Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, says the Health Minister, Eluned Morgan, must be accountable for the failings of the Betsi Cadwaladr University Health Board.
Opening the Welsh Conservative debate in the Senedd, which proposed the motion of no confidence in the Welsh Government's Minister for Health and Social Services, he said:
The motion is ultimately about accountability and the role of individually elected representatives taking responsibility when it counts. So far through this Senedd term, we have seen a regular pattern of concern being raised from Members from across the Chamber as to the performance of our health service and the ability of our hard-working NHS staff to deliver on what is needed because of the decisions of this Government.
Members have raised concerns on issues that people have shared with their democratically elected representatives, their MSs, and they rightfully expect these concerns to be shared with decision makers to effect change.
But these concerns, far too often, have been ignored, dismissed, or approached with indifference by the Government and its Minister. Sadly, in particular for my residents in North Wales, these concerns have proven to be true, time and time again. In North Wales, we now see a health board back in special measures; a £122 million fraud investigation; a region with just 62% of health service buildings deemed to be safe; major concerns with vascular services; risks to patients, and significant concerns at A&E in Ysbyty Glan Clwyd.
Across Wales, we see the results of the nettle not being grasped, with one in four people currently on a waiting list for treatment, compared to one in eight in England. One in eight people are waiting over 52 weeks between referral to treatment, compared to one in 18 people in England and one in 14 in Scotland.
But who is deemed responsible for these failings? Who can residents in Wales hold responsible when they are let down? Surely, as those who believe in the power and right of democracy, it is clear that those elected to take responsibility are also those accountable when they fail to deliver on that responsibility. In this case, it is clear that the responsibility to take a grip on delivering on health services in Wales rests with the Health Minister.
What we've seen in recent weeks is a disjointed position on the issue of accountability, because the Minister has acknowledged the issues in the health service, but has chosen to not be accountable for them. For North Wales, it has been the independent board members, those who've been highlighting the failings, who've been holding the executive to account. It is they who the Minister has chosen to hold accountable for the failings, not herself.
Indeed, in the Daily Post that the former chairman of the board, the one attempting to sort things out on the ground, was also being ignored, and I quote, 'A range of longstanding shortcomings and concerns were escalated formally… not just to the then CEO but also to the Minister and the Director General. Those escalations and the basis for them were simply ignored by government.'
As more powers have been moved to the Senedd over the years, and with many seeking further powers, the responsibility on elected representatives and the willingness to be held to account also increases. I for one certainly don't want to weaken the inherent trust that our electorate put in us by electing us to this place to deliver on what they need. That is why we must show respect to those who elect us, and take responsibility when things go wrong.
The motion of no confidence was defeated with 26 in favour and 29 against.
Mr Rowlands added:
I am extremely disappointed but not surprised to see Labour Members of the Welsh Parliament, in my region, who know the scale of the problems with the health board, not supporting the concerns of their constituents. People in North Wales deserve so much better from the Welsh Government.
Sam Rowlands AS yn dweud y dylai Gweinidog Llywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb dros fethiannau bwrdd iechyd y gogledd
Yn ôl Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, mae'n rhaid i'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, fod yn atebol am fethiannau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Wrth agor dadl y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, a oedd yn cynnig cynnig o ddiffyg hyder yng Ngweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, dywedodd:
Mae'r cynnig yn ymwneud yn y pen draw ag atebolrwydd a rôl cynrychiolwyr etholedig unigol sy'n cymryd cyfrifoldeb pan mae'n cyfrif. Hyd yma, gydol tymor y Senedd hon, rydyn ni wedi gweld patrwm pryder rheolaidd yn cael ei godi gan Aelodau o bob rhan o'r Siambr ynghylch perfformiad ein gwasanaeth iechyd a gallu ein staff yn y GIG sy'n gweithio'n galed i gyflawni'r hyn sydd ei angen oherwydd penderfyniadau'r Llywodraeth hon.
Mae Aelodau wedi codi pryderon am faterion y mae pobl wedi eu rhannu gyda'u cynrychiolwyr a etholwyd yn ddemocrataidd, eu Haelodau o’r Senedd, ac maen nhw'n disgwyl yn haeddiannol i'r pryderon hyn gael eu rhannu gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddylanwadu ar newid.
