Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging local councils in his region to listen to their residents.
This week, Welsh Parliament once again debated the proposal to introduce a blanket 20mph speed limit across Wales after more than 21,000 people signed a petition against the plan.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and harsh critic of the proposal said:
This default change to 20mph will be one of the most significant visual changes that has happened in the period of devolution. It will impact people across the whole of Wales on a daily basis, and, as the Chairman of the Petitions Committee pointed out, my region of North Wales has a particular interest, as Buckley was one of the guinea pigs for the Welsh Government trials.
To get an idea of the public feeling on the matter, I conducted a survey amongst residents in Buckley, where 97% of the respondents, who'd had this experience of this 20mph across the whole area, said that the trial had been a failure and they wanted it ditched.
I think it's also important to consider the unintended consequences of this measure, the knock-on effects being taken into consideration. For example, domiciliary care workers who need to use vehicles in order to see vulnerable patients, from one home to the next, often travelling within villages or between small towns, either they're going to have to see fewer of those vulnerable people to be supported, or they're going to have to work longer hours to satisfy this requirement.
Another group of people, who will be impacted of course are delivery drivers, often on perhaps minimum wage, taking those packages across towns and villages, who have to meet strict time deadlines in order to make a living. They're going to be significantly impacted by this change as will retained firefighters.
If you have got people working hard, day in and day out, the policy, which is going to be implemented, let's face it, will make their lives more difficult, and, ultimately, slows Wales down. Being put bluntly, this blanket 20mph is anti-growth, anti-jobs, and makes the lives of people in Wales even harder. It should be ditched.
Speaking after the debate Mr Rowlands added:
I am obviously very disappointed but not at all surprised that Labour Ministers in Cardiff once again refuse to listen to what people want. Quite clearly the petition showed that thousands of people are against this blanket 20mph speed limit on our arterial roads yet it will still go ahead.
If Welsh Government won’t listen then I hope local authorities will take a sensible approach and make sure the 20mph speed limits are only applied where it is absolutely necessary like outside schools, hospitals and other areas where evidence shows it’s a benefit.
Sam Rowlands AS yn galw ar awdurdodau lleol i fod yn synhwyrol wrth gyflwyno terfynau cyflymder o 20mya ar draws eu siroedd
Mae Sam Rowlands, Aelod o Senedd Cymru dros Ogledd Cymru, yn annog cynghorau lleol yn ei ranbarth i wrando ar eu trigolion.
Yr wythnos hon, bu Senedd Cymru unwaith eto yn trafod y cynnig i gyflwyno terfyn cyflymder 20mya ledled Cymru gyfan ar ôl i dros 21,000 o bobl arwyddo deiseb yn erbyn y cynllun.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid sy’n hynod feirniadol o’r cynnig:
Bydd y newid diofyn hwn i 20mya yn un o’r newidiadau gweledol mwyaf arwyddocaol sydd wedi digwydd yng nghyfnod datganoli. Bydd yn effeithio ar bobl ar draws Cymru gyfan yn ddyddiol, ac, fel y nododd Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, mae o ddiddordeb arbennig i fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru, gan fod Bwcle yn un o’r lleoliadau ar gyfer treialon Llywodraeth Cymru.
Er mwyn cael syniad o’r farn gyhoeddus ar y mater, rwyf wedi cynnal arolwg ymhlith trigolion Bwcle, gyda 97% o’r ymatebwyr, a oedd wedi profi’r cyfyngiad 20mya ar draws yr ardal gyfan, yn dweud fod yr arbrawf wedi methu a bod angen cael gwared arno.
Rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig ystyried canlyniadau anfwriadol y mesur hwn, a chofio am yr effeithiau sy’n dod yn ei sgil. Er enghraifft, gweithwyr gofal cartref sydd angen defnyddio cerbydau er mwyn gweld cleifion sy’n agored i niwed, o un cartref i’r llall, yn aml yn teithio mewn pentrefi neu rhwng trefi bach. Bydd yn rhaid iddynt naill ai weld llai o’r bobl fregus hynny sydd angen eu cefnogaeth, neu weithio oriau hirach i fodloni’r gofyniad hwn.
Grŵp arall o bobl a fydd yn cael eu heffeithio, wrth gwrs yw gyrwyr danfon nwyddau , yn aml ar isafswm cyflog efallai, yn dosbarthu pecynnau mewn trefi a phentrefi, sy’n gorfod bodloni terfynau amser llym er mwyn gwneud bywoliaeth. Bydd y newid hwn yn effeithio’n sylweddol arnyn nhw, yn ogystal â diffoddwyr tân wrth gefn.
Gyda phobl sy’n gweithio’n galed, o un diwrnod i’r llall, bydd y polisi – sy’n mynd i gael ei weithredu, waeth i ni wynebu hynny – yn gwneud eu bywydau’n anoddach, ac, yn y pen draw, yn arafu Cymru. Yn blwmp ac yn blaen, mae’r cyfyngiad 20mya hwn yn gam sy’n mynd yn erbyn tyfiant a swyddi. ac mae’n gwneud bywydau pobl yng Nghymru yn anoddach fyth. Dylid rhoi’r gorau iddo.
Wrth siarad wedi’r ddadl, ychwanegodd Mr Rowlands:
Rwy’n amlwg yn siomedig iawn, ond heb synnu o gwbl, fod Gweinidogion Llafur yng Nghaerdydd unwaith eto yn gwrthod gwrando ar yr hyn mae pobl ei eisiau. Yn amlwg, mae’r ddeiseb yn dangos fod miloedd o bobl yn erbyn y terfyn cyflymder 20mya ar bob un o’n ffyrdd prifwythiennol eto bydd yn dal i ddod i rym.
Os na fydd Llywodraeth Cymru yn gwrando, rwy’n gobeithio y bydd awdurdodau lleol yn bod yn synhwyrol a sicrhau bod y terfynau cyflymder o 20mya yn cael eu gweithredu mewn mannau cwbl angenrheidiol yn unig, fel yn agos at ysgolion, ysbytai ac ardaloedd eraill lle mae tystiolaeth yn dangos y byddai’n fuddiol.