Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, says improvement plans for the Wrexham to Bidston rail line are long overdue.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and a harsh critic of railway transport in North Wales said:
Obviously I welcome any plans to improve the rail services in my region but I still remain worried as Transport for Wales is wholly owned by the Welsh Government and they do not have a great past track record for delivering on what they promise.
It is clear to me from emails I receive from residents that the quality and reliability of services on the Wrexham to Bidston line in North Wales and the borders falls short of what should be expected. For too long my region has been bearing the brunt of under investment and passengers in North Wales are the ones who suffer.
Looking to the future many people are trying to look at moving to using more public transport, supporting our environment, and cutting carbon emissions so it is vital things like rail services are improved as soon as possible.
Transport for Wales has announced a 5-step improvement plan for rail services on the Wrexham to Bidston line in North Wales and the borders.
James Price, Transport for Wales CEO recently visited North Wales to see the new Class 230 trains that operate on the route. He also had a tour of the train depot in Birkenhead, that TfW has recently invested in to help maintain the new trains.
The 5-step plan includes improving the reliability of the new Class 230 trains through investment into the new depot at Birkenhead, improving customer service and information available during disruption and keeping all rail replacement to a minimum.
Learning from customer feedback, TfW will also make buying tickets as easy as possible and is reviewing all ticketing options, as well as continually reviewing the rail timetable.
James Price, Transport for Wales CEO said:
We understand the frustrations of passengers using the Wrexham to Bidston line over the past few months. First the line lost its train service due to a safety issue with engines on our trains and this resulted in replacement buses running.
Following that, we introduced our refurbished Class 230 trains to the line and unfortunately, we’ve experienced teething problems and technical issues.
However, I’m happy to announce today that we now have a 5-step improvement plan in place that will focus on stabilising the reliability of our new trains and improving the service. I’ve visited the new depot in Birkenhead that will allow us to carry out maintenance on our Class 230s at a faster pace and have assured myself that we are doing everything possible to see an improvement in the service over the coming months.
Sam Rowlands AS yn ofalus wrth groesawu cynlluniau i wella gwasanaethau rheilffordd yng Ngogledd Cymru
Dywed Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, ei bod hi’n hen bryd i roi cynlluniau gwella ar waith ar gyfer rheilffordd Wrecsam i Bidston.
Dywedodd Mr Rowlands, sef Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, ac sydd hefyd yn feirniadol o drafnidiaeth rheilffordd yng Ngogledd Cymru:
Yn amlwg, rwy'n croesawu unrhyw gynlluniau i wella'r gwasanaethau rheilffyrdd yn fy rhanbarth ond rwy'n dal i boeni oherwydd mae Trafnidiaeth Cymru yn eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru a does ganddyn nhw ddim hanes gwych o gyflawni'r hyn y maen nhw’n ei addo.
Mae'n amlwg i mi o ddarllen yr e-byst rwy'n eu derbyn gan breswylwyr nad yw ansawdd a dibynadwyedd y gwasanaethau ar y lein o Wrecsam i Bidston yn y gogledd a'r gororau mor dda ag y dylent fod. Ers rhy hir, mae fy rhanbarth wedi bod yn dioddef diffyg buddsoddiad a theithwyr y gogledd yw'r rhai sy'n dioddef.
Wrth edrych i'r dyfodol mae llawer o bobl yn ceisio defnyddio mwy o drafnidiaeth gyhoeddus, gan gefnogi’r amgylchedd a thorri allyriadau carbon, felly mae'n hanfodol bod pethau fel gwasanaethau rheilffyrdd yn cael eu gwella cyn gynted â phosib.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gwelliant 5 cam ar gyfer gwasanaethau rheilffordd ar y lein o Wrecsam i Bidston yng Ngogledd Cymru a'r gororau.
Yn ddiweddar, aeth James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru, i’r gogledd i weld y trenau Dosbarth 230 newydd sy'n gweithredu ar y llwybr. Cafodd hefyd daith o amgylch y depo trên ym Mhenbedw - mae TrC wedi buddsoddi yn y depo yn ddiweddar i helpu i gynnal y trenau newydd.
Mae'r cynllun 5 cam yn cynnwys gwella dibynadwyedd y trenau Dosbarth 230 newydd trwy fuddsoddi yn y depo newydd ym Mhenbedw, gwella gwasanaeth cwsmeriaid a gwybodaeth sydd ar gael pan fo tarfu ar wasanaethau a defnyddio cyn lleied â phosibl o wasanaethau bws yn lle trenau.
Gan ddysgu o adborth cwsmeriaid, bydd TrC hefyd yn gwneud y broses o brynu tocynnau mor hawdd â phosibl ac yn adolygu'r holl opsiynau ar gyfer tocynnau, yn ogystal ag adolygu'r amserlen reilffyrdd yn barhaus.
Meddai James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:
Rydyn ni’n deall rhwystredigaethau teithwyr sydd wedi defnyddio'r llinell rhwng Wrecsam a Bidston dros y misoedd diwethaf. Yn gyntaf, doedd dim gwasanaeth trên ar y llinell oherwydd problem yn ymwneud â diogelwch gydag injan ein trenau. Roedd hyn yn golygu bod rhaid rhedeg gwasanaeth bysiau yn lle trenau.
Yn dilyn hynny, cyflwynwyd ein trenau Dosbarth 230 wedi'u hadnewyddu i'r llinell ac yn anffodus, rydyn ni wedi cael problemau cychwynnol a chymhlethdodau technegol.
Fodd bynnag, rwy'n falch o gyhoeddi heddiw bod gennym gynllun gwella 5 cam ar waith a fydd yn canolbwyntio ar sefydlogi dibynadwyedd ein trenau newydd a gwella'r gwasanaeth. Rwyf wedi ymweld â'r depo newydd ym Mhenbedw a fydd yn ein galluogi i gynnal a chadw ein trenau Dosbarth 230 yn gynt ac rwyf wedi gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth sy’n bosibl i weld gwelliant yn y gwasanaeth dros y misoedd nesaf.