Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has one again called for more support for the tourism industry in his region.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and Chair of Welsh Parliament’s Cross Party Group on Tourism was speaking during the Welsh Conservatives debate on tourism ahead of Wales Tourism Week May 15-23.
He said:
There are a couple of thoughts that I want us to consider in my contribution. Firstly, on the boost that tourism trade brings to rural areas as it is really important to remember that the tourism sector is so often rooted in our rural communities.
People come to our rural areas because of the idyllic nature and the scenery. We often hear about some of the risks and issues around jobs and economic growth in some of our rural communities, but it's tourism that's able to provide those jobs and economic growth in spades.
People in rural areas provide fantastic holiday experiences and attractions and visitors should be strongly encouraged to visit these areas. More broadly, beyond our communities and the benefits that tourism provides to our communities, I believe that tourism in Wales provides a greater role for us in terms of our sense of a nation and what we can provide as an insight into Wales around the world, because Wales, is a special place.
I would argue that North Wales in particular is probably one of the most special places when it comes to the visitor economy. The natural beauty of our land can compete with the finest in Europe and our long and storied history is imprinted all over Wales in the form of some magnificent castles perhaps one of the best ones is Conwy castle, finished in 1287. UNESCO calls it the finest example of late thirteenth century and early fourteenth century military architecture in Europe.
Imagine a group of American tourists who have watched the Wrexham AFC documentary and decided to visit North-East Wales to see what all the fuss is about. They have had a pint at the Turf pub and then move across the rest of the region. The options are endless for what they could choose to do. Visiting Snowdonia National Park, taking in the stunning natural beauty on the Snowdon Mountain Railway, or visit Portmeirion village or wander around the grounds of Conwy castle medieval fortress at the heart of Edward I's ring of iron.
What is disappointing is the Welsh Government's policies towards the tourism sector show that this support is not at the heart of their thinking. The tourism tax and the punishing new taxes on holiday lets will put a huge strain on the industry.
Mr Rowlands called on Welsh Government to do more to back the tourism industry in North Wales.
Sam Rowlands AS yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i gefnogi diwydiant ymwelwyr y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi galw eto am fwy o gefnogaeth i'r diwydiant twristiaeth yn ei ranbarth.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol Senedd Cymru ar Dwristiaeth yn siarad yn ystod dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar dwristiaeth cyn Wythnos Twristiaeth Cymru rhwng 15-23 Mai.
Meddai:
Mae yna syniad neu ddau yr hoffwn i ni eu hystyried yn fy nghyfraniad. Yn gyntaf, faint o hwb mae'r fasnach dwristiaeth yn ei roi i ardaloedd gwledig gan ei bod yn bwysig iawn cofio bod y sector twristiaeth wedi'i wreiddio yng nghefn gwlad yn aml.
Mae pobl yn dod i'n hardaloedd gwledig oherwydd byd natur a'r golygfeydd godidog. Rydyn ni'n clywed yn aml am rai o'r risgiau a'r problemau sy'n ymwneud â swyddi a thwf economaidd yn rhai o'n cymunedau gwledig, ond twristiaeth sy'n gallu darparu'r swyddi hynny a thwf economaidd i raddau helaeth iawn.
Mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn cynnig profiadau ac atyniadau gwyliau gwych a dylid annog ymwelwyr i ymweld â'r ardaloedd hyn. Yn ehangach, y tu hwnt i'n cymunedau a manteision twristiaeth i'n cymunedau, credaf fod twristiaeth yng Nghymru yn darparu mwy o rôl i ni o ran ein hymdeimlad o genedl a'r hyn y gallwn ei gynnig fel cenedl - sef blas ar Gymru ledled y byd, gan fod Cymru’n lle heb ei debyg.
Byddwn i'n dadlau mai’r Gogledd yn benodol yw un o'r llefydd mwyaf arbennig o safbwynt yr economi ymwelwyr. Gall harddwch naturiol ein tir gystadlu â'r goreuon yn Ewrop ac mae ein hanes hir yn amlwg ledled Cymru ar ffurf cestyll godidog, gyda chastell Conwy, a gwblhawyd ym 1287, gyda'r goreuon o bosib. Yn ôl UNESCO dyma’r enghraifft orau yn Ewrop o bensaernïaeth filwrol ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg a dechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg.
Dychmygwch griw o ymwelwyr Americanaidd sydd wedi gwylio rhaglen ddogfen clwb pêl-droed Wrecsam ac wedi penderfynu ymweld â Gogledd-ddwyrain Cymru i weld beth yw'r holl ffỳs a ffwdan. Maen nhw wedi cael peint yn nhafarn y Turf ac yna'n crwydro gweddill y rhanbarth. Mae dewis di-ben-draw o bethau i'w gwneud. Ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri, gan fwynhau'r harddwch naturiol trawiadol ar drên bach yr Wyddfa, neu ymweld â phentref Portmeirion neu grwydro o amgylch tiroedd castell canoloesol Conwy sy'n rhan o gylch haearn Edward y cyntaf.
Yr hyn sy’n siomedig yw bod polisïau Llywodraeth Cymru ar y sector twristiaeth yn dangos nad yw’r gefnogaeth hon wrth galon eu ffordd o feddwl. Bydd yr ardoll dwristiaeth a'r trethi chwyrn newydd ar lety gwyliau yn rhoi straen aruthrol ar y diwydiant.
Galwodd Mr Rowlands ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi'r diwydiant twristiaeth yn y Gogledd.