Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging residents to take advantage of fun and interesting events in his region.
He is backing Flintshire’s Access and Natural Environment Service team, who are inviting people to take part in several activities over the next couple of weeks.
Mr Rowlands said:
As Chair of the Welsh Parliament’s Cross-Party on Tourism I am always pleased to support any events to highlight the beautiful part of the world we live in.
Flintshire has so much to offer local residents and visitors alike from our brilliant coastline to our popular parks and countryside.
It is good to see local communities being given the opportunity to find out more about their county and being invited to attend many different events.
Discover Etna Park, Buckley on June 18, with the council’s knowledgeable Ranger for an exciting and informative trail. While Greenfield Valley Trust hosts their outdoor music event ‘Live at the Valley’ June 24, with a diverse line-up and fun activities for all to enjoy.
There is also the annual River Ramble and Bat walk in August at Wepre Park, and the return of Illyria. The award-winning company to present ‘Robin Hood’, an action-packed heist for the whole family on July 1.
For further information go to: Countryside and Coast social media; Eventbrite to book your walk or talk; Greenfield Valley and Illyria websites.
Sign up for Countryside and Coast’s News Bulletin
Sam Rowlands AS yn cefnogi gweithgareddau'r haf ledled Sir y Fflint
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog trigolion i fanteisio ar ddigwyddiadau hwyliog a diddorol yn ei ranbarth.
Mae'n cefnogi tîm Gwasanaeth Mynediad ac Amgylchedd Naturiol Sir y Fflint, sy'n gwahodd pobl i gymryd rhan mewn sawl gweithgaredd dros yr wythnosau nesaf.
Meddai Mr Rowlands:
Fel Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, rydw i bob amser yn falch o gefnogi unrhyw ddigwyddiadau i dynnu sylw at y rhan brydferth hon o'r byd rydyn ni'n byw ynddi.
Mae gan Sir y Fflint gymaint i'w gynnig i drigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd o'n harfordir gwych i'n parciau a'n cefn gwlad poblogaidd.
Da yw gweld cymunedau lleol yn cael y cyfle i ddysgu mwy am eu sir a chael gwahoddiad i fynychu llawer o wahanol ddigwyddiadau.
Dewch i ddarganfod Parc Etna, Bwcle ar 18 Mehefin, gyda Cheidwad gwybodus y cyngor ar gyfer llwybr cyffrous a llawn gwybodaeth. Mae Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes-glas yn cynnal eu digwyddiad cerddoriaeth awyr agored ‘Dyffryn Byw’ ar 24 Mehefin, gydag artistiaid amrywiol a gweithgareddau hwyliog i bawb eu mwynhau.
Ceir hefyd Antur yr Afon a’n Taith Gerdded Ystlumod ym mis Awst ym Mharc Gwepra, a bydd Illyria, y cwmni arobryn, yn dychwelyd i gyflwyno 'Robin Hood', perfformiad llawn cyffro i'r teulu cyfan ar 1 Gorffennaf.
Am ragor o wybodaeth ewch i: Countryside and Coast social media; Eventbrite i archebu’ch taith gerdded neu sgwrs; gwefannau Dyffryn Maes-glas ac Illyria.
Cofrestrwch ar gyfer Bwletin Newyddion Cefn Gwlad ac Arfordir