Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has expressed his delight at Wrexham being named the best university in Wales for teaching.
Mr Rowlands was commenting after this year’s National Student Survey showed that the university came out on top in Wales for teaching.
A keen supporter of the city’s university and its continued success, he said:
I am absolutely delighted with this news. The university continues to go from strength to strength and is quite clearly a popular place to study. It is great to see students from across the UK voting for Wrexham.
The city itself is continues to be a destination favourite with visitors, with a little help from Wrexham AFC, and it really is great to see the university being rated so highly by those studying there.
On the latest edition of The Times/Sunday Times Good University Guide, teaching at Wrexham University was ranked in the top 10 out of all universities across the UK, which is an excellent achievement.
I would like to congratulate everyone at the university for all their hard work and for helping to put the place firmly on the higher education map.
Wrexham University has been ranked the top university in Wales for teaching in this year’s National Student Survey.
Findings from the survey, undertaken by final year higher education students across the UK, show that it is the top university in Wales in teaching; assessment and feedback; student voice and Students’ Union.
Staff and students from across the university are also celebrating as a number of subject areas have received outstanding results, being ranked first in the UK in a number of sections, including: Nursing; Creative Art and Design; Physiotherapy and Forensic and Archaeological Sciences.
Commenting on the results of the survey, Professor Maria Hinfelaar, Vice-Chancellor, said:
This is a tremendous result and one which reflects not only the hard work of our academic staff but also the excellent experience students have, while studying with us here at Wrexham University.
As an institution, we are proud to be the top Welsh university for teaching, assessment and feedback, student voice and Students’ Union. It’s also wonderful to see Nursing, Applied Art, Physiotherapy and Forensic Science being ranked first in the UK in aspects of the survey.
We’re pleased to have achieved an overall satisfaction score of 81% – improving on last year’s score of 76%, and also exceeding the sector result across Welsh, Scottish and Northern Irish providers.
It’s also pleasing to see Adult Nursing, Criminology and Criminal Justice, Applied Art and Forensic Science ranking first for overall satisfaction. Congratulations to colleagues and students for their hard work this academic year.
Sam Rowlands AS yn croesawu llwyddiant parhaus Prifysgol Wrecsam
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn falch iawn o glywed bod Prifysgol Wrecsam wedi'i henwi fel y brifysgol orau yng Nghymru o safbwynt addysgu.
Roedd Mr Rowlands yn gwneud sylw wedi i’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr eleni ddangos bod y brifysgol wedi dod i'r brig yng Nghymru ar gyfer addysgu.
Ac yntau’n gefnogwr brwd o brifysgol y ddinas a'i llwyddiant parhaus, dywedodd:
Dwi'n falch iawn o glywed y newyddion hwn. Mae'r brifysgol yn parhau i fynd o nerth i nerth ac yn lle poblogaidd i astudio mae'n amlwg. Mae'n wych gweld myfyrwyr o bob rhan o'r DU yn pleidleisio dros Wrecsam.
Mae'r ddinas ei hun yn parhau i fod yn ffefryn ymhlith ymwelwyr, gyda rhywfaint o help gan Glwb Pêl-droed Wrecsam, ac mae'n wych gweld y brifysgol yn cael cystal sgôr gan y rhai sy'n astudio yno.
Yn rhifyn diweddaraf The Times/Sunday Times Good University Guide, roedd addysgu ym Mhrifysgol Wrecsam ymhlith y 10 uchaf o holl brifysgolion y DU, sy'n ardderchog.
Hoffwn longyfarch pawb yn y brifysgol am eu holl waith caled ac am helpu i roi'r lle ar y map addysg uwch.
Mae Prifysgol Wrecsam wedi'i rhestru fel y brifysgol orau yng Nghymru am addysgu yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr eleni.
Mae canfyddiadau'r arolwg, a gynhaliwyd gan fyfyrwyr addysg uwch yn eu blwyddyn olaf ledled y DU, yn dangos mai hon yw'r brifysgol orau yng Nghymru o ran addysgu; asesu ac adborth; llais myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr.
Mae staff a myfyrwyr o'r brifysgol drwyddi draw yn dathlu hefyd gan fod sawl maes pwnc wedi cael canlyniadau rhagorol, gan gael eu rhoi yn gyntaf yn y DU mewn nifer o adrannau, gan gynnwys: Nyrsio; Celf a Dylunio Creadigol; Ffisiotherapi a Gwyddorau Fforensig ac Archaeolegol.
Wrth sôn am ganlyniadau'r arolwg, dywedodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-ganghellor:
Mae hwn yn ganlyniad aruthrol ac yn un sy'n adlewyrchu nid yn unig waith caled ein staff academaidd ond hefyd profiad rhagorol myfyrwyr wrth astudio gyda ni yma ym Mhrifysgol Wrecsam.
Fel sefydliad, rydyn ni'n falch o fod y brifysgol orau yng Nghymru ar gyfer addysgu, asesu ac adborth, llais myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr. Mae’n wych hefyd gweld Nyrsio, Celf Gymhwysol, Ffisiotherapi a Gwyddoniaeth Fforensig yn cael eu gosod yn gyntaf yn y DU mewn agweddau ar yr arolwg.
Rydyn ni'n falch ein bod wedi cyflawni sgôr boddhad cyffredinol o 81% - gan wella ar sgôr y llynedd o 76%, a hefyd rhagori ar ganlyniad y sector ymhlith darparwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae’n braf hefyd gweld Nyrsio Oedolion, Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, Celf Gymhwysol a Gwyddoniaeth Fforensig yn y safle cyntaf am foddhad cyffredinol. Llongyfarchiadau i'r cydweithwyr a'r myfyrwyr am eu gwaith caled y flwyddyn academaidd hon.