Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed news of the return of a two day festival for science and art lovers in his region.
The Discover Science Festival is once again being held in the city on August 5 and 6 with Xplore! Science Discovery Centre and Tŷ Pawb working together for the third year to put on a fantastic festival of science and art for the city.
Mr Rowlands, Chairman of the Senedd’s Cross-Party Group on Tourism said:
As a great advocate of encouraging more tourists to my region, I am delighted to see the return of this popular event which hopefully will attract hundreds of visitors to the city.
As we all know Wrexham is fast becoming the place to visit thanks to the heroics of the local football team and TV coverage and this year’s festival promises to be even bigger and better.
It is all good news for Wrexham and a great boost for tourism in North Wales.
Thanks to funding from Wrexham County Borough Council, local business Aparito and grants awarded to Xplore!, this year has a bigger programme than ever before.
The two-day festival will include workshops and shows highlighting the science of Roald Dahl, the incredible world of chemistry, dinosaurs and much more.
Dawn Pavey, Project Officer at Xplore! said:
DARGANFOD//DISCOVER returning to Wrexham for the third year is a fantastic statement of ongoing investment in events within Wrexham city centre.
The festival is providing a platform to allow more people to engage with Wrexham, not only as a tourist destination but to experience first-hand, the exciting interaction between science, technology, engineering, maths and the arts. We can’t wait to welcome everyone for the most varied and exciting festival we have ever put on!
Activities will take place at various sites within Xplore! and Tŷ Pawb as well as spilling out onto the Hippodrome site on Henblas Street. With the spotlight firmly on Wrexham this year, this two day event will shine a light on two of Wrexham’s visitor attractions, not only providing activities for locals who already enjoy coming to Xplore! and Tŷ Pawb but it will provide a focal point for tourists new to Wrexham who are keen to see what more the city has to offer.
For media enquiries or for activity stallholders wishing to be part of the event contact [email protected].Tickets are available to purchase now at www.darganfod-discover.com.
Sam Rowlands AS yn falch o weld yr Ŵyl Wyddoniaeth a Chelfyddydau yn dychwelyd i Wrecsam
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu'r newyddion y bydd gŵyl ddeuddydd ar gyfer selogion gwyddoniaeth a chelf yn dychwelyd i’w ranbarth.
Mae’r Ŵyl Darganfod Gwyddoniaeth yn cael ei chynnal unwaith eto yn y ddinas ar 5 a 6 Awst gyda Xplore! Science Discovery Centre a Thŷ Pawb yn cydweithio am y drydedd flwyddyn i gynnal gŵyl wych o wyddoniaeth a chelf ar gyfer y ddinas.
Meddai Mr Rowlands, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth y Senedd:
Fel rhywun sydd o blaid annog mwy o dwristiaid i'm rhanbarth, rwy'n falch iawn o weld y digwyddiad poblogaidd hwn yn dychwelyd, gan ddenu cannoedd o ymwelwyr i'r ddinas gobeithio.
Fel y gwyddom i gyd, mae Wrecsam yn prysur ddatblygu’n ddinas i ymweld â hi diolch i lwyddiant anhygoel y tîm pêl-droed lleol a'r sylw ar y teledu ac mae'r ŵyl eleni yn addo bod hyd yn oed yn fwy ac yn well nag erioed.
Mae'r cyfan yn newyddion da i Wrecsam ac yn hwb mawr i dwristiaeth yn y Gogledd.
Diolch i gyllid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, y busnes lleol Aparito a grantiau a ddyfarnwyd i Xplore!, mae rhaglen eleni yn fwy nag erioed.
Bydd yr ŵyl ddeuddydd yn cynnwys gweithdai a sioeau sy'n tynnu sylw at wyddoniaeth Roald Dahl, byd anhygoel cemeg, deinosoriaid a llawer mwy.
Meddai Dawn Pavey, Swyddog Prosiect Xplore!:
Mae DARGANFOD//DISCOVER yn dychwelyd i Wrecsam am y drydedd flwyddyn yn ddatganiad gwych o fuddsoddiad parhaus mewn digwyddiadau yng nghanol dinas Wrecsam.
Mae'r ŵyl yn cynnig llwyfan sy’n caniatáu i fwy o bobl ymgysylltu â Wrecsam, nid yn unig fel cyrchfan i dwristiaid ond i brofi'n uniongyrchol y rhyngweithio cyffrous rhwng gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a'r celfyddydau. Rydyn ni’n methu aros i groesawu pawb ar gyfer yr ŵyl fwyaf amrywiol a chyffrous rydyn ni erioed wedi'i chynnal!
Bydd gweithgareddau'n cael eu cynnal mewn gwahanol safleoedd o fewn Xplore! a Thŷ Pawb a byddant hefyd yn ymestyn allan i safle’r Hippodrome ar Stryd Henblas. Gyda sylw’r byd ar Wrecsam eleni, bydd y digwyddiad deuddydd hwn yn taflu goleuni ar ddau o atyniadau ymwelwyr Wrecsam, gan nid yn unig ddarparu gweithgareddau i bobl leol sydd eisoes yn mwynhau dod i Xplore! a Thŷ Pawb ond hefyd i’r twristiaid sy'n dod i Wrecsam am y tro cyntaf ac sy'n awyddus i weld beth arall sydd gan y ddinas i'w gynnig.
Ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau neu stondinwyr gweithgareddau sy'n dymuno bod yn rhan o'r digwyddiad cysylltwch ag [email protected]. Mae tocynnau ar gael i'w prynu nawr yn www.darganfod-discover.com.