Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, urges businesses in his region to attend a free cybercrime event in Wrexham.
He said:
I welcome this initiative as Cybercrime is fast becoming a real problem for businesses and it is important there is help available on this issue.
The free event will enable business owners to find out more about defending themselves against attacks and help safeguard them from cybercrime.
I think it is an excellent idea and would encourage anyone wanting more advice to make sure they book their place.
North Wales Police and the Police and Crime Commissioner for North Wales are hosting a first-of-its kind free event for business owners in North Wales on how to keep their businesses safe from cybercrime.
The event, Cyber Security North Wales, will take place at Wrexham Glyndwr University on Wednesday June 14 and will bring together key organisations and speakers to discuss simple measures that businesses can take to defend themselves online.
Participants will include the National Cyber Security Centre, Welsh Government’s Cyber Resilience Team, North-West Regional Organised Crime Unit, North Wales Police Cyber Crime Team, Cyber Wales, Cyber Resilience Centre for Wales, Police Cyber Alarm, and Get Safe Online.
The day’s schedule includes keynote talks, an exhibition area, and interactive afternoon workshops designed to help delegates secure their businesses against cybercrime.
Book tickets for Cyber Security North Wales at: https://tocyn.cymru/en/event/b2f128b2-1f8b-4504-8309-9d0064cb7670
Sam Rowlands AS yn cefnogi digwyddiad seiberdroseddu ar gyfer perchnogion busnes yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog busnesau yn ei ranbarth i fynychu digwyddiad seiberdroseddu am ddim yn Wrecsam.
Meddai:
Rwy'n croesawu'r fenter hon gan fod seiberdroseddu yn troi’n broblem gynyddol a gwirioneddol i fusnesau ac mae'n bwysig bod help ar gael i ddelio gyda hyn.
Bydd y digwyddiad am ddim yn galluogi perchnogion busnesau i ddarganfod mwy am amddiffyn eu hunain rhag ymosodiadau ac yn helpu i'w diogelu rhag seiberdroseddu.
Rwy'n credu ei fod yn syniad rhagorol a byddwn yn annog unrhyw un sydd eisiau mwy o gyngor i wneud yn siŵr eu bod yn cadw eu lle.
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru yn cynnal y digwyddiad rhad ac am ddim cyntaf o'i fath i berchnogion busnesau yn y Gogledd am sut i gadw eu busnesau'n ddiogel rhag seiberdroseddu.
Cynhelir y digwyddiad, sef Seiberddiogelwch Gogledd Cymru, ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam ddydd Mercher 14 Mehefin a bydd yn dod â sefydliadau a siaradwyr allweddol ynghyd i drafod mesurau syml y gall busnesau eu cymryd i'w hamddiffyn eu hunain ar-lein.
Bydd y cyfranogwyr yn cynnwys y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, Tîm Seibergadernid Llywodraeth Cymru, Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol Gogledd-orllewin Cymru, Tîm Seiberdroseddu Heddlu Gogledd Cymru, Seiber Cymru, Canolfan Seibergadernid Cymru, Cyber Alarm yr Heddlu a 'Get Safe Online'.
Bydd amserlen y diwrnod yn cynnwys y prif areithiau, ardal arddangos, a gweithdai prynhawn rhyngweithiol a gynlluniwyd i helpu cynrychiolwyr i ddiogelu eu busnesau rhag seiberdroseddu.
Archebwch docynnau ar gyfer Seiberddiogelwch Gogledd Cymru yma: https://tocyn.cymru/en/event/b2f128b2-1f8b-4504-8309-9d0064cb7670