Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is demanding answers after roadworks caused chaos over the last two Bank Holiday weekends in Flintshire.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and Chair of the Senedd’s Cross-Party Group on Tourism, is urging Welsh Government to make sure motorists do not suffer for the next Bank Holiday.
He said:
I was absolutely appalled to hear about the problems facing motorists over the last two Bank Holiday weekends in parts of Flintshire and will be taking this up with the Minister in Cardiff.
Gridlocked conditions meant people wanting to travel for a day out down the coast coming from places like Flint, Holywell and Connah’s Quay found themselves waiting for sometimes up to several hours. This is just not acceptable.
I simply don’t understand why roadworks need to be scheduled during Bank Holidays when local people and visitors want to visit the coast and our lovely beaches
People in North Wales do not have the luxury of a good public transport system and therefore need to use their vehicles if they want to get out and about.
The Welsh Government’s recent Road Review scrapped plans for the Flintshire corridor yet the busy A55 in Flintshire is the gateway for many visitors from the North West.
As a person who regularly travels along this stretch of road and sat in roadworks many a time, it is about time Welsh Government did more to help local people and visitors alike. Tourism is vital to my region and we need to make sure we do everything we can to continue to attract more tourists.
Mr Rowlands has now submitted a written question to Welsh Government asking what consideration they have given to implementing a moratorium on all roadworks during Bank Holiday weekends.
Sam Rowlands AS yn galw am atebion ar ôl i waith ffordd achosi anhrefn ar Wyliau Banc
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn mynnu atebion ar ôl i waith ffordd achosi anhrefn dros y ddau benwythnos Gŵyl y Banc diwethaf yn Sir y Fflint.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw modurwyr yn dioddef dros yr Ŵyl Banc nesaf.
Meddai:
Roeddwn i wedi fy syfrdanu'n llwyr o glywed am y problemau a wynebodd modurwyr dros y ddau benwythnos Gŵyl y Banc diwethaf mewn rhannau o Sir y Fflint a byddaf yn trafod hyn gyda'r Gweinidog yng Nghaerdydd.
Roedd y tagfeydd yn golygu bod pobl a oedd eisiau mynd am wibdaith i’r arfordir o leoedd fel y Fflint, Treffynnon a Chei Connah yn sownd am oriau ar adegau. Dyw hyn ddim yn dderbyniol.
Yn syml, dydw i ddim yn deall pam mae angen trefnu gwaith ffordd yn ystod Gwyliau Banc pan fydd pobl leol ac ymwelwyr eisiau ymweld â'r arfordir a'n traethau hyfryd.
Does gan bobl yng Ngogledd Cymru ddim y moethusrwydd o system drafnidiaeth gyhoeddus dda ac felly mae angen iddyn nhw allu defnyddio eu cerbydau os ydyn nhw am fynd o le i le.
Fe wnaeth Adolygiad Ffyrdd diweddar Llywodraeth Cymru roi’r gorau i gynlluniau ar gyfer coridor Sir y Fflint ond yr A55 prysur yn Sir y Fflint yw'r porth i lawer o ymwelwyr o Ogledd Orllewin Lloegr.
Fel rhywun sy'n teithio'n rheolaidd ar hyd y rhan hon o'r ffordd ac yn eistedd mewn tagfeydd yn ddigon aml, mae'n hen bryd i Lywodraeth Cymru wneud mwy i helpu pobl leol ac ymwelwyr. Mae twristiaeth yn hanfodol i'm rhanbarth ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i barhau i ddenu mwy o dwristiaid.
Mae Mr Rowlands bellach wedi cyflwyno cwestiwn ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru yn gofyn pa ystyriaeth y maen nhw wedi'i rhoi i weithredu moratoriwm ar bob gwaith ffordd yn ystod penwythnosau Gŵyl y Banc.