Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has praised a scheme which supports people experiencing or at risk of homelessness.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government was commenting after visiting the Housing Justice Cymry Citadel project in Wrexham.
He said:
It was great to meet with Housing Justice Cymru, who carry out fantastic work with volunteers to help ensure people across Wales have access to the homes they need.
It was also a good opportunity for me to find out more about the work of volunteers, who are key to this scheme and give excellent support to those who need it most.
Everybody knows there is a chronic lack of appropriate, affordable housing in North Wales and there are many people who have little or no chance of being able to buy or rent their own property.
I was very impressed with the work which is being carried out in my region and it was good to hear all about the project and the support which is given to those who need it.
Citadel is a homelessness prevention project which supports people experiencing, or at risk of homelessness, to find and/or sustain their tenancies and establish a home. Volunteers are a central part of the project.
Citadel was initially set up to support guests following their move on from the Housing Justice Cymru’s Night Shelters.
According to research, 90% of those who had experienced homelessness in a five-year period were still worried about their housing situation. Additionally, 82% of former guests from Housing Jusitce Cymru’s Night Shelters said they wanted further support.
Further feedback from people experiencing homelessness showed that more tailored support is needed, which focuses on the person and ‘what matters’ to them: “Everyone is individual. There are not enough services that treat you like an individual”.
Housing Justice Cymru is currently looking for volunteers for their Citadel project in Wrexham, to help with things like budgeting, finding a home, decorating and emotional support. Anyone interested should contact Jo Jones, [email protected].
Sam Rowlands AS yn cefnogi prosiect atal digartrefedd yn Wrecsam
Mae Sam Rowlands, Aelod o'r Senedd dros Ranbarth y Gogledd, wedi canmol cynllun sy'n helpu pobl sydd naill ai’n ddigartref neu mewn perygl o hynny.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol yn gwneud sylw ar ôl ymweld â phrosiect Citadel Housing Justice Cymru yn Wrecsam.
Dywedodd:
Roedd hi'n wych cwrdd â Housing Justice Cymru, sy'n gwneud gwaith rhagorol gyda gwirfoddolwyr er mwyn helpu i sicrhau bod pobl ledled y wlad yn gallu cael gafael ar y cartrefi sydd eu hangen arnynt.
Roedd hefyd yn gyfle da i mi ddysgu mwy am waith gwirfoddolwyr, sy'n allweddol i'r cynllun hwn ac yn rhoi cefnogaeth ragorol i'r rhai sydd ei angen fwyaf.
Mae pawb yn gwybod bod diffyg tai fforddiadwy addas yma'n y Gogledd a bod llawer o bobl heb fawr o obaith o allu prynu neu rentu eu cartref eu hunain, os o gwbl.
Fe wnaeth eu gwaith ledled y rhanbarth greu cryn argraff arnaf, ac roedd hi'n wych clywed am y prosiect a'r cymorth sydd ar gael i'r rhai mewn angen.
Prosiect atal digartrefedd yw Citadel, sy'n helpu'r rhai sy'n profi, neu mewn perygl o fod yn ddigartref, i sicrhau neu gynnal tenantiaeth a chreu cartref iddyn nhw eu hunain. Mae gwirfoddolwyr yn rhan ganolog o'r prosiect.
Sefydlwyd Citadel yn wreiddiol i helpu pobl i symud ymlaen o lochesi nos Housing Justice Cymru.
Yn ôl ymchwil, roedd 90% o'r rhai a oedd wedi profi digartrefedd mewn cyfnod o bum mlynedd yn dal i boeni am eu sefyllfa dai. Ar ben hynny, dywedodd 82% o gyn-westeion llochesi nos Housing Justice Cymru eu bod eisiau cymorth pellach.
Dangosodd adborth pellach gan bobl sy'n profi digartrefedd eu bod angen mwy o gymorth wedi'i deilwra, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw: “Mae pawb yn unigol. Does dim digon o wasanaethau sy'n eich trin chi fel unigolyn”.
Mae Housing Justice Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer prosiect Citadel yn Wrecsam, i helpu gyda phethau fel cyllidebu, chwilio am gartref, addurno a chefnogaeth emosiynol. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu â Jo Jones, [email protected].