Sam Rowlands MS visits ultrafast broadband upgrade in Mold
Sam Rowlands MS recently joined up with some of the Openreach engineers that have been busy building a new ultrafast full fibre broadband network across North Wales.
He was given a tour of the work, which is making faster and more reliable ‘full fibre’ broadband available to homes and businesses in the local area. Around 76% of premises across Flintshire can already benefit from Openreach’s investment which when complete will total around £17 million* and bring some of the fastest and most reliable broadband speeds to the area.
The tour started with a quick visit to the telephone exchange in Mold where the full fibre network journey that connects properties in the area, begins.
At the exchange the MS for North Wales was able to see up close the art of fibre splicing – where two ends of fibre optic glass cable no wider than a human hair are fused together. This delicate piece of engineering plays a vital role in Openreach’s Full Fibre network that’s already connected nearly 12m properties across the UK.
After the Mold exchange it was a short journey through the town to see the ‘final stage’ of the Openreach full fibre network and opportunity to talk to local engineers that are delivering this game changing technology to communities across North Wales.
With this investment, residents and businesses in Mold and beyond can expect improved connectivity, reduced latency, and the ability to utilize bandwidth-intensive applications and services. Ultrafast broadband can also attract new businesses, promote economic growth, and enhance digital inclusion by providing equal opportunities for education, employment, and innovation.
Sam Rowlands MS said:
I’m pleased to see the progress being made by Openreach to deliver full fibre across Mold and the rest of North Wales.
It’s a significant investment by Openreach which is great news for local people living and working in the area.
Full fibre is without doubt the future of connectivity and the fact that Openreach is investing heavily in the area is to be welcomed.
I look forward to even more progress being made so that all of my constituents can have the best access to digital services for employment, education and entertainment, as soon as possible.
The visit was hosted by Martin Williams, Partnership Director for Wales, who said:
We welcomed the opportunity to give Sam an overview of our ultrafast network. Our investment in Flintshire demonstrates Openreach’s commitment to improving digital infrastructure and bridging the digital divide. Our engineers work hard every day to keep communities across Flintshire and the rest of Wales connected, and it was great to be able to share the challenges and realities of delivering this technology.
I would urge everyone in the local area to keep an eye on the build locally to see when full fibre is available to them. They can visit the Openreach fibre checker, which is regularly updated with our build progress and when full fibre is available in specific areas.
Openreach is leading the full fibre charge in Wales to build an ultrafast network that is faster, better and more affordable than ever.
With download speeds of 1 Gbps, it’s up to 10 times faster than the average home broadband connection. That means faster game downloads, better quality video calls and higher resolution movie streaming.
You can also use multiple devices at once without experiencing slowdown – so more people in your household can get online at once. Even if the rest of your family are making video calls, streaming box sets or gaming online, all at the same time – you won’t experience stuttering, buffering or dropouts.
Full fibre is also less affected by peak time congestion – so you can enjoy your Saturday night blockbuster in 4K without the dreaded buffering screen.
About Openreach in Wales:
Openreach is on track to reach 25 million UK homes and businesses with access to Full Fibre ultrafast broadband and has already reached nearly 750,000 properties across Wales.
With a workforce of around 2,300 in Wales, Openreach already employs the nation’s largest team of telecoms engineers and professionals.
Across Wales more than 35% of homes and businesses have already ordered a full fibre service from a range of retail service providers using the Openreach network. But this means that thousands more could be benefiting from some of the fastest, most reliable broadband connections in Europe and have yet to upgrade.
Recent research by the Centre for Economics and Business Research (Cebr) highlighted the clear economic benefits of connecting everyone in Wales to full fibre. It estimated this would create a £2 billion boost to the Welsh economy.
This short video explains what Full Fibre technology is and you can find out more about our Fibre First programme, latest availability and local plans here.
Y We yn yr Wyddgrug: band eang ffeibr llawn i ddod â hwb cyflym iawn i'r dref
Sam Rowlands AS yn ymweld â gwaith uwchraddio band eang cyflym iawn yn yr Wyddgrug.
Yn ddiweddar, ymunodd Sam Rowlands AS â rhai o beirianwyr Openreach sydd wedi bod yn brysur yn adeiladu rhwydwaith band eang ffeibr llawn gwibgyswllt newydd ledled y Gogledd.
