Clwyd West MS Darren Millar is supporting the Clwyd West Levelling Up programme and encouraging residents to find out more about the 10 projects which will benefit from the funding by attending a drop-in information event which will take place later this month.
On January 19 Denbighshire County Council received confirmation that they had secured £10.95m from the UK Government’s Levelling Up Fund for the Clwyd West constituency to support the development of 10 projects aimed at protecting Ruthin’s unique heritage, wellbeing and rural communities.
These projects are expected to be delivered by March 2025 with construction work likely to begin later next year.
On July 18th there will be a drop-in information event in Ruthin, to provide the public with the opportunity to learn more about the exciting work that is due to take place in Ruthin and surrounding communities as part of the Clwyd West Levelling Up programme, and Darren is encouraging residents in Clwyd West to attend.
He said:
I was delighted in January when it was announced that Denbighshire will receive almost £11 million to restore historic monuments in Ruthin and pay for improvements to the townscape.
The funding will also be used to provide new community facilities in the villages of Bryneglwys and Gwyddelwern and visitor facilities at Moel Famau and Loggerheads.
I know people living in the area are excited about this investment from the UK Government and the drop-in event organised by Denbighshire County Council provides them with an opportunity to find out more about the projects the money will be spent on.
I am pleased that the council are involving the local community in this way and encourage people to attend.” Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is also urging local people to find out more about what is happening in their community.
He said:
I am delighted to see local people will be given the opportunity to find out more about the exciting work which is due to take place in Ruthin and the surrounding areas as part of the Clwyd West Levelling Up programme.
Earlier this year, thanks to UK Government’s Levelling Up Fund, Denbighshire County Council secured £10.95m for the Clwyd West constituency and will use the money to support the development of 10 projects in the region.
I was really pleased to hear about the successful bid and it is great to see the council now sharing the information with the public.
There are two main strands to the Clwyd West Levelling Up programme. The first will focus on protecting Ruthin’s unique heritage and wellbeing through public realm enhancements and revitalising historical buildings and landmarks to support local identity, promote pride of place and boost the image of the town.
The second will focus on protecting Ruthin’s rural communities and wellbeing through improvements to the AONB sites of Loggerheads and Moel Famau and new community hubs in the rural surrounding villages of Bryneglwys and Gwyddelwern.
The council will be responsible for delivering eight of the projects, while Dyffryn Clwyd Mission and Bryneglwys Cymdeithas Canolfan Ial Association will deliver the final two projects.
Find out more about the Clwyd West Levelling Up programme on the Denbighshire Council website: https://www.denbighshire.gov.uk/en/community-and-living/community-development/levelling-up-fund/luf-successful-project-bids-round-2.aspx
Annog trigolion i fynychu Digwyddiad Gwybodaeth Cronfa Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd
Mae’r Aelod o’r Senedd dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, yn cefnogi rhaglen Ffyniant Bro yr ardal ac yn annog trigolion i ddod i wybod mwy am y 10 prosiect a fydd yn elwa ar y cyllid drwy fynychu digwyddiad gwybodaeth galw heibio a fydd yn cael ei gynnal yn ddiweddarach y mis hwn.
Ar 19 Ionawr cafodd Cyngor Sir Ddinbych gadarnhad eu bod wedi sicrhau £10.95m o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ar gyfer etholaeth Gorllewin Clwyd er mwyn cefnogi datblygiad 10 prosiect gyda'r nod o ddiogelu treftadaeth, llesiant a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.
Disgwylir i'r prosiectau hyn gael eu cyflawni erbyn mis Mawrth 2025 ac mae'n debygol y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf.
Ar 18 Gorffennaf cynhelir digwyddiad gwybodaeth galw heibio yn Rhuthun, i roi cyfle i'r cyhoedd ddysgu mwy am y gwaith cyffrous sydd wedi’i gynllunio ar gyfer Rhuthun a'r cymunedau cyfagos fel rhan o raglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd, ac mae Darren yn annog trigolion Gorllewin Clwyd i ddod i’r digwyddiad.
Meddai:
Roeddwn wrth fy modd ym mis Ionawr pan gyhoeddwyd y byddai Sir Ddinbych yn derbyn bron i £11 miliwn i adfer henebion hanesyddol yn Rhuthun a thalu am welliannau i dreflun Rhuthun.
Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cyfleusterau cymunedol newydd ym mhentrefi Bryneglwys a Gwyddelwern a chyfleusterau i ymwelwyr ym Moel Famau a Loggerheads.
Rwy'n gwybod bod pobl sy'n byw yn yr ardal wedi’u cyffroi gyda’r buddsoddiad hwn gan Lywodraeth y DU ac mae'r digwyddiad galw heibio sydd wedi’i drefnu gan Gyngor Sir Ddinbych yn rhoi cyfle iddyn nhw gael gwybod mwy am y prosiectau y bydd yr arian yn cael ei wario arnyn nhw.
Rwy'n falch bod y cyngor yn cynnwys y gymuned leol fel hyn ac yn annog pobl i fynychu." Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, hefyd yn annog pobl leol i ddod i wybod mwy am yr hyn sy'n digwydd yn eu cymuned.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o weld y bydd pobl leol yn cael cyfle i ddysgu mwy am y gwaith cyffrous sydd ar y gweill yn Rhuthun a'r ardaloedd cyfagos fel rhan o raglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd.
Yn gynharach eleni, diolch i Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, llwyddodd Cyngor Sir Ddinbych i gael £10.95m ar gyfer etholaeth Gorllewin Clwyd a bydd yn defnyddio'r arian i gefnogi datblygiad 10 prosiect yn y rhanbarth.
Roeddwn yn falch iawn o glywed am y cais llwyddiannus ac mae'n wych gweld y cyngor nawr yn rhannu'r wybodaeth gyda'r cyhoedd.
Mae dwy brif elfen i raglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd. Bydd y cyntaf yn canolbwyntio ar ddiogelu treftadaeth a lles unigryw Rhuthun trwy wneud gwelliannau i dir cyhoeddus ac adfywio adeiladau a thirnodau hanesyddol i gefnogi hunaniaeth leol, hyrwyddo balchder o le a hybu delwedd y dref.
Bydd yr ail yn canolbwyntio ar ddiogelu cymunedau gwledig a lles Rhuthun trwy wneud gwelliannau i safleoedd AHNE Loggerheads a Moel Famau a datblygu hybiau cymunedol newydd ym mhentrefi gwledig Bryneglwys a Gwyddelwern.
Bydd y cyngor yn gyfrifol am gyflawni wyth o'r prosiectau, tra bydd Cenhadaeth Dyffryn Clwyd a Chymdeithas Canolfan Iâl Bryneglwys yn cyflawni'r ddau brosiect olaf.
Mae rhagor o wybodaeth am raglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd ar gael ar wefan Cyngor Sir Ddinbych: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/datblygu-cymunedol/cronfa-ffyniant-bro/rownd-2-cronfa-ffyniant-bro-cynigion-prosiect-llwyddiannus.aspx