Sam Rowlands, a Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging people to sign up to make a difference in the community.
He said:
North Wales Police are currently accepting applications for Special Constables but time is running out so I am calling on anyone who is interested in this role to apply as soon as possible.
The Specials are people from all walks of life who choose to spend their free time helping the police to help others. It is a rewarding and exciting voluntary job and well worth considering if you want to help within your community.
It is also a great way to learn new skills, gain confidence and of course, if you are considering a career in the police force it will give you the perfect insight.
If you enjoy a challenge, solving problems and would like to contribute to keeping your community safe, whilst developing a wider range of skills, then volunteering in policing could be for you.
You will be expected to volunteer around 200 hours a year, which is approximately 16 hours per month. You’ll need to attend the initial police training course, and once your training is complete, you’ll buddy up with more experienced officers to develop your skills and gain Independent Patrol Status. This means you’ll be competent in the basics of policing and have the same powers as regular police officers.
Joining the Specials opens up a whole new world of opportunities like no other. As a Special Constable, you’ll discover loads about your local community and help make a positive impact. You’ll get involved with local policing initiatives, make new friends, work as a team and develop the skills you already possess.
You could be involved in policing major incidents and providing operational support to regular officers such as responding to 999 or 101 calls, tackling anti-social behaviour, enforcing road safety initiatives and providing policing presence at major events. We also offer opportunities to specialise within different departments such as Roads Policing, Sex and Violent Offenders Unit and Force Intelligence.
Applications for the role of Special Constable will close on June 15. For more information go to https://www.northwales.police.uk/police-forces/north-wales-police/areas/careers/careers/special-constable/
Sam Rowlands AS yn galw ar ei etholwyr i ystyried dod yn heddweision gwirfoddol
Mae Sam Rowlands, Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog pobl i gofrestru i wneud gwahaniaeth yn y gymuned.
Dywedodd:
Ar hyn o bryd mae Heddlu Gogledd Cymru yn derbyn ceisiadau gan bobl i fod yn heddweision gwirfoddol ond mae amser yn brin, felly rwy'n galw ar unrhyw un sydd â diddordeb yn y rôl hon i wneud cais cyn gynted â phosibl.
Mae'r heddweision yn dod o bob cefndir ac yn dewis treulio eu hamser rhydd yn helpu'r heddlu i helpu eraill. Mae'n swydd wirfoddol werth chweil a chyffrous ac yn werth ei hystyried os ydych chi am helpu'ch cymuned.
Mae hefyd yn ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd, magu hyder ac wrth gwrs, yn rhoi blas perffaith i chi o yrfa gyda'r heddlu os oes gennych chi fryd ar blismona.
Os ydych chi'n mwynhau her, datrys problemau ac eisiau cyfrannu at gadw eich cymuned yn ddiogel, gan ddatblygu pob math o sgiliau, yna efallai mai gwirfoddoli gyda'r heddlu yw'r union beth i chi.
Bydd disgwyl i chi wirfoddoli tua 200 awr y flwyddyn, sydd tua 16 awr y mis. Bydd angen i chi fynychu'r cwrs hyfforddi cychwynnol gan yr heddlu, ac ar ôl cwblhau hynny byddwch yn cyfeillio â heddweision mwy profiadol i feithrin eich sgiliau ac ennill Statws Patrôl Annibynnol. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n gymwys mewn hanfodion plismona a bod gennych yr un pwerau â heddweision rheolaidd.
Mae ymuno â'r Heddlu rhan-amser yn agor byd newydd sbon o gyfleoedd fel dim byd arall. Fel heddwas gwirfoddol, byddwch yn dysgu llawer am eich bro ac yn helpu i gael effaith gadarnhaol. Byddwch yn cymryd rhan mewn mentrau plismona lleol, yn cwrdd â ffrindiau newydd, yn gweithio fel tîm ac yn datblygu'r sgiliau sydd gennych eisoes.
Gallech fod yn rhan o blismona digwyddiadau mawr a darparu cymorth gweithredol i swyddogion rheolaidd fel ymateb i alwadau 999 neu 101, mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gorfodi mentrau diogelwch ar y ffyrdd a helpu i blismona digwyddiadau mawr. Hefyd, rydyn ni'n cynnig cyfleoedd i arbenigo mewn adrannau gwahanol megis plismona'r ffyrdd, Uned Troseddwyr Rhyw a Threisgar a Chudd-wybodaeth yr Heddlu.
Bydd ceisiadau am rôl heddweision gwirfoddol yn cau ar 15 Mehefin. Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.northwales.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-gogledd-cymru/ardaloedd/gyrfaoedd/gyrfaoedd/swyddog-gwirfoddol/