Sam Rowlands MS for North Wales is calling on Welsh Government to promote the economic benefits of tidal energy in his region.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, called on the Economy Minister, Vaughan Gething, not to miss out on the opportunities offshore energy production could bring to North Wales.
He said:
I am always interested in understanding the economic benefits, especially for North Wales, in terms of offshore energy production. Tidal energy has a great opportunity not just in supporting our climate, but also in bringing direct job opportunities and new investment into our local communities.
I had a very helpful meeting with TPGen24, whose technology uses a tidal lagoon-based system that harnesses and manipulates the immense power of our tidal ranges to generate green energy.
I understand that these and others have engaged with the Welsh Government's tidal lagoon challenge, which is part of your programme for government, which I applaud in terms of its ambition in supporting ideas to make Wales a world centre of emerging tidal technology.
Mr Rowlands asked the Minister what discussions was he having with the Climate Change Minister regarding the progress of the tidal lagoon challenge, and how did he see the opportunities of tidal energy in terms of the economy in Wales.
The Minister said tidal energy has significant opportunities for Wales and was an area where there is a new technology and a new form of economic activity being developed and looked forward to himself or the Climate Change Minister giving a more purposive update when in a position to do so.
Mr Rowlands added:
I do hope that the Minister will ensure that we do not miss out on the fantastic opportunity we have here. Offshore energy production is the future and the economic benefits could be immense especially for North Wales.
Sam Rowlands AS yn galw am fwy o hyrwyddo cynhyrchu ynni alltraeth yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo budd economaidd ynni llanw yn ei ranbarth.
Wrth siarad yn y Senedd, galwodd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol, ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething, i beidio â cholli allan ar y cyfleoedd y gallai cynhyrchu ynni ar y môr eu cynnig i Ogledd Cymru.
Meddai:
Dwi wastad wedi bod â diddordeb mewn deall y manteision economaidd, yn enwedig ar gyfer y Gogledd, o gynhyrchu ynni ar y môr. Mae gan ynni'r llanw gyfle gwych nid yn unig i gefnogi ein hinsawdd, ond hefyd drwy ddod â chyfleoedd gwaith uniongyrchol a buddsoddiad newydd i'n cymunedau lleol.
Cefais gyfarfod defnyddiol iawn gyda TPGen24, y mae ei dechnoleg yn defnyddio system sy'n seiliedig ar forlyn llanw sy'n harneisio ac yn manipwleiddio pŵer aruthrol ein hamrediadau llanw i gynhyrchu ynni gwyrdd.
Rwy'n deall bod y rhain ac eraill wedi ymgysylltu â her morlyn llanw Llywodraeth Cymru, sy'n rhan o'ch rhaglen lywodraethu, ac rwy’n canmol uchelgais yr her o gefnogi syniadau i wneud Cymru'n ganolfan fyd-eang ar dechnoleg lanw newydd.
Gofynnodd Mr Rowlands i'r Gweinidog pa drafodaethau yr oedd yn eu cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â hynt her y morlyn llanw, a sut roedd yn gweld cyfleoedd ynni llanw yn nhermau'r economi yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog fod gan ynni llanw gyfleoedd eang i Gymru a'i fod yn faes lle mae technoleg newydd a math newydd o weithgarwch economaidd yn cael eu datblygu ac mae’n edrych ymlaen i fod mewn sefyllfa lle y gall ef neu’r Gweinidog Newid Hinsawdd roi diweddariad mwy pwrpasol.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn sicrhau nad ydym yn colli allan ar y cyfle gwych sydd gennym ni yma. Cynhyrchu ynni alltraeth yw'r dyfodol ac fe allai'r buddion economaidd fod yn aruthrol yn enwedig i’r Gogledd.