fel gwlad gymharol fach o ychydig dros 3 miliwn, mae Cymru'n cael mwy na'i siâr o'i llwyddiant ar lwyfan chwaraeon y byd. Ond dydy ardaloedd y Gogledd ddim yn elwa cymaint ar gyfleoedd chwaraeon o gymharu â'r De, er gwaetha'r manteision amlwg i iechyd corfforol a meddyliol.
“Dim ond un tîm chwaraeon proffesiynol sydd yn y Gogledd, a does gynnon ni ddim pwll nofio maint Olympaidd yma chwaith. Mae'n siŵr y bydd hyn yn cael effaith ar gysylltiad pobl â'u harwyr lleol sy’n eu hysbrydoli i fynd ymlaen a llwyddo mewn chwaraeon cystadleuol.
“Rwy'n galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i gefnogi chwaraeon cymunedol lleol, cefnogi camau i annog timau rygbi proffesiynol i chwarae rhai gemau yn y Gogledd a gweithio gyda chyrff llywodraethu i ehangu mynediad a gwella cyfleusterau. Dylai cyflwyno cyfleoedd i bawb yng Nghymru, waeth lle maen nhw'n byw, fod yn nod i ni.”