Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is delighted to see a local army reservist from Glan Clwyd Hospital, being shortlisted for a top award.
Vikki Montgomery, an advanced clinical practitioner and a major in the army reserves, has reached the final stages of the Reservist of the Year award.
Mr Rowlands said:
I am delighted to hear Vikki has been shortlisted in the Welsh Veterans’ Awards, it is a fantastic achievement.
I have nothing but admiration for anyone who volunteers as a reservist and I am pleased to see someone from North Wales being recognised.
As an army reservist, Vikki she has seen active service in Iraq twice and also holds down an extremely demanding day job. I wish her every luck for the final which is being held in Cardiff next week.
Vikki, aka army Major Victoria Montgomery QARANC, 206 MMR, has worked for Betsi Cadwaladr University Health Board for almost 24 years in one guise or another and moved from the Isle of Man to take up nursing training at the University of Wales, Bangor, in 1996.
She started her army career with 208 Liverpool Field Hospital in 2001 and rose to the rank of Major in the Queen Alexandra Royal Army Nursing Corps.
Vikki supports the Army Medical Service Training Centre and BCUHB with resuscitation training as immediate life support and advanced life support instructor when able.
She also runs an honorary contracts (HC) project for regular and reserve armed forces personnel with the backing of the Health Board.
The scheme supports and enables HC participants to maintain and increase their clinical skills and exposure to healthcare provision to ensure they are deployable.
Vikki has seen active service in Iraq twice, been on a military exchange programme with the US National Guard in Virginia and been deployed on military exercises across the UK, Europe and the Americas.
Sam Rowlands AS yn falch o lwyddiant i filwr wrth gefn o Ysbyty Gogledd Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn falch iawn o weld milwr wrth gefn o'r fyddin leol o Ysbyty Glan Clwyd, ar y rhestr fer ar gyfer gwobr glodfawr.
Mae Vikki Montgomery, uwch-ymarferydd clinigol ac uwch-gapten yn lluoedd wrthgefn y fyddin, wedi cyrraedd rowndiau terfynol gwobr Milwyr Wrth Gefn y Flwyddyn.
Dywedodd Mr Rowlands:
Rwy'n falch iawn o glywed bod Vikki wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Cyn-filwyr Cymru, mae'n gyflawniad gwych.
Does gen i ddim byd ond edmygedd i unrhyw un sy'n gwirfoddoli fel milwr wrth gefn ac rwy'n falch o weld rhywun o Ogledd Cymru yn cael cydnabyddiaeth.
Fel milwr wrth gefn, mae Vikki wedi gweld gwasanaeth gweithredol yn Irac ddwywaith ac mae ganddi hefyd swydd o ddydd i ddydd hynod heriol. Rwy'n dymuno pob lwc iddi ar gyfer y rownd derfynol sy'n cael ei chynnal yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf.
Mae Vikki, sef yr Uwch-gapten Victoria Montgomery QARANC, 206 MMR, wedi gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am bron i 24 mlynedd ar un wedd neu'i gilydd ers symud o Ynys Manaw i ymgymryd â hyfforddiant nyrsio ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, ym 1996.
Dechreuodd ei gyrfa yn y fyddin yn Ysbyty Maes Lerpwl 208 yn 2001 a chododd i safle Uwch-gapten yng Nghorfflu Nyrsio Brenhinol y Fyddin y Frenhines Alexandra.
Mae Vikki yn cefnogi Canolfan Hyfforddi Gwasanaeth Meddygol y Fyddin a BIPBC gyda hyfforddiant adfywio fel hyfforddwr cynnal bywyd brys a hyfforddwr cynnal bywyd uwch pan fo'n bosibl.
Mae hi hefyd yn cynnal prosiect contractau er anrhydedd (HC) ar gyfer personél rheolaidd ac wrth gefn y lluoedd arfog gyda chefnogaeth y Bwrdd Iechyd.
Mae'r cynllun yn cefnogi ac yn galluogi cyfranogwyr contractau er anrhydedd i gynnal a datblygu eu sgiliau clinigol a dod i gysylltiad â darpariaeth gofal iechyd i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio.
Mae Vikki wedi bod ar wasanaeth gweithredol yn Irac ddwywaith, wedi bod ar raglen gyfnewid filwrol gyda Gwarchodlu Cenedlaethol yr Unol Daleithiau yn Virginia ac wedi cael ei defnyddio ar ymarferion milwrol ledled y DU, Ewrop ac America.