Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging people to visit a major tourist attraction in North Wales next week.
Mr Rowlands, who chairs the Welsh Parliament’s Cross Party Group on Tourism said:
What a wonderful initiative. It is an ideal opportunity to find out more about what happened to prisoners who were transported across the world to Australia in the late 1800s.
This popular tourist attraction is very much a part of the town’s history and it is an excellent venue to offer a truly unique Australian experience.
We are really blessed in North Wales with so many different attractions for tourists, from beautiful beaches and coastline to mountains and scenic countryside.
Tourism is so important to North Wales with around 40,000 people employed in this sector and it contributes around £3.5 billion a year to the local economy. The Australian experience event is a great initiative and I really hope it will be well supported.
Ruthin Gaol Museum is offering a truly unique experience on Thursday November 2, to be ‘transported’ back in time. Visitors will have the opportunity to see and hear the stories of the convicts that were transported to Australia from Ruthin Gaol in the late 1800’s.
Attendees can learn what life was like on the transportation ships and can also hear tales of the fates of many of the prisoners.
The tours will be at 11am and 2pm and attendees will be able to follow the characters around the gaol to hear their stories. This is a fun and informative tour that is suitable for all ages and normal admissions fees will apply.
Philippa Jones, Heritage Site Operations and Development Manager said: “The whole Gaol team is really looking forward to presenting our Transportation Day once again. We have learned a lot more about the prisoners transported to Australia recently and this day will be a great way to present this to our visitors.”
For more information, go to: https://www.facebook.com/ruthingaol/?locale=en_GB
Sam Rowlands AS yn cefnogi digwyddiad i gludo pobl yn ôl mewn amser yng Ngharchar Rhuthun
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog pobl i ymweld ag atyniad mawr i dwristiaid yng Ngogledd Cymru yr wythnos nesaf.
Meddai Mr Rowlands, sy'n cadeirio Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth:
Sôn am fenter hyfryd. Mae'n gyfle delfrydol i ddarganfod mwy am yr hyn a ddigwyddodd i garcharorion a gafodd eu cludo ar draws y byd i Awstralia ar ddiwedd yr 1800au.
Mae'r atyniad poblogaidd hwn i dwristiaid yn rhan fawr o hanes y dref ac mae'n lleoliad ardderchog i gynnig profiad gwirioneddol unigryw o Awstralia.
Rydyn ni wir wedi’n bendithio yng Ngogledd Cymru gyda chymaint o atyniadau gwahanol i dwristiaid, o draethau ac arfordir hardd i fynyddoedd a chefn gwlad hyfryd.
Mae twristiaeth mor bwysig i Ogledd Cymru gyda thua 40,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector hwn ac mae'n cyfrannu tua £3.5 biliwn y flwyddyn i'r economi leol. Mae’r digwyddiad profiad Awstralia yn fenter wych ac rwy'n mawr obeithio y bydd yn cael ei gefnogi.
Mae Amgueddfa Carchar Rhuthun yn cynnig profiad gwirioneddol unigryw ddydd Iau 2 Tachwedd, i gael eich 'cludo' yn ôl mewn amser. Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i weld a chlywed straeon y carcharorion a gludwyd i Awstralia o Garchar Rhuthun ar ddiwedd yr 1800au.
Gall mynychwyr ddysgu sut beth oedd bywyd ar y llongau cludo a hefyd clywed hanesion am dynged llawer o'r carcharorion.
Bydd y teithiau am 11am a 2pm a bydd mynychwyr yn gallu dilyn y cymeriadau o amgylch y carchar i glywed eu straeon. Mae hon yn daith hwyliog ac addysgiadol sy'n addas ar gyfer pob oedran a bydd ffioedd mynediad arferol yn berthnasol.
Meddai Philippa Jones, Rheolwr Gweithrediadau a Datblygu Safle Treftadaeth: "Mae tîm cyfan y Carchar yn edrych ymlaen yn fawr at gyflwyno ein Diwrnod Cludo unwaith eto. Rydyn ni wedi dysgu llawer mwy am y carcharorion a gludwyd i Awstralia yn ddiweddar a bydd y diwrnod hwn yn ffordd wych o gyflwyno hyn i'n hymwelwyr."
Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.facebook.com/ruthingaol/?locale=en_GB