Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, urges residents in Flintshire to get involved with growing a better tomorrow.
Mr Rowlands, a keen supporter of rural initiatives, has welcomed a plan to encourage more towns or communities to plant more trees in the county.
He said:
I am delighted to hear about Flintshire County Council’s tree planting initiative and the way local people are being offered the chance to get involved.
I think it is vitally important we continue to improve our green spaces for everyone and as most people are aware, planting more trees not only increases biodiversity but also helps to create a better habitat for our plants and creatures who live there.
I was very pleased to hear about local schools getting involved in the initiative as it is great to see young children learning more about the environment and how we all have a part to play in its future.
In 2018, Flintshire County Council launched their first Urban Tree and Woodland Plan which set out a strategic vision for the planting of trees across the county particularly focusing on urban areas.
To support delivery of the urban tree and woodland plan, the council obtained grant funding from Welsh Government through the Local Places for Nature fund to create greener connections, with the vision of improving green spaces for people and nature.
Urban canopy cover in Flintshire is currently the seventh lowest in Wales, covering 14.5%. Trees are emblematic of the natural world because of the critical role they play in mitigating climate change, habitat creation and increasing biodiversity. From a human perspective, trees have a positive effect on our mental and physical health, particularly in urban areas.
To achieve their target of 18% canopy cover by 2033, Flintshire County Council have spent the past year working with local councils, communities and schools to identify and agree a number of urban sites for tree planting. Throughout the tree planting season, they carried out substantial new tree planting with pupils from schools across the county helping to plant over 2,500 whips creating over 500m of new hedgerows during planting events.
If your town or community is interested in tree planting, contact: [email protected]. Sites will be prioritised by potential level of benefit to the community and nature.
Sam Rowlands AS yn cefnogi menter plannu coed yn Sir y Fflint
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog trigolion yn Sir y Fflint i gyfrannu at feithrin gwell yfory.
Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o fentrau gwledig, wedi croesawu cynllun i annog mwy o drefi neu gymunedau i blannu mwy o goed yn y sir.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o glywed am fenter plannu coed Cyngor Sir y Fflint a'r ffordd y mae pobl leol yn cael cynnig cyfle i gymryd rhan.
Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn parhau i wella ein gofodau gwyrdd i bawb, ac fel y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei wybod, mae plannu mwy o goed nid yn unig yn cynyddu bioamrywiaeth ond hefyd yn helpu i greu cynefin gwell i'n planhigion a'n creaduriaid sy'n byw yno.
Roeddwn i’n falch iawn o glywed am ysgolion lleol yn cymryd rhan yn y fenter gan ei bod yn wych gweld plant bach yn dysgu mwy am yr amgylchedd a sut mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae yn ei ddyfodol.
Yn 2018, lansiodd Cyngor Sir y Fflint eu Cynllun Coed a Choetir Trefol cyntaf sy'n cyflwyno gweledigaeth strategol ar gyfer plannu coed ledled y sir gan ganolbwyntio’n benodol ar ardaloedd trefol.
Er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflawni'r cynllun coed trefol a'r coetir, cafodd y cyngor arian grant gan Lywodraeth Cymru drwy'r gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i greu cysylltiadau mwy gwyrdd, gyda'r weledigaeth o wella gofodau gwyrdd i bobl a natur.
Y gorchudd brigdwf trefol yn Sir y Fflint yw'r seithfed isaf yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae’n gorchuddio 14.5%. Mae coed yn arwyddlun o’r byd naturiol oherwydd y rôl hanfodol y maen nhw’n ei chwarae wrth liniaru newid yn yr hinsawdd, creu cynefinoedd a chynyddu bioamrywiaeth. O safbwynt dynol, mae coed yn cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd meddwl a chorfforol, yn enwedig mewn ardaloedd trefol.
I gyflawni eu targed o 18% o orchudd brigdwf erbyn 2033, mae Cyngor Sir y Fflint wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn gweithio gyda chynghorau lleol, cymunedau ac ysgolion i nodi a chytuno ar nifer o safleoedd trefol ar gyfer plannu coed. Drwy gydol y tymor plannu coed, cynhaliwyd sesiynau plannu coed newydd sylweddol gyda disgyblion o ysgolion ledled y sir yn helpu i blannu dros 2,500 o blanhigion ifanc gan greu dros 500m o wrychoedd newydd yn ystod digwyddiadau plannu.
Os oes gan eich tref neu gymuned ddiddordeb mewn plannu coed, cysylltwch â [email protected]. Bydd safleoedd yn cael eu blaenoriaethu yn ôl lefel bosib y budd i'r gymuned ac i natur.