Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed news that two sites in his region have been named as the best waterside places to eat in the UK.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and chair of the Cross-Party Group on Tourism, was commenting after The Corn Mill, Llangollen and Porth Eirias, Colwyn Bay were named on a list by a national newspaper.
He said:
Everyone knows how passionate I am about tourism in North Wales and hearing about accolades like this just enhances the importance of this sector in my region.
Both eateries deserve to be on that list and it is great to see them receiving national recognition. World renowned chef, Bryn Williams runs the restaurant at the Porth Eirias waterfront complex which overlooks the sea at Colwyn Bay. It is a delightful spot and very popular with diners.
I have said many times that Llangollen is a lovely part of North Wales and The Corn Mill set right beside the river flowing through the town fully deserves to be on the list.
We are so fortunate to have many excellent places to eat and visit in my region. The tourism sector in North Wales is vitally important employing around 40,000 people and contributing about £3.5 billion a year to the local economy.
Earlier this year I praised the investment in Llangollen and how work was being carried out to enhance and develop Llangollen’s Riverside Park.
I was delighted to see the project, in the Clwyd South constituency, coming to fruition thanks to funding from Round 1 of the UK Government’s Levelling Up Fund and a joint application for money from Denbighshire County Council and Wrexham County Borough Council.
It is great to see how the Levelling Up Fund is delivering for people in North Wales and helping to boost tourism in the region.
Sam Rowlands AS wrth ei fodd yn gweld Gogledd Cymru'n derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am ei llefydd i fwyta
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu'r newyddion bod dau leoliad yn ei ranbarth wedi eu henwi fel y llefydd gorau i fwyta ar lan y dŵr yn y DU.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid a chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth, yn rhoi ei sylwadau ar ôl i The Corn Mill, Llangollen a Phorth Eirias, Bae Colwyn gael eu henwi ar restr gan bapur newydd cenedlaethol.
Meddai:
Mae pawb yn gwybod pa mor angerddol ydw i am dwristiaeth yn y Gogledd ac mae clywed am anrhydeddau fel hyn yn cynyddu pwysigrwydd y sector hwn yn fy rhanbarth.
Mae'r ddau fwyty yn haeddu bod ar y rhestr ac mae'n wych eu gweld yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol. Y cogydd byd-enwog, Bryn Williams, sy'n rhedeg y bwyty yng nghanolfan glan môr Porth Eirias, sy'n edrych dros y môr ym Mae Colwyn. Mae'n lleoliad hyfryd ac yn boblogaidd iawn gyda chwsmeriaid.
Rydw i wedi dweud droeon fod Llangollen yn rhan hyfryd o’r Gogledd ac mae The Corn Mill sydd wedi’i leoli ar lannau’r afon sy'n llifo drwy'r dref yn llawn haeddu bod ar y rhestr.
Rydyn ni mor ffodus i gael cymaint o lefydd rhagorol i fwyta ac ymweld â nhw yn fy rhanbarth. Mae'r sector twristiaeth yn y gogledd yn hanfodol bwysig ac yn cyflogi tua 40,000 o bobl ac yn cyfrannu tua £3.5 biliwn y flwyddyn at yr economi leol.
Yn gynharach eleni fe wnes i ganmol y buddsoddiad yn Llangollen a sut roedd gwaith yn cael ei wneud i wella a datblygu Parc Glan yr Afon Llangollen.
Roeddwn i'n falch iawn o weld y prosiect, yn etholaeth De Clwyd, yn dwyn ffrwyth diolch i gyllid gan Gylch 1 Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig a chais ar y cyd am arian gan Gyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae'n wych gweld sut mae'r Gronfa Ffyniant Bro yn cyflawni ar gyfer pobl y Gogledd ac yn helpu i hybu twristiaeth yn y rhanbarth.