Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, urges Welsh Government to ensure growth deals and future economic opportunities are fully realised in his region.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, was responding to a statement by the Minister for Economy, Vaughan Gething on the Net-Zero Skills Strategy.
He said:
Last week, I had the pleasure of attending Growth Track 360's Westminster parliamentary reception, joined by a number of MSs, MPs, council leaders and members of the Lords as well, from across parties.
The event highlighted the fantastic cross-border work and collaboration opportunities through organisations, such as the Mersey Dee Alliance, and the work of our local councils in North Wales, who are working with businesses, to help enable a net-zero economy in my region.
This all comes along with thousands of well-paid green jobs, which further support and enhance North Wales's economy. All of which need those right skills to enable these jobs to happen and for the ambitions of Growth Track 360 and the Mersey Dee Alliance to come to fruition, otherwise we risk all these great ideas just becoming an academic exercise.
He urged the Minister to ensure the strategy was properly future-proofed for the ambitions of organisations, like the Mersey Dee Alliance, and for projects like Growth Track 360.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at gyfleoedd i weithio tuag at economi sero-net yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod bargeinion twf a chyfleoedd economaidd ar gyfer y dyfodol yn cael eu gwireddu'n llawn yn ei ranbarth.
Wrth siarad yn y Senedd, roedd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, yn ymateb i ddatganiad gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething ar y Strategaeth Sgiliau Sero-net.
Meddai:
Yr wythnos diwethaf, cefais y pleser o fynychu derbyniad seneddol Growth Track 360 yn San Steffan, gyda nifer o Aelodau o’r Senedd, Aelodau Seneddol, arweinwyr cynghorau ac aelodau o Dŷ’r Arglwyddi hefyd, o bob plaid.
Roedd y digwyddiad yn tynnu sylw at y gwaith trawsffiniol gwych a'r cyfleoedd cydweithio trwy sefydliadau, fel Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, a gwaith ein cynghorau lleol yn y Gogledd, sy'n gweithio gyda busnesau er mwyn helpu i alluogi economi sero-net yn fy rhanbarth.
Mae hyn i gyd law yn llaw â miloedd o swyddi gwyrdd sy'n talu'n dda, sy'n gwella a chefnogi economi’r Gogledd ymhellach. Mae angen y sgiliau priodol hynny arnynt i gyd er mwyn i'r swyddi hyn ddigwydd ac i uchelgeisiau Growth Track 360 a Chynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy ddwyn ffrwyth. Fel arall mae perygl i’r holl syniadau rhagorol hyn fod yn ddim mwy nag ymarfer academaidd.
Pwysodd ar y Gweinidog i sicrhau bod y strategaeth yn cael ei diogelu'n briodol at y dyfodol ar gyfer uchelgeisiau sefydliadau, fel Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, ac ar gyfer prosiectau fel Growth Track 360.