Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, urges residents to attend a health and wellbeing event in Connah’s Quay this week.
Mr Rowlands is backing this annual initiative to help local residents find support and advice on existing health conditions.
He said:
We all know about the continuing pressures the NHS is under in North Wales and I think it is so important that events such as this are being held to help local people.
It is vital that residents know where to turn when they need support and advice about what is available locally to assist with an existing health conditions.
It is a great initiative and well worth attending if you need that all important advice.
The Flintshire Health and Well Being event takes place in Connah’s Quay Civic Hall from 10am to 2pm on Thursday, June 15 when Communities For Work Plus Flintshire and Jobcentre Plus will bring together local health care providers from a wide range of service providers.
Kim Acton, Disability Employment Adviser, one of the organisers, said:
This event began in 2015 and has provided support to many local residents. It has been developed to support individuals in Flintshire who live with a health condition, or who care for someone with a health condition and brings service providers to local people, giving them the opportunity to meet these services face to face.
At the last event, pre-Covid, it was supported by over 33 health care organisations who gave advice and support to over 400 local residents.
During the day there will be plenty of practical advice on hand for health conditions ranging from mental health care, diabetes, sight and hearing impairments, carers organisations, learning disabilities, veteran support etc.
For more information, please contact Kim at Jobcentre Plus on 07717 867211.
Sam Rowlands AS yn cefnogi digwyddiad i helpu pobl leol i ddod o hyd i gymorth a chyngor
Mae Sam Rowlands, yr Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog pobl leol i fynychu digwyddiad iechyd a lles yng Nghei Connah yr wythnos hon.
Mae Mr Rowlands yn cefnogi'r fenter flynyddol hon i helpu pobl leol i ddod o hyd i gymorth a chyngor ar gyflyrau iechyd presennol.
Meddai:
Rydyn ni i gyd yn gwybod am y pwysau sydd ar y GIG yn y Gogledd ac rwy'n credu ei bod hi mor bwysig bod digwyddiadau fel hyn yn cael eu cynnal i helpu pobl leol.
Mae'n hanfodol bod pobl leol yn gwybod ble i droi pan fydd angen cymorth a chyngor arnynt am yr hyn sydd ar gael yn lleol i gynorthwyo gyda chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes.
Mae'n fenter wych ac mae'n werth ei mynychu os oes angen y cyngor hollbwysig hwnnw arnoch.
Cynhelir digwyddiad Iechyd a Lles Sir y Fflint yn Neuadd Ddinesig Cei Connah rhwng 10am a 2pm ddydd Iau 15 Mehefin pan fydd Cymunedau am Waith a Mwy Sir y Fflint a'r Ganolfan Byd Gwaith yn dod â darparwyr gofal iechyd lleol ynghyd o ystod eang o ddarparwyr gwasanaethau.
Dywedodd Kim Acton, Cynghorydd Cyflogaeth Anabledd, un o'r trefnwyr:
Dechreuodd y digwyddiad hwn yn 2015 ac mae wedi darparu cymorth i lawer o bobl leol. Fe'i datblygwyd i gefnogi unigolion yn Sir y Fflint sy'n byw gyda chyflwr iechyd, neu sy'n gofalu am rywun sydd â chyflwr iechyd, ac mae'n dod â darparwyr gwasanaethau at bobl leol, gan roi'r cyfle iddynt gyfarfod â'r gwasanaethau hyn wyneb yn wyneb.
Yn y digwyddiad diwethaf, cyn covid, fe'i cefnogwyd gan dros 33 o sefydliadau gofal iechyd a roddodd gyngor a chymorth i dros 400 o bobl leol.
Yn ystod y dydd, bydd digon o gyngor ymarferol wrth law ar gyfer cyflyrau iechyd yn amrywio o ofal iechyd meddwl, diabetes, namau ar y golwg a'r clyw, sefydliadau gofalwyr, anableddau dysgu, cymorth i gyn-filwyr etc.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Kim yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07717 867211.