Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has been seeing at first-hand how a new whisky is being distilled in his region.
Mr Rowlands, Chair of the Senedd’s Cross-Party Group on Tourism was visiting Penderyn Distillery in Llandudno, to celebrate Wales Tourism Week 2023.
He said:
I was delighted to have the opportunity to visit Penderyn Whisky Distillery and Visitor Centre in Llandudno which welcomes tourists and connoisseurs to visit and sample their wares and meet with staff at Penderyn and see for myself how award winning whisky is distilled.
As a very keen supporter of tourism in North Wales, I was particularly impressed to hear about a brand new whisky which is only being made in Llandudno. Definitely one to watch and I am sure it will be just as successful as their other products.
Since opening in May 2021 the distillery has gone from strength to strength and regularly attracts visitors for tours and tasting sessions and they are all keen to see how this award winning spirit is produced.
The single malt whisky is unique and particularly popular and really is a top-quality Welsh export, and I am confident in saying that from personal experience!
Penderyn Distillery is the home of Welsh Whisky and produces award-winning single malt whiskies from three distilleries. Their headquarters is in Brecon Beacons, with a second distillery opening in Llandudno in May 2021, and a third one in Swansea is planned to open in July 2023.
It was launched in 2004 and Penderyn Whisky has quickly gained a worldwide reputation for its range of whiskies, winning over 100 Double Gold/Gold/Masters awards en-route.
Today Penderyn, which is a privately owned company with over 60 shareholders, is now very much part of the world whisky conversation, and is available in over 50 countries, including key markets in France, Germany, USA and China.
Sam Rowlands AS yn ymweld â distyllfa arobryn yng Ngogledd Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi bod yn gweld o lygad y ffynnon sut mae wisgi newydd yn cael ei ddistyllu yn ei ranbarth.
Roedd Mr Rowlands, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth y Senedd yn ymweld â Distyllfa Penderyn yn Llandudno, i ddathlu Wythnos Twristiaeth Cymru 2023.
Meddai:
Roeddwn i’n falch iawn o gael y cyfle i ymweld â Distyllfa Wisgi Penderyn a’u Canolfan Ymwelwyr yn Llandudno sy'n croesawu twristiaid ac arbenigwyr i ymweld a blasu eu nwyddau. Pleser hefyd oedd cwrdd â staff ym Mhenderyn a gweld gyda’m llygaid fy hun sut mae wisgi arobryn yn cael ei ddistyllu.
Fel cefnogwr brwd iawn i dwristiaeth yng Ngogledd Cymru, roeddwn i’n arbennig o falch o glywed am wisgi newydd sbon sydd ond yn cael ei wneud yn Llandudno. Mae’n bendant yn un i gadw llygad arno ac rwy'n siŵr y bydd yr un mor llwyddiannus â'u cynhyrchion eraill.
Ers agor ym mis Mai 2021 mae'r ddistyllfa wedi mynd o nerth i nerth ac mae’n denu ymwelwyr yn rheolaidd ar gyfer teithiau a sesiynau blasu, gyda’r ymwelwyr i gyd yn awyddus i weld sut mae'r gwirod arobryn hwn yn cael ei gynhyrchu.
Mae'r wisgi brag sengl yn unigryw ac yn arbennig o boblogaidd ac yn un o allforion gorau Cymru, ac rwy'n dweud hynny o brofiad personol!
Mae Distyllfa Penderyn yn gartref i wisgi Cymreig ac mae'n cynhyrchu wisgi brag sengl arobryn o dair distyllfa. Mae eu pencadlys ym Mannau Brycheiniog, gydag ail ddistyllfa wedi agor yn Llandudno ym mis Mai 2021, ac mae disgwyl i drydedd un agor yn Abertawe ym mis Gorffennaf 2023.
Fe'i lansiwyd yn 2004 ac mae Wisgi Penderyn wedi ennill enw da ledled y byd yn gyflym am ei ystod o wisgi, gan ennill dros 100 o wobrau Aur Dwbl / Aur / Meistr ar y daith.
Heddiw mae Penderyn, sy'n gwmni preifat gyda dros 60 o gyfranddalwyr, yn enw sy’n codi’n aml wrth drafod wisgi bedwar ban byd, ac mae ar gael mewn dros 50 o wledydd, gan gynnwys marchnadoedd allweddol yn Ffrainc, yr Almaen, UDA a Tsieina.