Sam Rowlands MS for North Wales calls for more to be done to help businesses on Anglesey suffering because of the closure of Menai Bridge.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, urged Welsh Government to work with together with partners to ensure the island was promoted.
He said:
I was able to join a meeting on businesses in Menai Bridge with the Member for Parliament for Anglesey, Virginia Crosbie and they highlighted some of the practical solutions they would like to see on top of the announcements which have already been made.
One of those in Welsh Government's control, is the signage along the A55 to Menai Bridge which, highlights to people that, while the bridge itself may be closed, Menai Bridge is open for business as usual.
First Minister, I would like to hear from you a commitment to working with the North Wales trunk road agency to ensure signage is clear, and perhaps also, look at working with Visit Wales, to ensure Anglesey is being highlighted still as a great place to visit over the coming months, so that businesses there, whether they are high-street businesses or tourism businesses, are able to welcome visitors in the coming months.
Mr Drakeford said:
Welsh Government continues to be open to discussions at official level, and with people on the ground, to make sure we have the best available data and can see whether further action could be taken. I do know that action has already been taken to make sure that there is additional signage, making it clear to people businesses in Menai Bridge remain open.
Sam Rowlands AS yn galw am gefnogaeth i fusnesau sydd wedi eu heffeithio gan gau Pont Menai
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, yn galw am i fwy i gael ei wneud i helpu busnesau ar Ynys Môn sy'n dioddef oherwydd bod Pont Menai wedi cau.
Wrth siarad yn y Senedd, anogodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, Lywodraeth Cymru i gydweithio â phartneriaid er mwyn sicrhau bod yr ynys yn cael ei hyrwyddo.
Dywedodd:
Cefais ymuno â chyfarfod ar fusnesau ym Mhorthaethwy gyda'r Aelod Seneddol dros Ynys Môn, Virginia Crosbie ac fe wnaethon nhw dynnu sylw at rai o'r atebion ymarferol yr hoffen nhw eu gweld yn ychwanegol at y cyhoeddiadau sydd eisoes wedi eu gwneud.
Un o'r rhai sydd dan reolaeth Llywodraeth Cymru, yw'r arwyddion ar hyd yr A55 i Borthaethwy sy’n tynnu sylw pobl fod Porthaethwy ar agor i fusnes fel arfer, er bod y bont ar gau.
Brif Weinidog, hoffwn glywed ymrwymiad gennych i weithio gydag asiantaeth cefnffyrdd Gogledd Cymru i sicrhau bod yr arwyddion yn glir, ac efallai hefyd, eich bod yn edrych ar weithio gyda Croeso Cymru, er mwyn sicrhau bod Ynys Môn yn cael ei amlygu o hyd fel lle gwych i ymweld ag ef dros y misoedd nesaf, fel bod busnesau yno, boed yn fusnesau ar y stryd fawr neu'n fusnesau twristiaeth, yn gallu croesawu ymwelwyr yn y misoedd nesaf.
Dywedodd Mr Drakeford:
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn agored i drafodaethau ar lefel swyddogol, a gyda phobl ar lawr gwlad, i wneud yn siŵr bod gennym y data gorau sydd ar gael ac y gallwn weld a fyddai modd cymryd camau pellach. Rwy'n gwybod bod camau wedi eu cymryd eisoes er mwyn sicrhau bod arwyddion ychwanegol, sy'n dangos yn glir i bobl bod busnesau Porthaethwy ar agor o hyd.