Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on his constituents to celebrate a woodland festival next week.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and a keen supporter of nature said:
I am delighted to back this first ever Woodlands Connection Week which starts this Saturday, June 17 with Wrexham’s Acton Park Tea Party where local people are being invited to make a picnic and join Wrexham County Council’s environment staff for some fun for all the family.
There certainly sounds like there will be plenty going on including camp fire cooking and storytelling with plenty of people on hand to explain more about how important our woodlands are for our future.
I think it is vitally important to learn more about nature as it is a known fact that being among woodlands can help with our wellbeing and support a healthy lifestyle.
The Woodland Connections Week, which runs from June 17 – 24 June, is supported by the Woodland Trust’s Emergency Tree Fund and will be a celebration all the ways trees and woodlands are important for us.
Events are being run running across the county beginning with Acton Park Tree Party, June 17, from 12-4pm. Other events include guided walks around Erlas Victorian Walled Garden on Monday June 19 and on Wednesday June 21 Summer Solstice Nature Walk to celebrate the longest day of the year with a guided walk around Ty Mawr Country Park.
Clare Morgan, Outreach Manager at Woodland Trust Wales, Coed Cadw, said:
We are delighted to have awarded funding to Wrexham County Borough Council through the Emergency Tree Fund for their Woodland Connections project, which aims to plant around 4,000 trees to boost canopy cover in the area. The funding will help the council deliver on their ambitious Tree and Woodland Strategy, ensuring that not only new trees and woodlands are created but that existing trees and woods are well managed and protected. The project will also deliver for people by engaging communities and building their connection with woodland and nature in general.
There is an ever growing source of evidence that shows that being amongst woodlands reduces stress and anxiety, improving physical health through exercise and overall quality of life through improved air quality, reduced flood risk and soil stability. Importantly, as we face a changing climate, trees and woodlands will help manage carbon emissions as well as help regulate temperatures, especially in built up areas. Woodland Connections Week gives you an opportunity to discover and explore all of this as well as the rich, diverse tree heritage that shares our land.
Locations throughout the county have been selected for their special features and the roles they play in Wrexham. Erlas Victorian Walled Garden was a hub for the My Tree, Our Forest Welsh government giveaway last tree planting season but it also home to an ancient Mullberry tree.
Tŷ Mawr Country Park provides a dramatic backdrop to celebrate the Summer Solstice in our newly planted orchard. 100 trees were planted with Brymbo Heritage Trust and country park rangers over the last year, creating a vital habitat for wildlife and local asset for communities.
The Woodland Connection Week ends with a guided walk around Wrexham City Centre, exploring the city tree trail and discussing how trees and woodlands can support an urban environment in a changing climate.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Wythnos Cysylltiadau Coetir yn Wrecsam
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i ddathlu gŵyl goetir yr wythnos nesaf.
Dywedodd Mr Rowlands, sy’n Weinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol i’r Ceidwadwyr Cymreig ac yn frwd dros fyd natur:
Rwy'n falch iawn o gefnogi'r Wythnos Cysylltiadau Coetir gyntaf hon sy'n dechrau y dydd Sadwrn hwn, 17 Mehefin gyda Pharti Coed Parc Acton Wrecsam, lle gwahoddir pobl leol i ddod â phicnic ac ymuno â staff amgylchedd Cyngor Sir Wrecsam i gael hwyl gyda'r teulu cyfan.
Yn sicr, mae'n swnio fel y bydd digon yn digwydd, gan gynnwys coginio tân gwersyll ac adrodd straeon, gyda digon o bobl wrth law i esbonio mwy am ba mor bwysig yw ein coetiroedd ar gyfer ein dyfodol.
Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig dysgu mwy am fyd natur gan ei bod yn ffaith hysbys y gall bod mewn coetiroedd helpu gyda'n lles a chefnogi ffordd iach o fyw.
