Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has written to the Secretary of State for Wales urging him to step in over plans to house 400 refugees in Northop Hall.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, who has visited the site and believes it is totally unsuitable to house asylum seekers, has written to the Minister, David TC Davies, asking him to intervene in the matter.
In his letter he said:
I have recently been contacted by Northop Hall Village Action, a campaign group that has been set up in response to plans to convert the Northop Hall Country House Hotel into accommodation for asylum seekers.
The hotel currently shares its grounds with a cattery and two residential premises which are part of the same building as the hotel. Having visited the site in person, I believe it would, be impossible to effectively separate the hotel from the cattery and residential homes.
I would be grateful if the Home Office could consider disregarding the site at this early stage and hope you will raise this with your colleagues in Cabinet.
Late last month, a planning application to house 400 single male asylum seekers in the former hotel were submitted to Flintshire County Council.
The plans show that approximately 250 people would be accommodated in modular temporary units which would be removed from site at the end of the period with 150 accommodated within the existing building.
Mr Rowlands added:
The small village of Northop Hall, which has a population of 1,500 people, and lots of young families, is wholly unsuitable to house asylum seekers.
It would increase Northop Hall’s population by 29% and the influx will add considerable strain to the existing healthcare facilities, transport infrastructure and other local amenities around Northop Hall.
As Chair of Welsh Parliament’s Cross-Party Group on Tourism I am also very concerned that the proposals will see a large hotel, which supports the tourism economy in North Wales, taken out of use and would prefer to see the hotel reopen to the public and welcome visitors to my region.
Sam Rowlands AS yn galw ar Ysgrifennydd Cymru i ymyrryd dros gynigion i newid gwesty yng Ngogledd Cymru yn llety i geiswyr lloches
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ei annog i gamu i'r adwy gyda’r cynlluniau i gartrefu 400 o ffoaduriaid yn Northop Hall.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid dros y Ceidwadwyr Cymreig, wedi ymweld â'r safle ac mae’n credu ei fod yn gwbl anaddas i gartrefu ceiswyr lloches. Mae wedi ysgrifennu at y Gweinidog, David TC Davies, yn gofyn iddo ymyrryd yn y mater.
Yn ei lythyr, dywedodd:
Yn ddiweddar, mae Village Action Northop Hall wedi cysylltu â mi, sef grŵp ymgyrchu sydd wedi'i sefydlu mewn ymateb i gynlluniau i droi gwesty Northop Hall Country House Hotel yn llety i geiswyr lloches.
Ar hyn o bryd mae'r gwesty yn rhannu ei dir gyda gwasanaeth gwarchod cathod a dau adeilad preswyl sy'n rhan o'r un adeilad â'r gwesty. Ar ôl ymweld â'r safle'n bersonol, credaf y byddai'n amhosibl gwahanu'r gwesty oddi wrth y cartrefi preswyl a'r llety cathod mewn ffordd effeithiol.
Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Swyddfa Gartref ystyried diystyru'r safle yn y cyfnod cynnar hwn ac rwy'n gobeithio y byddwch yn codi hyn gyda'ch cydweithwyr yn y Cabinet.
Ddiwedd y mis diwethaf, cafodd cais cynllunio i gartrefu 400 o geiswyr lloches gwrywaidd sengl yn yr hen westy ei gyflwyno i Gyngor Sir y Fflint.
Mae'r cynlluniau'n dangos y byddai tua 250 o bobl yn cael eu lletya mewn unedau dros dro modiwlaidd a fyddai'n cael eu symud o'r safle ar ddiwedd y cyfnod gyda 150 yn cael eu lletya yn yr adeilad presennol.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Mae pentref bach Northop Hall sydd â phoblogaeth o 1,500 o bobl, a llawer o deuluoedd ifanc, yn gwbl anaddas i gartrefu ceiswyr lloches.
Byddai'n cynyddu poblogaeth Northop Hall 29% a bydd y mewnlifiad yn ychwanegu straen sylweddol ar y cyfleusterau gofal iechyd, seilwaith trafnidiaeth ac amwynderau lleol eraill sy’n bodoli ar hyn o bryd o amgylch Northop Hall.
Fel Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol Senedd Cymru ar Dwristiaeth, rwyf hefyd yn bryderus iawn y bydd y cynnig hwn yn golygu na fydd gwesty mawr, sy'n cefnogi'r economi twristiaeth yng Ngogledd Cymru, yn cael ei ddefnyddio. Byddai'n well gennyf weld y gwesty yn ailagor i'r cyhoedd ac yn croesawu ymwelwyr i'm rhanbarth.