Sam Rowlands Member of Welsh Parliament for North Wales, is calling on his constituents to support a county show next week.
The Denbigh and Flint Show is on Thursday August 17, with organisers promising plenty of things for the whole family.
Mr Rowlands, a keen supporter of local farmers and the agricultural industry, is now calling on members of the public to back the event.
He said:
I am delighted to promote this popular annual show which is a very important part of the rural calendar and attracts thousands of people.
It is an excellent place to experience the best of Wales as many of our Welsh farmers will be showcasing their products and showing their livestock.
This year the main attraction in the ring will be the Stannage Stunt Team, heart stopping stunt riders who will be performing motorbike jumps, fire runs and flaming high dives and lots more.
There is quite simply something for all ages whether you just want to browse the various stalls or watch a display. It truly is an agricultural extravaganza and well worth a visit.
The Denbighshire and Flint Show, which takes place on the Green near Denbigh, North Wales, takes place on the third Thursday in August each year and attracts around 14,000 visitors.
There is a wide range of livestock and equine competitions, including show jumping and other attractions include the Food Hall, and the exciting shearing competitions.
With around 200 stands at the show every year, the trade area provides a great shopping area for visitors and traders alike.
Nearly 200 volunteers help out on the day to make the event a success and top standard exhibitors and judges from all over the country are also involved with thousands of rosettes given out, and nearly 150 prizes in the various sections.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Sioe Dinbych a Fflint 2023
Mae Sam Rowlands AS Gogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i gefnogi sioe sirol yr wythnos nesaf.
Cynhelir Sioe Dinbych a Fflint ddydd Iau Awst 17, gyda'r trefnwyr yn addo llond cae o bethau i'r teulu cyfan.
Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd i ffermwyr lleol a'r diwydiant amaethyddol, yn galw ar aelodau'r cyhoedd i gefnogi'r digwyddiad.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o hyrwyddo'r sioe flynyddol boblogaidd hon sy'n rhan bwysig iawn o'r calendr gwledig ac sy'n denu miloedd o bobl.
Mae'n lle ardderchog i brofi'r gorau o Gymru gan y bydd llawer o'n ffermwyr ni'n arddangos eu cynnyrch a'u da byw.
Prif atyniad y cylch eleni fydd y Stannage Stunt Team, beicwyr styntiau cyffrous a fydd yn perfformio sgiliau neidio a deifio trwy danau, a llawer mwy.
Mae rhywbeth i bawb o bob oed, p'un ai'ch bod yn grwydro o stondin i stondin neu wylio arddangosfa. Mae'n strafagansa amaethyddol o'r iawn ryw, ac mae'n werth ymweld â hi.
Cynhelir Sioe Dinbych a Fflint ar y Lawnt ger Dinbych ar y trydydd dydd Iau ym mis Awst bob blwyddyn ac mae'n denu tua 14,000 o ymwelwyr.
Mae amrywiaeth eang o gystadlaethau da byw a cheffylau, gan gynnwys naid ceffylau ac atyniadau eraill yn cynnwys y Neuadd Fwyd, a'r cystadlaethau cneifio cyffrous.
Gyda thua 200 o stondinau yn y sioe bob blwyddyn, mae'r ardal fasnach yn cynnig ardal siopa wych i ymwelwyr a masnachwyr fel ei gilydd.
Mae bron i 200 o wirfoddolwyr yn helpu ar y diwrnod i sicrhau digwyddiad llwyddiannus ac mae arddangoswyr a beirniaid safonol o bob cwr o'r wlad hefyd yn cymryd rhan, gyda miloedd o rosedi a bron i 150 o wobrau yn cael eu cyflwyno yn yr adrannau gwahanol.