Ond mae'r pryderon hyn wedi cael eu hanwybyddu yn rhy aml o lawer, eu diystyru, neu wedi'u trin â difaterwch gan y Llywodraeth a'i Gweinidog. Yn anffodus, yn arbennig i'm trigolion yng Ngogledd Cymru, mae'r pryderon hyn wedi profi'n wir, dro ar ôl tro. Yn y Gogledd, rydyn ni bellach yn gweld y bwrdd iechyd yn ôl dan fesurau arbennig; ymchwiliad i dwyll gwerth £122 miliwn; rhanbarth â dim ond 62% o adeiladau'r gwasanaeth iechyd yn cael eu datgan yn ddiogel; pryderon mawr gyda gwasanaethau fasgwlaidd; risgiau i gleifion, a phryderon sylweddol yn yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd.
Ledled Cymru, rydyn ni’n gweld problemau’n cael eu hanwybyddu, gydag un o bob pedwar ar restr aros am driniaeth ar hyn o bryd, o'i gymharu ag un o bob wyth yn Lloegr. Mae un o bob wyth yn aros dros 52 wythnos rhwng yr atgyfeiriad a’r driniaeth, o'i gymharu ag un o bob 18 yn Lloegr ac un o bob 14 yn yr Alban.
Ond pwy sydd ar fai am y methiannau hyn? Pwy all trigolion Cymru eu dwyn i gyfrif pan fyddan nhw’n dioddef fel hyn? Fel y rhai sy'n credu mewn pŵer a hawl democratiaeth, siawns ei bod yn amlwg mai’r rhai a etholwyd i gymryd cyfrifoldeb hefyd sy’n atebol pan fyddan nhw'n methu â chyflawni'r cyfrifoldeb hwnnw. Yn yr achos hwn, mae'n glir mai'r Gweinidog Iechyd sydd â'r cyfrifoldeb dros ddarpariaeth gwasanaethau iechyd yng Nghymru.
Yr hyn rydyn ni wedi'i weld dros yr wythnosau diwethaf yw dryswch ynghylch atebolrwydd, oherwydd bod y Gweinidog wedi cydnabod y problemau yn y gwasanaeth iechyd, ond wedi dewis peidio â bod yn atebol amdanyn nhw. O ran y Gogledd, aelodau annibynnol y bwrdd, y rhai sydd wedi bod yn tynnu sylw at y methiannau, sydd wedi bod yn dwyn y weithrediaeth i gyfrif. Nhw yw’r bobl y mae'r Gweinidog wedi dewis eu dal yn atebol am y methiannau, nid hi ei hun.
Yn wir, yn y Daily Post lle’r oedd cyn-gadeirydd y bwrdd, yr un a oedd yn ceisio datrys pethau ar lawr gwlad, hefyd yn cael ei anwybyddu, ac rwy’n dyfynnu, 'Gwaethygwyd ystod o ddiffygion a phryderon hirsefydlog yn ffurfiol... nid yn unig i'r Prif Swyddog Gweithredol ar y pryd ond hefyd i'r Gweinidog a'r Cyfarwyddwr Cyffredinol. Yn syml, cafodd yr uwchgyfeiriadau hyn a’u sail eu hanwybyddu’n llwyr gan y llywodraeth.'
Wrth i fwy o bwerau gael eu symud i'r Senedd dros y blynyddoedd, a gyda nifer yn ceisio mwy o bwerau, mae'r cyfrifoldeb ar gynrychiolwyr etholedig a'r parodrwydd i gael eu dwyn i gyfrif hefyd yn cynyddu. Yn sicr, dydw i ddim am wanhau'r ymddiriedaeth gynhenid a roddodd ein hetholwyr ynom ni trwy ein hethol i'r lle hwn i gyflawni'r hyn sydd ei angen arnyn nhw. Dyna pam mae'n rhaid inni ddangos parch at y rhai sy'n ein hethol, a chymryd cyfrifoldeb pan fydd pethau'n mynd o chwith.
Cafodd y cynnig o ddiffyg hyder ei drechu gyda 26 o blaid a 29 yn erbyn.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Rwy'n hynod siomedig ond ddim yn synnu gweld Aelodau Llafur o’r Senedd, yn fy rhanbarth i, sy'n ymwybodol o hyd a lled y problemau gyda'r bwrdd iechyd, yn gwrthod cefnogi pryderon eu hetholwyr. Mae pobl y Gogledd yn haeddu cymaint gwell gan Lywodraeth Cymru.