Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is delighted to see constituents being encouraged to grow their own food in his Region.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government said:
I am a great supporter of encouraging people to grow their own fresh food and really pleased to see this community initiative taking off in Denbigh.
It is so important that we all learn about the benefits of growing things and it is great to see so many people getting involved.
Well done to Denbighshire Countryside Services staff and volunteers who have linked up with Incredible Edible Denbigh, to help prepare allotment spaces donated to the group for planting and growing.
Incredible Edible groups work to create kind, confident and connected communities through the power of food and welcome members of the public to be a part of growing fresh produce locally.
Denbigh’s group is aiming to grow food with help from the local community, allowing people to access locally produced fruit and vegetable.
Incredible Edible Denbigh also aims to provide the community with the skills to grow food at home. A series of workshops are planned to teach people these skills as well as healthy cooking and how to value surplus food.
Denbighshire Countryside Services has helped the group plan and build the infrastructure needed to achieve their local aims.
This includes a disability access stone and dust path to grant access to the growing space, two raised beds, and a shelter which will provide storage space as well as protection from sun or rain.
Countryside Ranger Brad Shackleton said:
It has been really good to support Incredible Edible Denbigh’s fantastic work here in the town by helping them prepare their site. Giving the opportunity for the community to source local food and have a go growing themselves is a brilliant initiative.
Sue Lewis of Incredible Edible Denbigh, said:
Incredible Edible Denbigh is one part of the wider Community Food group which was formed following the Denbigh People's Assembly on sustainable, local food held last year.
She said they were grateful for the support they had in helping to make the community allotment a reality and hoped many more people will be inspired to join them.
Sam Rowlands AS yn falch o weld llwyddiant grŵp bwyd cymunedol yn Ninbych
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn falch iawn o weld etholwyr yn cael eu hannog i dyfu eu bwyd eu hunain yn ei Ranbarth.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid:
Dwi'n gefnogol iawn i annog pobl i dyfu eu bwyd ffres eu hunain ac yn falch iawn o weld y fenter gymunedol hon yn cychwyn yn Ninbych.
Mae mor bwysig ein bod ni i gyd yn dysgu am fanteision tyfu pethau ac mae'n wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan.
Dylid llongyfarch staff a gwirfoddolwyr Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych sydd wedi gweithio gydag Incredible Edible Denbigh, i helpu i baratoi rhandiroedd a roddwyd i'r grŵp ar gyfer plannu a thyfu.
Mae grwpiau Incredible Edible yn gweithio i greu cymunedau caredig, hyderus a chysylltiedig trwy bŵer bwyd ac yn croesawu aelodau o'r cyhoedd i fod yn rhan o dyfu cynnyrch ffres yn lleol.
Nod grŵp Dinbych yw tyfu bwyd gyda chymorth gan y gymuned leol, gan roi cyfle i bobl gael gafael ar ffrwythau a llysiau a dyfir yn lleol.
Mae Incredible Edible Denbigh yn ceisio darparu'r sgiliau i'r gymuned dyfu bwyd gartref hefyd. Mae cyfres o weithdai ar y gweill i addysgu'r sgiliau hyn i bobl yn ogystal â choginio iach a sut i werthfawrogi bwyd dros ben.
Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi helpu'r grŵp i gynllunio ac adeiladu'r seilwaith sydd ei angen i gyflawni ei nodau lleol.
Mae hyn yn cynnwys llwybr cerrig a llwch i roi mynediad i bobl anabl i'r man tyfu, dau wely uwch, a lloches a fydd yn darparu lle storio yn ogystal â chysgod rhag haul neu law.
Meddai Brad Shackleton, Ceidwad Cefn Gwlad:
Mae wedi bod yn dda iawn cefnogi gwaith gwych Incredible Edible Denbigh yma yn y dref trwy eu helpu i baratoi eu safle. Mae rhoi'r cyfle i'r gymuned gael gafael ar fwyd lleol a rhoi cynnig ar dyfu eu hunain yn fenter wych.
Meddai Sue Lewis o Incredible Edible Denbigh:
Mae Incredible Edible Denbigh yn un rhan o'r grŵp Bwyd Cymunedol ehangach a ffurfiwyd yn dilyn Cynulliad Pobl Dinbych ar fwyd lleol cynaliadwy a gynhaliwyd y llynedd.
Dywedodd eu bod yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsant i helpu i wireddu'r rhandir cymunedol a'u bod yn gobeithio y bydd llawer mwy o bobl yn cael eu hysbrydoli i ymuno â nhw.