Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has called on Welsh Government to make the most of the opportunities provided by the success of Wrexham AFC.
Speaking in Welsh Parliament, Mr Rowlands said:
Wrexham Association Football Club deserve huge congratulations on their wonderful title winning achievement last weekend.
The players and staff are writing a new chapter in the history of the club, but it is not just on the pitch that Wrexham is making those strides forward; the transformative investment and backing of Ryan Reynolds and Rob McElhenney have not just put the team back into the Football League, but have rejuvenated the city of Wrexham and North Wales as a whole.
Just listening around the stadium, that the global focus is unprecedented—visitors from all over the globe visiting the city like never before, especially from the United States and Canada. And all these visitors from overseas play a hugely positive and much-needed role in job creation and the economic growth that will follow in the supply chain.
I'd like to see this opportunity grasped with both hands for the good people of Wrexham and North Wales.
Responding, Minister for North Wales Lesley Griffiths agreed Mr Rowlands had made a very important point about the economic impact on Wrexham and said Welsh Government had shown a great commitment to the area by giving Wrexham County Borough Council £25 million for Wrexham Gateway which included the Racecourse stadium.
Mr Rowlands added:
At the moment the city is attracting global wide interest and I sincerely hope that Welsh Government will continue to grasp this opportunity to support tourism and the wider economy in Wrexham and North Wales.
Sam Rowlands AS yn llongyfarch Clwb Pêl-droed Wrecsam yn Senedd Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros ranbarth y gogledd, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i elwa i'r eithaf ar lwyddiant diweddar Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Wrth siarad yn Senedd Cymru, dywedodd Mr Rowlands:
Mae Clwb Pêl-droed Cymdeithas Wrecsam yn haeddu llongyfarchiadau enfawr ar eu camp wych yn ennill y gynghrair penwythnos diwethaf.
Mae'r chwaraewyr a'r staff yn gyfrifol am ysgrifennu pennod newydd yn hanes y clwb, ond mae Wrecsam yn cymryd camau breision y tu hwnt i'r cae chwarae hefyd; mae buddsoddiad trawsnewidiol a chefnogaeth Ryan Reynolds a Rob McElhenney nid yn unig wedi llywio'r tîm yn ôl i Gynghrair Bêl-droed Lloegr, ond wedi adfywio dinas Wrecsam a'r gogledd yn gyffredinol hefyd.
Mae’r bwrlwm i’w glywed o gwmpas y Stadiwm, ac mae'r sylw a'r ffocws byd-eang yn ddigynsail—mae ymwelwyr o bob cwr o’r byd yn ymweld â'r ddinas mwy nag erioed o’r blaen, yn enwedig o Ganada a'r Unol Daleithiau. Ac mae'r holl ymwelwyr hyn o dramor yn gwneud cyfraniad hynod gadarnhaol a phwysig tuag at greu swyddi a'r twf economaidd a ddaw i'r gadwyn gyflenwi yn sgil hynny.
Hoffwn weld pawb yn bachu ar y cyfle yma er lles pobl dda Wrecsam a'r gogledd yn gyffredinol.
Wrth ymateb, cytunodd Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, fod Mr Rowlands wedi gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch yr effaith economaidd ar Wrecsam. Dywedodd hefyd bod Llywodraeth Cymru wedi dangos ymrwymiad mawr i'r ardal drwy roi £25 miliwn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam tuag at Borth Wrecsam oedd yn cynnwys stadiwm y Cae Ras.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Ar hyn o bryd mae'r ddinas yn denu diddordeb byd-eang ac rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydio yn y cyfle hwn i gefnogi twristiaeth a'r economi ehangach yn Wrecsam a’r gogledd.