Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed news that Gladstone’s Library and the Old Rectory will be giving visitors a chance to glimpse behind the scenes, where the public are not usually allowed.
On Saturday, September 16, visitors can take a combined tour for free and see both properties as part of Open Doors, CADW’s ever-popular festival of Wales’ built heritage.
Mr Rowlands, a great supporter of encouraging people to find out more about our heritage said:
I am a great supporter of this fantastic library and delighted that visitors will be able to take a look at what goes on behind the scenes there and in the Old Rectory which is now the home for North East Wales Archives.
Only last month Gladstone’s Library, which is a national attraction and an extremely valuable part of our heritage, was awarded £777,246 of funding by the National Heritage Memorial Fund.
I am delighted to see the two buildings offering combined tours on that day to celebrate Open Doors festival and urge anyone who wants to find out more about the buildings to book a place.
To commemorate 125 years since W.E. Gladstone’s death, this year’s Open Doors theme at both the Library and the Old Rectory is ‘The Gladstones at Hawarden’ and the two locations have teamed up to offer a joint tour of both sites.
The Library will be offering a chance to see some of the highlights of Gladstone’s Library’s printed collections and archives, have a tour of the Reading Rooms, and go behind the scenes in the strongrooms.
At the Old Rectory, now the home of North East Wales Archives, you can watch a video telling the story of the Gladstone family’s connection with the house, with glimpses of how the building looked during their time there, have a tour of the strongrooms where the County’s archives are kept and visit the Conservation Studio for a demonstration of preservation for historic documents.
Gladstone’s Library’s Warden, Revd Dr Andrea Russell, says: "We’re delighted to be collaborating with our neighbours for an event that takes advantage of not only our shared history but our close geography! The Library team are looking forward to welcoming visitors on a day that celebrates Hawarden’s fascinating past."
Tours last approximately 90 mins and booking is required and they begin from both sites at 10am, 11.30am and 1pm.
To book a tour starting at Gladstone’s Library, telephone 01244 532350 or email: [email protected]. To book a tour starting at the Old Rectory, telephone 01244 532364 or email: [email protected]
Sam Rowlands yn falch o weld dau adeilad hanesyddol ym Mhenarlâg yn cymryd rhan mewn gŵyl genedlaethol
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu'r newyddion y bydd Llyfrgell Gladstone a'r Hen Reithordy yn rhoi cyfle i ymwelwyr gael cipolwg y tu ôl i'r llenni, mewn mannau lle na chaniateir y cyhoedd fel arfer.
Ddydd Sadwrn, 16 Medi, gall ymwelwyr fynd ar daith gyfun am ddim a gweld y ddau eiddo fel rhan o Drysau Agored, gŵyl boblogaidd CADW sy’n dathlu treftadaeth adeiledig Cymru.
Meddai Mr Rowlands, sy’n frwd o blaid annog pobl i ddysgu mwy am ein treftadaeth:
Rwy'n gefnogwr brwd o'r llyfrgell wych hon ac wrth fy modd y bydd ymwelwyr yn gallu edrych ar yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yno ac yn yr Hen Reithordy sydd bellach yn gartref i Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru.
Cwta fis yn ôl, cafodd Llyfrgell Gladstone, sy'n atyniad cenedlaethol ac yn rhan hynod werthfawr o'n treftadaeth, £777,246 gan Gronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol.
Rwy'n falch iawn o weld y ddau adeilad yn cynnig teithiau cyfun ar y diwrnod hwnnw i ddathlu gŵyl Drysau Agored a hoffwn annog unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am yr adeiladau hyn i archebu lle.
I nodi 125 mlynedd ers marwolaeth W.E. Gladstone, thema Drysau Agored eleni yn y Llyfrgell a'r Hen Reithordy yw ‘Teulu’r Gladstone ym Mhenarlâg' ac mae'r ddau leoliad wedi dod at ei gilydd i gynnig taith ar y cyd o gwmpas y ddau safle.
Bydd y Llyfrgell yn cynnig cyfle i weld rhai o uchafbwyntiau casgliadau ac archifau printiedig Llyfrgell Gladstone, taith o amgylch yr Ystafelloedd Darllen, a mynd y tu ôl i'r llenni yn yr ystafelloedd lle cedwir archifau amhrisiadwy.
Yn yr Hen Reithordy, sydd bellach yn gartref i Archifdy Gogledd Ddwyrain Cymru, gallwch wylio fideo yn adrodd hanes cysylltiad y teulu Gladstone â'r tŷ, gyda chipolwg ar sut roedd yr adeilad yn edrych yn ystod eu hamser yno, mynd ar daith o amgylch yr ystafelloedd lle cedwir archifau'r Sir ac ymweld â'r Stiwdio Gadwraeth i weld sut y cedwir y dogfennau hanesyddol.
Meddai Warden Llyfrgell Gladstone, y Parchedig Dr Andrea Russell: "Rydyn ni’n falch iawn o gydweithio â'n cymdogion ar gyfer digwyddiad sy'n manteisio nid yn unig ar ein hanes a rennir ond ar ein daearyddiaeth agos! Mae tîm y Llyfrgell yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr ar ddiwrnod sy'n dathlu gorffennol hynod ddiddorol Penarlâg."
Mae'r teithiau'n para tua 90 munud ac mae angen archebu lle. Maen nhw’n dechrau o'r ddau safle am 10am, 11.30am ac 1pm.
I archebu taith yn Llyfrgell Gladstone, ffoniwch 01244 532350 neu e-bostiwch: [email protected]. I archebu taith yn yr Hen Reithordy, ffoniwch 01244 532364 neu e-bostiwch: [email protected]