Sam Rowlands, MS for North Wales has called on Welsh Government to outline how much it will cost to introduce the default 20mph speed limit in Wales.
Speaking in the Senedd during the Business Statement, Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and a strong critic of the project said:
Last week councillors up and down Wales were sent a letter from Government regarding this scheme, and I quote from the letter: 'It's also estimated this will save Wales around £100 million in the first year alone, three times more than it would cost to introduce this scheme'.
So, the letter is seeking to highlight a £100 million saving to the public purse, which, I think it's fair to say, has failed to paint the full financial picture when communicating that with councillors because, indeed, the memorandum on the order states that, overall, an indicative central estimate on the monetised net present value of the policy is calculated to be a negative £4.54 billion—a saving of £100 million to the public purse, perhaps, but a cost of £4,500 million to the economy.
Mr Rowlands asked the Trefnydd, Lesley Griffiths, for a statement on all of the costing relating to the scheme.
The Minister said she would ask the Deputy Minister for Climate Change to come forward with a written statement on the issue.
Mr Rowlands, who has been supporting Buckley residents who are against the scheme added:
As I have said previously I am totally against a blanket 20mph speed limit for our towns and extremely concerned about the costs involved.
I feel introducing 20mph speed limits should be decided by local councils and implemented for specific places, such as outside of schools, hospitals and care homes.
Our local authorities are facing extremely challenging times at the moment and I echo the sentiment of Wrexham County Borough Council Leader, Cllr Mark Pritchard, who recently called for this particular scheme put back so the funding can be used for public services.
It is totally irresponsible for the Welsh Labour Government to be considering spending millions to implement a scheme which largely nobody wants.
Ministers should be spending that money on tackling the big issues facing Wales and helping our local councils keep services running for the public.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at gost wirioneddol cyflwyno cyfyngiadau cyflymder o 20mya ar ein ffyrdd
Mae Sam Rowlands, Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu faint y bydd yn ei gostio i gyflwyno'r terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya yng Nghymru.
Wrth siarad yn y Senedd yn ystod y Datganiad Busnes, dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol ac un sy'n feirniadol iawn o'r prosiect:
Wythnos diwethaf anfonwyd llythyr at gynghorwyr ar hyd a lled Cymru gan y Llywodraeth ynglŷn â'r cynllun hwn, ac rydw i'n dyfynnu o'r llythyr: 'Amcangyfrifir hefyd y bydd hyn yn arbed tua £100 miliwn i Gymru yn y flwyddyn gyntaf yn unig, deirgwaith yn fwy nag y byddai'n ei gostio i gyflwyno'r cynllun hwn'.
Felly, mae'r llythyr yn ceisio tynnu sylw at arbediad o £100 miliwn i'r pwrs cyhoeddus, sydd, y tybiaf ei bod yn deg dweud, wedi methu â rhoi'r darlun ariannol llawn wrth gyfathrebu hynny gyda chynghorwyr oherwydd, yn wir, mae'r memorandwm ar y gorchymyn yn datgan, yn ei gyfanrwydd, bod amcangyfrif canolog dangosol ar werth net ariannol presennol y polisi yn cael ei gyfrifo i fod yn £4.54 biliwn negyddol — arbediad o £100 miliwn i'r pwrs cyhoeddus, efallai, ond cost o £4,500 miliwn i'r economi.
Gofynnodd Mr Rowlands i Lesley Griffiths, y Trefnydd, am ddatganiad ar yr holl gostau sy’n gysylltiedig â'r cynllun.
Dywedodd y Gweinidog y byddai'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gyflwyno datganiad ysgrifenedig ar y mater.
Ychwanegodd Mr Rowlands, sydd wedi bod yn cefnogi trigolion Bwcle sydd yn gwrthwynebu'r cynllun:
Fel rydw i wedi dweud o'r blaen, rydw i’n llwyr wrthwynebu terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya ar gyfer ein trefi ac yn bryderus dros ben am y costau sydd ynghlwm â hynny.
Rydw i'n teimlo mai cynghorau lleol ddylai benderfynu ar derfynau cyflymder 20mya a'u gweithredu ar gyfer mannau penodol, fel y tu allan i ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal.
Mae ein hawdurdodau lleol yn wynebu cyfnod heriol iawn ar hyn o bryd ac rydw i'n adleisio teimladau'r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a alwodd yn ddiweddar am ohirio'r cynllun hwn fel y gellir defnyddio'r cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
Mae'n gwbl anghyfrifol i Lywodraeth Lafur Cymru fod yn ystyried gwario miliynau i weithredu cynllun does braidd neb o’i blaid.
Dylai gweinidogion fod yn gwario'r arian hwnnw ar fynd i'r afael â'r materion mawr sy'n wynebu Cymru ac yn helpu cynghorau lleol i sicrhau bod gwasanaethau'n parhau ar gyfer y cyhoedd.