Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, recently visited the Salvation Army in Rhyl to find out about a new project to help people in temporary accommodation.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, takes a keen interest in supporting any initiative to help the homeless and welcomed the opportunity to meet with staff at their centre in Rhyl.
He said:
I was delighted to have the chance to take a look around the centre which apart from offering support for those looking for employment has a shop attached which provides service users with free access to new clean clothes and furnishings for their accommodation. It is also a traditional charity shop selling donated items at much reduced cost.
It was also pleasing to learn more about a new project TEAP, which is Denbighshire’s Temporary Emergency Accommodation Support Project.
It is a fantastic initiative and provides much needed Floating Support services to families and single people currently resident in temporary accommodation across Rhyl.
I also discussed exciting plans for a big celebration next year when the Salvation Army reaches a huge milestone and celebrates 150 years.
TEAP is tendered for a minimum of five years and during this time Denbighshire County Council will also develop bespoke accommodation to support the project and its citizens.
The Salvation Army is a worldwide Christian church offering diverse and responsive services to the realities of life in the communities where they serve.
Sam Rowlands AS yn ymweld â Byddin yr Iachawdwriaeth yn y Rhyl
Yn ddiweddar, ymwelodd Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, â Byddin yr Iachawdwriaeth yn y Rhyl i gael clywed am brosiect newydd i helpu pobl mewn llety dros dro.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, yn cymryd diddordeb brwd mewn cefnogi unrhyw fenter i helpu'r digartref a chroesawodd y cyfle i gwrdd â staff yn eu canolfan yn y Rhyl.
Meddai:
Roeddwn i’n falch iawn o gael y cyfle i edrych o gwmpas y ganolfan sydd, ar wahân i gynnig cefnogaeth i'r rhai sy'n chwilio am waith, yn cynnwys siop sy'n rhoi mynediad am ddim i ddefnyddwyr gwasanaeth i ddillad a dodrefn glân newydd ar gyfer eu llety. Mae hefyd yn siop elusen draddodiadol sy'n gwerthu eitemau a gyfrannwyd, yn rhad iawn.
Roedd hefyd yn braf dysgu mwy am brosiect newydd TEAP, sef Prosiect Cymorth Llety Brys Dros Dro Sir Ddinbych.
Mae'n fenter wych ac yn darparu gwasanaethau Cymorth Symudol mawr eu hangen i deuluoedd a phobl sengl sy'n byw mewn llety dros dro ar draws y Rhyl ar hyn o bryd.
Trafodais hefyd gynlluniau cyffrous ar gyfer dathliad mawr y flwyddyn nesaf pan fydd Byddin yr Iachawdwriaeth yn cyrraedd carreg filltir enfawr ac yn dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed.
Mae TEAP yn cael ei dendro am o leiaf bum mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwn bydd Cyngor Sir Ddinbych hefyd yn datblygu llety pwrpasol i gefnogi'r prosiect a'i ddinasyddion.
Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn eglwys Gristnogol fyd-eang sy'n cynnig gwasanaethau amrywiol ac ymatebol i realiti bywyd yn y cymunedau lle maen nhw’n gwasanaethu.