Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has expressed concern about support for heritage railways in North Wales.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, asked Dawn Bowden, Deputy Minister for Arts, Sports and Tourism, what steps were being taking to ensure suitable coal supplies for North Wales’ heritage rail sector.
The minister said they would encourage the industry to work with the Welsh Government to develop transition plans in line with the net-zero targets.
Mr Rowlands, Chair of the Welsh Parliament’s Cross-Party Group on Tourism, said:
The United Kingdom heritage railways are worth around £0.5 billion to the economy and some significant heritage railways are in my patch, in North Wales—the Ffestiniog and Welsh Highland Railway partially running through the region, attracting around 200,000 visitors a year. And there is, of course, also the Llangollen Railway, which generates around £8.5 million for the local economy.
Wales, of course, is rich with coal that would be perfect for use in the heritage rail sector. It's high quality and burns more efficiently than other types of coal, and, of course, does not need to be transported very far at all. Instead, at the moment, the sector is now having to look at importing coal from other countries—from the other side of the world, at times—with some of them having questionable human rights.
The money generated and the jobs supported by the heritage rail sector, relies on the use of coal at the moment. So, I wonder what you can do to ensure that coal from the United Kingdom can be used for this purpose, instead of having to import it from overseas, which will risk having a much worse environmental impact.
The Minister said they are looking to get the heritage railways to move away from the use of coal and wanted to encourage the industry to work with Government to develop transition plans.
Mr Rowlands added:
It is vital Welsh Government values the importance of these tourist attractions, especially in North Wales, where heritage railways are extremely popular and regularly attract thousands of visitors.
I do hope that every effort will be made to give them the support they need.
Sam Rowlands AS yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rheilffyrdd treftadaeth
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi mynegi pryder am gefnogaeth i reilffyrdd treftadaeth yng ngogledd Cymru.
Wrth siarad yn y Senedd, gofynnodd Mr Rowlands, i Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, pa gamau oedd yn cael eu cymryd i sicrhau cyflenwadau glo addas ar gyfer sector rheilffyrdd treftadaeth Gogledd Cymru.
Dywedodd y Gweinidog y bydden nhw’n annog y diwydiant i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau pontio yn unol â’r targedau sero-net.
Dywedodd Mr Rowlands, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol Senedd Cymru ar Dwristiaeth:
Mae rheilffyrdd treftadaeth y Deyrnas Unedig yn werth tua £0.5 biliwn i’r economi ac mae rhai rheilffyrdd treftadaeth sylweddol yn fy ardal i, yng ngogledd Cymru – mae Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Ucheldir Cymru yn rhedeg yn rhannol drwy’r rhanbarth, gan ddenu tua 200,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Mae Rheilffordd Llangollen yma hefyd, sy’n cynhyrchu tua £8.5 miliwn i’r economi leol.
Mae Cymru, wrth gwrs, yn gyforiog o lo a fyddai’n berffaith i’w ddefnyddio yn y sector rheilffyrdd treftadaeth. Mae o ansawdd uchel ac yn llosgi’n fwy effeithlon na mathau eraill o lo, ac, wrth gwrs, nid oes angen ei gludo’n bell iawn o gwbl. Yn lle hynny, fel mae hi, mae’r sector bellach yn gorfod ystyried mewnforio glo o wledydd eraill – o ben draw’r byd weithiau – rhai ohonyn nhw â record hawliau dynol amheus.
Mae’r arian sy’n cael ei gynhyrchu a’r swyddi sy’n cael eu cefnogi gan y sector rheilffyrdd treftadaeth yn dibynnu ar y defnydd o lo ar hyn o bryd. Felly, tybed beth allwch chi ei wneud i sicrhau bod glo o’r Deyrnas Unedig yn cael ei ddefnyddio at y diben hwn, yn hytrach na gorfod ei fewnforio o dramor, a’r perygl o effaith amgylcheddol llawer gwaeth sydd ynghlwm wrth hynny.
Dywedodd y Gweinidog mai’r bwriad yw cael y rheilffyrdd treftadaeth i symud i ffwrdd o’r defnydd o lo a’u bod am annog y diwydiant i weithio gyda’r Llywodraeth i ddatblygu cynlluniau pontio.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi pwysigrwydd yr atyniadau twristaidd hyn, yn enwedig yng ngogledd Cymru, lle mae rheilffyrdd treftadaeth yn hynod boblogaidd ac yn denu miloedd o ymwelwyr yn rheolaidd.
Rwy’n gobeithio y bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i roi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.