Mae'r Wythnos Cysylltiadau Coetir, a gynhelir rhwng 17 a 24 Mehefin, yn cael ei chefnogi gan y Gronfa Argyfwng ar gyfer Coed a ddyrennir gan Coed Cadw a bydd yn ddathliad o'r holl ffyrdd mae coed a choetiroedd yn bwysig i ni.
Mae digwyddiadau'n cael eu cynnal ar draws y sir, gan ddechrau gyda Pharti Coed Parc Acton ar 17 Mehefin rhwng 12 a 4pm. Mae digwyddiadau eraill yn cynnwys teithiau cerdded tywys o amgylch Gardd Furiog Fictoraidd Erlas ddydd Llun 19 Mehefin a Thaith Natur Heuldro'r Haf ddydd Mercher 21 Mehefin i ddathlu diwrnod hira’r flwyddyn gyda thaith gerdded dywys o amgylch Parc Gwledig Tŷ Mawr.
Dywedodd Clare Morgan, Rheolwr Allgymorth Coed Cadw:
Rydyn ni'n falch iawn o fod wedi dyfarnu cyllid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam drwy'r Gronfa Argyfwng i Goed ar gyfer y prosiect Cysylltiadau Coetir. Nod y prosiect yw plannu tua 4,000 o goed i hybu gorchudd canopi yn yr ardal. Bydd y cyllid yn helpu'r cyngor i gyflawni ei Strategaeth Goed a Choetir uchelgeisiol, gan sicrhau nid yn unig bod coed a choetiroedd newydd yn cael eu creu ond bod coed a choedwigoedd sy'n bodoli eisoes yn cael eu rheoli'n dda a'u diogelu. Bydd y prosiect hefyd yn darparu ar gyfer pobl drwy ymgysylltu â chymunedau a datblygu eu cysylltiad â choetir a natur yn gyffredinol.
Mae ffynhonnell gynyddol o dystiolaeth sy'n dangos y gall bod ymhlith coetiroedd leihau straen a gorbryder, gwella iechyd corfforol drwy ymarfer corff ac ansawdd bywyd cyffredinol oherwydd ansawdd aer, llai o berygl o lifogydd a sefydlogrwydd pridd. Yn bwysig, wrth i ni wynebu hinsawdd sy'n newid, bydd coed a choetiroedd yn helpu i reoli allyriadau carbon, yn ogystal â helpu i reoleiddio’r tymheredd, yn enwedig mewn ardaloedd adeiledig. Mae'r Wythnos Cysylltiadau Coetir yn gyfle i chi ddarganfod ac archwilio hyn i gyd, yn ogystal â'r dreftadaeth coed gyfoethog ac amrywiol sy'n rhannu ein tir.
Mae lleoliadau ledled y sir wedi cael eu dewis oherwydd eu nodweddion arbennig a'r cyfraniad maen nhw'n ei wneud yn Wrecsam. Roedd Gardd Furiog Fictoraidd Erlas yn un o’r hybiau casglu ar gyfer Fy Nghoeden, Ein Coedwig y llynedd pan oedd Llywodraeth Cymru yn rhoi coed i bobl am ddim, ond mae hefyd yn gartref i goeden forwydden hynafol.
Mae Parc Gwledig Tŷ Mawr yn darparu cefndir dramatig i ddathlu Heuldro'r Haf yn ein perllan sydd newydd ei phlannu. Plannwyd 100 o goed gydag Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo a cheidwaid parciau gwledig dros y flwyddyn ddiwethaf, gan greu cynefin hanfodol i fywyd gwyllt ac asedau lleol i gymunedau.
Mae'r Wythnos Cysylltiadau Coetir yn dod i ben gyda thaith gerdded dywys o amgylch Canol Dinas Wrecsam, gan archwilio llwybr coed y ddinas a thrafod sut y gall coed a choetiroedd gefnogi amgylchedd trefol mewn hinsawdd sy'n newid.