Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging Welsh Government to do more to help young people find work in North Wales.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government said:
In relation to the young person's guarantee, which is something on these sides of the benches, we have been supporting . This is the offer for everyone under the age of 25, of work, education, training or self-employment.
Last week I had the privilege of joining the vice chancellor and her team at Wrexham Glyndwr University to hear about all the good work taking place in the business school, in particular, and to hear about their relationship with industry, and with businesses in Wrexham and Clwyd South, and in North Wales as a region.
He urged the First Minister to recognise the importance of the relationship between higher education and business and industries in North Wales, and to build on this to ensure that young people had the opportunity for employment in his region.
Sam Rowlands AS yn galw am weithredu i sicrhau fod pobl ifanc yng Ngogledd Cymru yn cael cyfleoedd cyflogaeth
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i helpu pobl ifanc i ddod o hyd i waith yn y Gogledd.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid:
O ran y Warant i Bobl Ifanc, sy'n fater rydyn ni wedi bod yn ei gefnogi ar yr ochr yma o'r meinciau. Dyma'r cynnig i bawb dan 25 oed, sef gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth.
Yr wythnos diwethaf, cefais y fraint o ymuno â'r is-ganghellor a'i thîm ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam i glywed am yr holl waith da sy'n digwydd yn yr ysgol fusnes, yn benodol, ac i glywed am eu perthynas â diwydiant, a gyda busnesau yn Wrecsam a De Clwyd, ac yn y gogledd fel rhanbarth.
Anogodd y Prif Weinidog i gydnabod pwysigrwydd y berthynas rhwng addysg uwch a busnes a diwydiannau yn y gogledd, ac adeiladu ar hyn i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfle i gael gwaith yn ei ranbarth.