Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has added his voice to protests against the controversial blanket 20mph in his Region.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, who has campaigned with residents in Buckley, against the proposals said he fully understood the frustration of motorists who have started to tie red ribbons on their car bonnets and grills to protest against the soon to be imposed new speed limit.
He said:
For the past 18 months I have been supporting campaigners in Buckley, who are totally against this scheme which comes into force across the whole of Wales on September 17.
It is completely bonkers and will have serious consequences for people who live, work and travel in North Wales and not in a good way.
Despite the vast majority of people being totally against the move and thousands signing a petition against it Welsh Government blithely carried on punishing motorists.
It is a real shame that people feel they have to resort to these measures to be heard by Welsh Government and I am not surprised that drivers have become frustrated and feel they need to protest and I am sure we will see a lot more red ribbons as we approach the launch date for the blanket 20mph speed limit.
Like most people I am not against introducing 20mph in certain areas and support letting councils put these limits outside schools, hospitals and other areas where evidence shows it’s a benefit, but a blanket 20mph speed limit across urban roads in Wales is just not right.
I would really like to see the Welsh Labour Government make a u turn on this ludicrous policy but as we all know they are not interested in the views of the electorate.
I make no apology for once again expressing my concern over the detrimental impact this default limit is going to have on people going about their daily lives and businesses.
Instead of slowing Wales down, Labour should grip the wheel and get Wales moving again with a pro-growth, pro-business, pro-worker programme that works for those who need to drive.
Sam Rowlands AS yn rhannu rhwystredigaeth gyrwyr gyda chyflwyniad arfaethedig terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi ychwanegu ei lais at y brotest yn erbyn y terfyn 20mya cyffredinol dadleuol yn ei Ranbarth.
Dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, sydd wedi ymgyrchu gyda thrigolion ym Mwcle yn erbyn y cynigion ei fod yn deall rhwystredigaeth modurwyr sydd wedi dechrau clymu rhubanau coch ar fonedi a griliau eu ceir i brotestio yn erbyn y terfyn cyflymder newydd a fydd yn dod i rym cyn bo hir.
Meddai:
Dros y deunaw mis diwethaf dwi wedi bod yn cefnogi ymgyrchwyr ym Mwcle, sy'n gwrthwynebu'r cynllun yma’n llwyr, sy'n dod i rym ledled Cymru ar 17 Medi.
Mae'n hollol hurt a bydd ganddo ganlyniadau difrifol i bobl sy'n byw, gweithio a theithio yn y Gogledd ac nid er lles.
Er bod y mwyafrif helaeth o bobl yn gwrthwynebu'r cam yn llwyr a miloedd wedi arwyddo deiseb yn ei erbyn, mae Llywodraeth Cymru’n benderfynol o barhau i gosbi modurwyr.
Mae'n drueni mawr fod pobl yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw droi at y mesurau hyn i gael eu clywed gan Lywodraeth Cymru, a dydw i ddim yn synnu bod gyrwyr yn rhwystredig ac yn teimlo bod angen iddyn nhw brotestio, a dwi'n siŵr y byddwn yn gweld llawer mwy o rubanau coch wrth i ni agosáu at y dyddiad lansio ar gyfer y terfyn cyflymder 20mya cyffredinol.
Fel y rhan fwyaf o bobl, dydw i ddim yn erbyn cyflwyno 20mya mewn rhai ardaloedd a dwi o blaid gadael i gynghorau roi'r terfynau hyn y tu allan i ysgolion, ysbytai ac ardaloedd eraill lle mae tystiolaeth yn dangos y byddai o fudd, ond dyw terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya ar bob ffordd drefol yng Nghymru ddim yn iawn.
Hoffwn weld Llywodraeth Lafur Cymru yn gwneud tro pedol ar y polisi chwerthinllyd hwn ond fel y gwyddom i gyd does ganddyn nhw ddim diddordeb ym marn yr etholwyr.
Dydw i ddim yn ymddiheuro am fynegi fy mhryder unwaith eto ynghylch yr effaith niweidiol y bydd y terfyn cyffredinol hwn yn ei chael ar bobl sy'n ceisio byw eu bywydau a'u busnesau bob dydd.
Yn hytrach nag arafu Cymru, dylai Llafur afael yn yr olwyn a chael Cymru’n symud eto gyda rhaglen o blaid twf, o blaid busnes ac o blaid gweithiwr sy'n gweithio i'r rhai sydd angen gyrru.