Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing the first ever Rev Run from St Asaph Cathedral this weekend.
The event will take place this Saturday, May 20 and will be led by biker and trainee priest, Stuart Dean, who will be accompanied by the Cathedral Precentor Canon Rex Matthais.
Mr Rowlands said:
It will be great to see the city of St Asaph welcoming bikers from all over North Wales for a service in the Cathedral and then a run across the region.
I think the Rev Run is a fantastic idea and will give motorcyclists the opportunity to meet up with like-minded people who are interested in faith.
It should be quite a sight as organiser Stuart Dean, a trainee priest says he is hoping for between 30-40 bikers.
The service is open to everyone interested in bikes and it will be an opportunity to meet up with other bikers who are interested in faith and want to combine their faith with their passion for motorbikes.
The service organiser and keen biker, Stuart said:
I wanted to create a service which reflects my passion as a biker and offer others the opportunity join with me in the service and then head off together for a ride out through the North Wales countryside.
Riding is about sharing the experience and sharing the experience sometimes can lead to other questions about wellbeing, mental health and the crossroad moments in life, which can include faith.
I’ve been a biker all my life since the age of 16 and my sermon will include what my faith means to me and sharing some experiences of what bikers sometimes call being in the zone and what it means to be in the zone in faith and on your bike.
The service will start at 11am with the ride out beginning from the Cathedral at 12noon.
Stuart is encouraging people to arrive early to enjoy a coffee and bacon roll at the Cathedral’s tearooms.
He added:
It will be good to have the opportunity to chat and get to know each other ahead of the service and ride out. The Biker community is friendly and welcoming so do come along by yourself or with friends and family.
The two-hour ride out will take us up to Blaenau Ffestiniog, over to Betws y Coed, then Bala and across to the Horseshoe Pass above Llangollen where we can re-group at the popular Ponderosa Café.
Stuart is training to be a priest at St Padarn’s Institute in Cardiff. He is based in the Offa Mission Area, a group of eight churches around Johnson, Ruabon and Chirk on the outskirts of Wrexham.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at wasanaeth eglwysig i feicwyr yng Ngogledd Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi'r Rev Run cyntaf erioed o Eglwys Gadeiriol Llanelwy y penwythnos hwn.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, 20 Mai a bydd yn cael ei arwain gan y beiciwr a'r offeiriad dan hyfforddiant, Stuart Dean, a fydd yng nghwmni arweinydd y gân yr Eglwys Gadeiriol, y Canon Rex Matthais.
Meddai Mr Rowlands:
Bydd yn wych gweld dinas Llanelwy yn croesawu beicwyr o bob rhan o’r gogledd ar gyfer gwasanaeth yn yr Eglwys Gadeiriol ac yna taith ar draws y rhanbarth.
Rwy'n credu bod y Rev Run yn syniad gwych a bydd yn rhoi cyfle i feicwyr modur gwrdd â phobl o'r un anian sydd â diddordeb mewn ffydd.
Dylai fod yn dipyn o olygfa gan fod y trefnydd Stuart Dean, offeiriad dan hyfforddiant, yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd rhwng 30-40 o feicwyr yno.
Mae'r gwasanaeth yn agored i bawb sydd â diddordeb mewn beiciau a bydd yn gyfle i gwrdd â beicwyr eraill sydd â diddordeb mewn ffydd ac sydd am gyfuno eu ffydd â'u hangerdd am feiciau modur.
Dywedodd trefnydd y gwasanaeth a'r beiciwr brwd, Stuart:
Roeddwn i eisiau creu gwasanaeth sy'n adlewyrchu fy angerdd fel beiciwr ac yn cynnig cyfle i eraill ymuno â mi yn y gwasanaeth, cyn mynd gyda'n gilydd am daith allan drwy gefn gwlad Gogledd Cymru.
Mae beicio yn ymwneud â rhannu'r profiad a gall rhannu'r profiad weithiau arwain at gwestiynau eraill am les, iechyd meddwl a'r adegau y daw ein bywydau i groesffordd, sy'n gallu cynnwys ffydd.
Dwi wedi bod yn feiciwr ar hyd fy oes ers pan oeddwn i'n 16 oed, a bydd fy mhregeth yn cynnwys yr hyn mae fy ffydd yn ei olygu i mi, gyda chyfle i rannu rhai profiadau o'r hyn y mae beicwyr yn ei alw weithiau fel ‘bod yn y zone’ a beth mae'n ei olygu i fod yn y zone o ran ffydd ac o ran bod ar eich beic.
Bydd y gwasanaeth yn dechrau am 11am gyda'r daith yn cychwyn o'r Eglwys Gadeiriol am hanner dydd.
Mae Stuart yn annog pobl i gyrraedd yn gynnar i fwynhau coffi a rhôl cig moch yn ystafelloedd te'r Eglwys Gadeiriol.
Ychwanegodd:
Bydd yn dda cael y cyfle i sgwrsio a dod i adnabod ein gilydd cyn y gwasanaeth a’r daith. Mae'r gymuned beicwyr yn gyfeillgar a chroesawgar, felly dewch ar eich pen eich hun neu gyda ffrindiau a theulu.
Bydd y daith dwy awr yn mynd â ni i fyny i Flaenau Ffestiniog, draw i Fetws-y-coed, yna'r Bala ac ar draws i Fwlch yr Oernant uwchben Llangollen lle gallwn ail-ymgynnull yng nghaffi poblogaidd Ponderosa.
Mae Stuart yn hyfforddi i fod yn offeiriad yn Athrofa Padarn Sant yng Nghaerdydd. Mae wedi'i leoli yn Ardal Genhadaeth Offa, sef grŵp o wyth eglwys o amgylch Johnson, Rhiwabon a'r Waun ar gyrion Wrecsam.