Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is delighted to see improvements at a popular tourist attraction in his region.
Mr Rowlands, Chair of the Welsh Parliament’s Cross-Party Group on Tourism, was commenting after a new viewing platform and boardwalk was officially opened for use in Talacre.
He said:
Everybody knows how passionate I am about tourism in North Wales and I am delighted to see improvements to the previous well used path at this very popular place.
This area attracts hundreds of visitors all year round as people come to either enjoy the beautiful sandy beach and the dunes or walk to see the famous lighthouse and it is good to see money being spent to enhance the experience for visitors and holidaymakers alike.
The new boardwalk and viewing platform will definitely help to attract even more people and make access to the beach easier for everyone.
The works were coordinated by Flintshire County Council’s Access and Natural Environment Team and were funded through the Wales Coast Path project administered by Natural Resources Wales, with match funding provided by Eni UK Limited.
The joint effort has resulted in the new boardwalk, which provides a wider and more access-friendly slope with extra passing places and a viewing platform, resulting in better access to the beach and an enhanced visitor experience.
This project is the latest success in the long-term partnership between Eni, NRW and Flintshire County Council’s Access and Natural Environment Team.
The partnership has seen huge environmental improvements such as clearing of invasive species, works helping to reintroduce and protect endangered species, such as the natterjack toad and sand lizard, and restoration of habitats such as the sand dune slacks.
Sam Rowlands AS yn croesawu llwybr pren newydd ar Draeth Talacre
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn falch iawn o weld gwelliannau mewn atyniad poblogaidd i dwristiaid yn ei ranbarth.
Roedd Mr Rowlands, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, yn siarad ar ôl i blatfform gwylio a rhodfa bren newydd gael ei hagor yn swyddogol i'w defnyddio yn Nhalacre.
Meddai:
Mae pawb yn gwybod pa mor angerddol ydw i am dwristiaeth yn y Gogledd ac rwy'n falch iawn o weld gwelliannau i'r llwybr blaenorol a ddefnyddiwyd yn gyson yn y lle poblogaidd iawn hwn.
Mae'r ardal hon yn denu cannoedd o ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn wrth i bobl ddod naill ai i fwynhau'r traeth tywodlyd hardd a'r twyni neu gerdded i weld y goleudy enwog a da yw gweld arian yn cael ei wario i wella'r profiad i ymwelwyr a phobl ar eu gwyliau fel ei gilydd.
Bydd y llwyfan newydd i gerdded a gwylio yn bendant yn helpu i ddenu hyd yn oed mwy o bobl a gwneud mynediad i'r traeth yn haws i bawb.
Cafodd y gwaith ei gydlynu gan Dîm Mynediad ac Amgylchedd Naturiol Cyngor Sir y Fflint ac fe'i hariannwyd drwy brosiect Llwybr Arfordir Cymru a weinyddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda chyllid cyfatebol yn cael ei ddarparu gan Eni UK Limited.
Mae'r ymdrech ar y cyd wedi arwain at y llwybr pren newydd, sy'n darparu llethr ehangach gyda mynediad haws gyda lleoedd pasio ychwanegol a llwyfan gwylio, gan arwain at well mynediad i'r traeth a phrofiad gwell i ymwelwyr.
Y prosiect hwn yw'r llwyddiant diweddaraf yn y bartneriaeth hirdymor rhwng Eni, Cyfoeth Naturiol Cymru a Thîm Mynediad ac Amgylchedd Naturiol Cyngor Sir y Fflint.
Mae'r bartneriaeth wedi gweld gwelliannau amgylcheddol enfawr fel clirio rhywogaethau ymledol, gwaith i helpu i ailgyflwyno a gwarchod rhywogaethau sydd mewn perygl, megis llyffant cefnfelyn a'r fadfall tywod, ac adfer cynefinoedd fel y llaciau twyni tywod.