Sam Rowlands MS for North Wales wants Welsh Government to do more to ensure provision of changing places toilets.
Closing the Welsh Conservative debate in the Senedd, which received Cross-Party and Government support, Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government said:
What a pleasure it was to close the Welsh Conservatives debate on changing places toilets. I would like to thank all Members who took part and, in particular, for the cross-party support that the motion received across the Chamber.
It is a key to the delivery of the Equality Act 2010, the availability of Changing Places toilets, which go beyond the provision of standard accessible toilets.
These facilities are so important for so many people up and down Wales, with their larger, accessible toilets, with equipment such as hoists, curtains, changing benches and spaces for carers. Staggeringly, there are still around just 50 changing places in the whole of Wales.
Without these spaces, it can have a detrimental impact on many people who want to go about their daily lives. Many simply just can't do the normal day-to-day activities or go to those places that so many of us take for granted and enjoy.
We want the Welsh Government to provide a suitable funding mechanism and clear guidance to local authorities to ensure there is equitable provision of changing places toilets in every county in Wales.
Sam Rowlands AS yn galw am gefnogaeth i ddarparu mwy o doiledau Changing Places ledled Cymru
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, am weld Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i sicrhau darpariaeth toiledau Changing Places.
Wrth gloi dadl y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, a chael cefnogaeth Trawsbleidiol a gan y Llywodraeth, dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid:
Roedd hi'n bleser cau dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar doiledau Changing Places. Hoffwn ddiolch i bob Aelod a gymerodd ran ac, yn arbennig, am y gefnogaeth drawsbleidiol i’r cynnig ar draws y Siambr.
Mae sicrhau bod toiledau Changing Places ar gael yn allweddol i ddarpariaeth Deddf Cydraddoldeb 2010, ac mae’n mynd y tu hwnt i'r ddarpariaeth toiledau hygyrch safonol.
Mae'r cyfleusterau hyn mor bwysig i gymaint o bobl ledled Cymru, gyda'u toiledau mwy, hygyrch, gydag offer fel hoists, llenni, meinciau newid a mannau i ofalwyr. Yn syfrdanol, dim ond tua 50 o doiledau Changing Places sydd yng Nghymru gyfan.
Heb y lleoedd hyn, gall llawer o bobl sydd eisiau byw eu bywydau bob dydd gael eu handwyo’n sylweddol. Yn syml, dydy llawer ddim yn gallu gwneud y gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd na mynd i'r llefydd hynny y mae cymaint ohonon ni’n eu cymryd yn ganiataol ac yn eu mwynhau.
Rydyn ni am i Lywodraeth Cymru ddarparu mecanwaith ariannu addas a chanllawiau clir i awdurdodau lleol i sicrhau bod yna ddarpariaeth deg o doiledau Changing Places ym mhob sir yng Nghymru.