Sam Rowlands Member of the Welsh Parliament for North Wales is warning constituents to beware of fake recruitment messages and adverts.
Mr Rowlands was commenting after North Wales Police warned residents to be on their guard.
He said:
It is a sad fact that there are unscrupulous people out there attempting to con the public by pretending to offer jobs which don’t exist, especially at this difficult time.
It is a real shame that this is happening and unfortunately North Wales Police says this type of fraud is on the increase.
I back the warning from NWP and say to all my constituents, if you do receive a job offer please be aware of these fake messages and adverts.
Don’t be caught out and always check if something is genuine.
North Wales Police’s Cyber Unit have issued a warning about fake adverts and messages with some of them offering jobs provided they pay a non-refundable fee.
People in North Wales are now being urged to always carry out thorough research to ensure the employer is legitimate and never pay advance fees or share any of your bank details.
Employment fraud happens when a fraudster claims to be a recruitment agent, hiring you for a job – which can be in a foreign country - that doesn’t exist.
For more information on how to spot the signs of recruitment fraud here - https://www.actionfraud.police.uk/a-z-of-fraud/recruitment-scams
Sam Rowlands AS yn rhannu pryderon am hysbysebion recriwtio ffug
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn rhybuddio etholwyr i fod yn wyliadwrus o negeseuon a hysbysebion recriwtio ffug.
Roedd Mr Rowlands yn gwneud y sylw wedi i Heddlu Gogledd Cymru rybuddio trigolion i fod ar eu gwyliadwriaeth.
Meddai:
Mae'n ffaith drist bod yna bobl ddiegwyddor o gwmpas yn ceisio twyllo'r cyhoedd trwy esgus cynnig swyddi sydd ddim yn bodoli, yn enwedig ar yr adeg anodd hon.
Mae'n drueni mawr fod hyn yn digwydd ac yn anffodus mae Heddlu'r Gogledd yn dweud bod y math yma o dwyll ar gynnydd.
Rwy'n cefnogi'r rhybudd gan Heddlu Gogledd Cymru ac yn dweud wrth fy etholwyr i gyd, os ydych chi'n cael cynnig swydd, byddwch yn ymwybodol o'r negeseuon a'r hysbysebion ffug hyn.
Peidiwch â chael eich dal allan a gofalwch fod popeth yn ddilys.
Mae Uned Seiber Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi rhybudd am hysbysebion ffug a negeseuon gyda rhai ohonyn nhw’n cynnig swyddi ar yr amod eu bod yn talu ffi na ellir ei ad-dalu.
Mae pobl yng Ngogledd Cymru bellach yn cael eu hannog i ymchwilio’n drylwyr bob amser i sicrhau bod y cyflogwr yn ddilys ac i beidio talu ffioedd ymlaen llaw na rhannu unrhyw fanylion banc o gwbl.
Mae twyll cyflogaeth yn digwydd pan fo twyllwyr yn honni eu bod yn asiant recriwtio, yn eich llogi am swydd - sy'n gallu bod mewn gwlad dramor – nad yw’n bodoli.
Mae rhagor o wybodaeth am sut i adnabod arwyddion twyll recriwtio ar gael yma - https://www.actionfraud.police.uk/a-z-of-fraud/recruitment-scams