Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has praised volunteers for creating a medieval garden in the grounds of St Asaph Cathedral.
Mr Rowlands, a keen supporter of nature and improving the environment said:
I am delighted to see local volunteers being recognised for all their hard work and coming joint first in a prestigious competition.
As Chair of the Welsh Parliament’s Cross-Party Group on Tourism, I appreciate how important it is to make sure we have plenty to offer people visiting this lovely part of the country.
St Asaph Cathedral is set in one of the smallest cities in the UK and attracts hundreds of visitors every year and it is great to see funding from the National Lottery Heritage Fund being used to illustrate more of its history and engaging local people.
Congratulations must go to all the hard working volunteers.
The St Asaph Cathedral heritage gardeners came joint first in The British Museum and the Marsh Charitable Trust 2022 volunteer awards. The ‘Volunteers for Museum Learning’ award recognises the hugely important contribution that volunteers make to help museums engage with their visitors.
The volunteers have been tending the space outside the cathedral which includes a Medieval physic and meditation garden, a Tudor herbs and strewing section and a Victorian potager.
The garden has given visitors the opportunity to learn about the ancient uses of herbs and provided a quiet and contemplative space for pilgrims, tourist and local people.
Jackie Feak, Administration and Business Officer for St Asaph Cathedral said the garden is a wonderful addition to their ancient building.
It has created more opportunities for us to engage with local schools and families and has made the formal and informal offer of the cathedral more diverse and appealing.
Visitors now stay longer and can talk to passionate and enthusiastic volunteers about the garden.
St Asaph Cathedral, dating from the fourteenth century was instrumental in the preservation of the Welsh Language and is one of the main heritage attractions along the A55 corridor.
Sam Rowlands AS wedi canmol gwaith garddwyr gwirfoddol mewn eglwys gadeiriol boblogaidd yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi canmol gwirfoddolwyr am greu gardd ganoloesol ar dir Eglwys Gadeiriol Llanelwy.
Meddai Mr Rowlands, cefnogwr brwd byd natur a gwella'r amgylchedd:
Dwi'n falch iawn o weld gwirfoddolwyr lleol yn cael eu cydnabod am eu holl waith caled ac yn dod yn gydradd gyntaf mewn cystadleuaeth fawreddog.
Fel Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, dwi'n gwerthfawrogi pa mor bwysig yw sicrhau bod gennym ni ddigon i'w gynnig i bobl sy'n ymweld â'r rhan hyfryd hon o'r wlad.
Mae Eglwys Gadeiriol Llanelwy wedi'i lleoli yn un o'r dinasoedd lleiaf yn y DU ac mae'n denu cannoedd o ymwelwyr bob blwyddyn ac mae'n wych gweld arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddefnyddio i ddangos mwy o'i hanes ac ymgysylltu â phobl leol.
Mae'n rhaid llongyfarch yr holl wirfoddolwyr sy'n gweithio mor galed.
Daeth garddwyr treftadaeth Eglwys Gadeiriol Llanelwy yn gydradd gyntaf yng ngwobrau gwirfoddolwyr yr Amgueddfa Brydeinig ac Ymddiriedolaeth Elusennol Marsh 2022. Mae'r wobr 'Gwirfoddolwyr ar gyfer Dysgu Amgueddfa' yn cydnabod y cyfraniad hynod bwysig y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i helpu amgueddfeydd i ymgysylltu â'u hymwelwyr.
Mae'r gwirfoddolwyr wedi bod yn gofalu am y gofod y tu allan i'r gadeirlan sy'n cynnwys gardd berlysiau ganoloesol a myfyrdod, ardal berlysiau a gwasgaru Duduraidd a gardd lysiau Fictoraidd.
Mae'r ardd wedi rhoi cyfle i ymwelwyr ddysgu am y defnydd hynafol o berlysiau ac wedi darparu lle tawel a myfyriol i bererinion, twristiaid a phobl leol.
Dywedodd Jackie Feak, Swyddog Gweinyddu a Busnes Eglwys Gadeiriol Llanelwy fod yr ardd yn ychwanegiad gwych at yr adeilad hynafol.
Mae wedi creu mwy o gyfleoedd i ni ymgysylltu ag ysgolion a theuluoedd lleol ac mae wedi gwneud darpariaeth ffurfiol ac anffurfiol yr eglwys gadeiriol yn fwy amrywiol ac apelgar.
Gall ymwelwyr aros yma am fwy o amser yn awr a gallant siarad â gwirfoddolwyr angerddol a brwdfrydig am yr ardd.
Roedd Eglwys Gadeiriol Llanelwy, sy'n dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg, yn allweddol wrth ddiogelu’r Gymraeg ac mae'n un o'r prif atyniadau treftadaeth ar hyd coridor yr A55.