Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is demanding immediate action to alleviate parking issues at Wrexham Maelor Hospital.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and a long-time critic of Betsi Cadwaladr University Health Board was commenting after local people expressed their concerns in a Wrexham newspaper.
He said:
Parking has been a major and challenging issue at all our hospitals in North Wales for many years and yet the health board continue to drag their feet to find solutions. And they do not seem to get any help or support from the Welsh Labour Government.
I regularly receive emails from angry constituents who have been faced with this problem, particularly at the Wrexham Maelor Hospital. I feel so very sorry on their behalf as it is something which really should have been resolved by now.
As a person who has experienced the problems at first hand I know the last thing anyone working, visiting or attending for appointments needs is to have to drive round and round to find a suitable parking space. Yet this is happening every day and has been getting steadily worse every year.
I recently read in a Wrexham newspaper about people’s experiences of trying to park with grass verges, pavements and yellow lines all being used for parking. This is clearly unacceptable as it is dangerous because it blocks pathways and forces people to walk on the busy roads.
I know the health board has vowed to improve the situation and last year bought Plas Gororau, which will help to alleviate some of the parking problems at the Maelor, but this is yet to open.
Meanwhile people are getting more and more anxious and stressed out.
I fully support Wrexham MP Sarah Atheron, who has taken up this issue with the health board and I will also be demanding answers from BCUHB and will be raising the matter in Welsh Parliament as a matter of urgency.
Sam Rowlands AS yn galw ar Fwrdd Iechyd Gogledd Cymru i ddelio ar frys â phroblemau parcio ysbyty
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn mynnu gweithredu ar unwaith i ddatrys problemau parcio yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Gwnaeth Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid a beirniad o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers amser maith y sylw wedi i bobl leol fynegi eu pryderon mewn papur newydd yn Wrecsam.
Meddai:
Mae parcio wedi bod yn broblem fawr a heriol ym mhob un o'n hysbytai yng Ngogledd Cymru ers blynyddoedd lawer ac eto mae'r bwrdd iechyd yn parhau i oedi cyn dod o hyd i atebion. Dyw hi ddim yn ymddangos eu bod yn cael unrhyw gymorth na chefnogaeth gan Lywodraeth Lafur Cymru.
Rwy'n derbyn e-byst yn rheolaidd gan etholwyr blin sydd wedi wynebu'r broblem hon, yn enwedig yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Rwy'n teimlo mor flin ar eu rhan gan ei fod yn rhywbeth y dylai fod wedi'i ddatrys erbyn hyn.
Fel person sydd wedi profi'r problemau fy hun, gwn mai'r peth olaf mae unrhyw un sy'n gweithio, yn ymweld neu'n mynychu apwyntiadau ei eisiau yw gorfod gyrru o gwmpas droeon yn chwilio am le parcio addas. Ond mae hyn yn digwydd bob dydd ac mae wedi bod yn gwaethygu'n raddol bob blwyddyn.
Yn ddiweddar, darllenais mewn papur newydd yn Wrecsam am brofiadau pobl yn ceisio parcio ar ymylon gwair, ar balmentydd ac ar linellau melyn. Mae hyn yn amlwg yn annerbyniol ac yn beryglus am ei fod yn rhwystro llwybrau ac yn gorfodi pobl i gerdded ar y ffyrdd prysur.
Gwn fod y bwrdd iechyd wedi addo gwella'r sefyllfa a'r llynedd fe brynodd Plas Gororau, fydd yn helpu i ysgafnhau rhai o'r problemau parcio yn Ysbyty Maelor, ond dydy o ddim eto wedi agor.
Yn y cyfamser mae pobl yn mynd yn fwyfwy pryderus ac o dan bwysau.
Rwy'n llwyr gefnogi Sarah Atheron, AS Wrecsam, sydd wedi codi’r broblem gyda'r bwrdd iechyd a byddaf hefyd yn mynnu atebion gan BIPBC ac yn codi'r mater yn y Senedd ar frys.