Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is delighted to see a health board worker from his region being recognised in national awards.
Zoe Roberts, a former army regular, recently received the Armed Forces Covenant prize at the recent Armed Forces in Wales Awards in Newport
Mr Rowlands said:
I am delighted to congratulate Zoe, who originally hails from Abergele, for winning a prestigious military award for supporting veterans and for being invited to 10 Downing Street.
Zoe works as the armed forces covenant and veteran healthcare collaborative lead for Betsi Cadwaladr University Health Board and is heavily involved in helping past service men and women in their healthcare journey.
It is great to see the work which is being done in North Wales to support veterans to make sure they get equal access to healthcare. Well done Zoe.
It was a double celebration for Zoe, who was also invited to meet Secretary of State for Health and Social Care, Steve Barclay, at a reception for local NHS champions, at 10 Downing Street on July 4.
Also nominated for another honour in the awards, for their work in supporting veterans accessing mental health services, was the Health Board’s VNHSW team of peer mentors.
During her career, Zoe served with 39 Infantry Brigade Headquarters and Signal Squadron and UK Special Forces (UKSF) Joint Communications Unit (NI) in Northern Ireland.
She moved to the UK mainland to serve with the Special Reconnaissance Regiment (SRR) in Hereford, and from there, she moved to Shrewsbury to serve at 143 (WM) Brigade Headquarters. Zoe completed her army career with a posting to Gosport, Hampshire, with 33 Field Hospital (Haslar).
On leaving the Army, Zoe joined the NHS in Portsmouth, where she worked in a safeguarding role aligned to the Child Death Overview Panel.
Her career with the health board began in 2011, when she relocated back to North Wales and became a call handler and shift supervisor for the GP out of hours service. She then worked within the office of the central area’s medical director before becoming a workforce governance manager.
Prior to her role with the Veteran Healthcare Collaborative, she was the business and programme manager for the workforce directorate.
Sam Rowlands AS yn llongyfarch gweithiwr bwrdd iechyd Gogledd Cymru am gefnogi cyn-filwyr
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn falch iawn o weld gweithiwr bwrdd iechyd o'i ranbarth yn cael ei chydnabod mewn gwobrau cenedlaethol.
Yn ddiweddar, derbyniodd Zoe Roberts, sy’n gyn-aelod rheolaidd o'r fyddin, wobr Cyfamod y Lluoedd Arfog yng Ngwobrau diweddar y Lluoedd Arfog yng Nghymru a gynhaliwyd yng Nghasnewydd.
Meddai Mr Rowlands:
Rwy'n falch iawn o longyfarch Zoe, sy'n wreiddiol o Abergele, am ennill gwobr filwrol fawreddog yn sgil ei gwaith yn cefnogi cyn-filwyr ac am gael gwahoddiad i 10 Downing Street.
Mae Zoe yn gweithio fel arweinydd rhaglen gydweithredol gofal iechyd cyn-filwyr Gogledd Cymru a Chyfamod y Lluoedd Arfog i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae'n ymwneud yn helaeth â helpu dynion a menywod a fu’n aelodau o’r lluoedd arfog yn y gorffennol gyda’u gofal iechyd.
Mae'n wych gweld y gwaith sy'n cael ei wneud yn y gogledd i gefnogi cyn-filwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cael mynediad cyfartal at ofal iechyd. Da iawn, Zoe.
Roedd gan Zoe ddau reswm i ddathlu. Cafodd ei gwahodd hefyd i gwrdd â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Steve Barclay, mewn derbyniad ar gyfer pencampwyr lleol y GIG, yn 10 Downing Street ar 4 Gorffennaf.
Cafodd tîm mentoriaid i gymheiriaid VNHSW y Bwrdd Iechyd ei enwebu am anrhydedd arall yn y gwobrau, am eu gwaith yn cefnogi cyn-filwyr i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl.
Yn ystod ei gyrfa, gwasanaethodd Zoe gyda Phencadlys Brigâd Troedfilwyr 39 a Sgwadron Signal ac Uned Gyfathrebu ar y Cyd Lluoedd Arbennig y DU (UKSF) yng Ngogledd Iwerddon.
Symudodd o Ogledd Iwerddon i wasanaethu gyda'r Gatrawd Rhagchwilio Arbennig (SRR) yn Henffordd, ac oddi yno, symudodd i'r Amwythig i wasanaethu ym Mhencadlys Brigâd 143 (WM). Cwblhaodd Zoe ei gyrfa yn y fyddin mewn swydd yn Gosport, Hampshire, gydag Ysbyty Maes 33 (Haslar).
Ar ôl gadael y Fyddin, ymunodd Zoe â'r GIG yn Portsmouth, lle bu'n gweithio mewn rôl ddiogelu ynghlwm wrth waith y Panel Trosolwg o Farwolaethau Plant.
Dechreuodd ei gyrfa gyda'r bwrdd iechyd yn 2011, pan symudodd yn ôl i Ogledd Cymru. Gweithiodd fel atebwr galwadau a goruchwyliwr sifftiau ar gyfer y gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau. Yna bu'n gweithio o fewn swyddfa cyfarwyddwr meddygol yr ardal ganolog cyn dod yn rheolwr llywodraethu'r gweithlu.
Cyn ei rôl gyda'r Rhaglen Gydweithredol Gofal Iechyd Cyn-filwyr, hi oedd rheolwr busnes a rhaglen y gyfarwyddiaeth gweithlu.