Sam Rowlands MS for North Wales has welcomed free membership to leisure centres for over 60’s in his region.
Mr Rowlands, is backing the one month offer at Freedom Leisure Wrexham or Plas Madoc Leisure Centres
He said:
I welcome any initiative to encourage people over the age of 60 to take up a new activity as it is a well-known fact that keeping fit and healthy will help us live longer.
It is great to see such a good range of activities on offer including group exercise classes and swimming and all completely free for one month.
Hopefully these sessions will encourage more over 60s to take up exercise and become a full time member and take advantage of all the activities on offer.
The one month funded offer for eligible people includes access to the gym, group exercise classes and swimming across Freedom Leisure Sites in Wrexham or Plas Madoc Leisure Centre.
It also include Freedom Leisure sites at Wrexham Waterworld: 01978 297300/Queensway Stadium: 01978 355826/Gwyn Evans Leisure and Activity Centre: 01978 269540 /Chirk Leisure and Activity Centre: 01691 778666.
The offer , which is currently available, but spaces are limited, is open to new members, aged over 60, who have not held a membership with Freedom Leisure or Plas Madoc Leisure Centre after April 1 2022, with a focus on the inactive/least active.
A requirement of this free month is that you then follow this on by taking out a membership with Freedom Leisure Centres in Wrexham or Plas Madoc Leisure Centre.
Please contact your local Freedom Leisure centre or Plas Madoc Leisure Centre to sign up to this 60+ membership offer. You can also e mail [email protected] with any queries.
Sam Rowlands AS yn cefnogi'r Cynllun Hamdden Actif 60+ yn Wrecsam
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, wedi croesawu’r penderfyniad i roi aelodaeth am ddim i ganolfannau hamdden ar gyfer y rhai dros 60 oed yn ei ranbarth.
Mae Mr Rowlands yn cefnogi'r cynnig mis o hyd yn Freedom Leisure yn Wrecsam neu Ganolfan Hamdden Plas Madoc.
Meddai:
Rwy'n croesawu unrhyw fenter sy’n annog pobl dros 60 oed i wneud gweithgaredd newydd oherwydd rydyn ni’n gwybod yn iawn bod cadw'n heini ac yn iach yn ein helpu i fyw'n hirach.
Mae'n wych gweld amrywiaeth mor dda o weithgareddau yn cael eu cynnig gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer corff grŵp a nofio, a phob un am ddim am fis.
Gobeithio y bydd y sesiynau hyn yn annog mwy o bobl dros 60 oed i ymarfer corff a dod yn aelodau llawn amser, gan fanteisio ar yr holl weithgareddau sydd ar gael.
Mae'r cynnig mis a ariennir i bobl gymwys yn cynnwys mynediad i'r gampfa, dosbarthiadau ymarfer corff a nofio ledled Safleoedd Freedom Leisure yn Wrecsam neu yng Nghanolfan Hamdden Plas Madoc.
Mae hefyd yn cynnwys safleoedd Freedom Leisure ym Myd Dŵr Wrecsam: 01978 297300/Stadiwm Queensway: 01978 355826/ Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans: 01978 269540/ Canolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun: 01691 778666.
Mae'r cynnig, sydd ar gael ar hyn o bryd – gyda’r llefydd yn prysur ddiflannu - yn agored i aelodau newydd, dros 60 oed, sydd heb fod yn aelodau gyda Freedom Leisure neu Ganolfan Hamdden Plas Madoc ar ôl 1 Ebrill 2022, ac mae’r pwyslais ar ddenu’r lleiaf actif/segur.
Un o ofynion y mis rhad ac am ddim hwn yw eich bod wedyn yn ymaelodi â Chanolfannau Freedom Leisures yn Wrecsam neu Ganolfan Hamdden Plas Madoc.
Cysylltwch â'ch canolfan Freedom Leisure leol neu Ganolfan Hamdden Plas Madoc i gofrestru ar gyfer y cynnig aelodaeth 60+ hwn. Gallwch hefyd anfon e-bost i [email protected] os oes gennych chi unrhyw ymholiadau.