Cafodd ei dywys o gwmpas y gwaith, sy'n sicrhau bod band eang 'ffeibr llawn' cyflymach a mwy dibynadwy ar gael i gartrefi a busnesau yn yr ardal leol. Gall tua 76% o adeiladau ledled Sir y Fflint elwa eisoes ar fuddsoddiad Openreach, a fydd, pan fydd wedi'i gwblhau, yn werth tua £17 miliwn* ac yn dod â’r band eang cyflymaf a mwyaf dibynadwy i'r ardal.
Dechreuodd y daith gydag ymweliad cyflym â'r gyfnewidfa ffôn yn yr Wyddgrug lle mae'r daith rhwydwaith ffeibr llawn sy'n cysylltu eiddo yn yr ardal, yn dechrau.
Yn y gyfnewidfa cafodd yr AS dros Ogledd Cymru weld gyda’i lygaid ei hun y grefft o blethu ffeibr - lle mae dau ben o gebl gwydr ffeibr optig heb fod yn lletach na blewyn o wallt yn cael eu hasio gyda'i gilydd. Mae'r darn manwl hwn o beirianneg yn chwarae rhan hanfodol yn rhwydwaith ffeibr llawn Openreach sydd eisoes yn cysylltu bron i 12m eiddo ledled y DU.
Ar ôl ymweld â’r gyfnewidfa yn yr Wyddgrug, cafwyd taith fer drwy'r dref i weld 'cam olaf' rhwydwaith ffeibr llawn Openreach a chael cyfle i siarad â pheirianwyr lleol sy'n darparu'r dechnoleg hon sy'n gwneud byd o wahaniaeth i gymunedau ledled y Gogledd.
Gyda'r buddsoddiad hwn, gall trigolion a busnesau yn yr Wyddgrug a thu hwnt ddisgwyl gwell cysylltedd, llai o oedi, a'r gallu i ddefnyddio rhaglenni a gwasanaethau band eang dwys. Gall band eang cyflym iawn hefyd ddenu busnesau newydd, hyrwyddo twf economaidd, a gwella cynhwysiant digidol trwy ddarparu cyfleoedd cyfartal ar gyfer addysg, cyflogaeth ac arloesi.
Meddai Sam Rowlands AS:
Rwy'n falch o weld y cynnydd sy'n cael ei wneud gan Openreach i ddarparu ffeibr llawn ar draws yr Wyddgrug a gweddill y Gogledd.
Mae'n fuddsoddiad sylweddol gan Openreach sy'n newyddion gwych i bobl leol sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal.
Heb os, ffeibr llawn yw dyfodol cysylltedd ac mae'r ffaith bod Openreach yn buddsoddi'n drwm yn yr ardal i'w groesawu.
Rwy'n edrych ymlaen at wneud hyd yn oed mwy o gynnydd fel y gall fy etholwyr i gyd gael y mynediad gorau at wasanaethau digidol ar gyfer cyflogaeth, addysg ac adloniant, cyn gynted â phosibl.
Cafodd yr ymweliad ei gynnal gan Martin Williams, Cyfarwyddwr Partneriaeth Cymru, a ddywedodd:
Roedden ni’n croesawu'r cyfle i roi trosolwg i Sam o'n rhwydwaith cyflym iawn. Mae ein buddsoddiad yn Sir y Fflint yn dangos ymrwymiad Openreach i wella seilwaith digidol a phontio'r rhaniad digidol. Mae ein peirianwyr yn gweithio'n galed bob dydd i gynnal cysylltedd cymunedau ledled Sir y Fflint a gweddill Cymru, ac roedd hi’n wych gallu rhannu'r heriau a'r realiti o ddarparu'r dechnoleg hon.
Byddwn yn annog pawb yn yr ardal i gadw llygad ar y gwaith yn lleol i weld pryd mae ffeibr llawn ar gael iddyn nhw. Gallan ymweld â gwiriwr ffeibr Openreach, sy'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd gyda'n datblygiad o ran adeiladu a phryd fydd ffeibr llawn ar gael mewn ardaloedd penodol.
Mae Openreach yn arwain yr ymgyrch ffeibr llawn yng Nghymru i adeiladu rhwydwaith cyflym iawn sy'n gyflymach, yn well ac yn fwy fforddiadwy nag erioed.
Gyda chyflymder lawrlwytho o 1 Gbps, mae hyd at 10 gwaith yn gyflymach na'r cysylltiad band eang cartref ar gyfartaledd. Mae hynny'n golygu lawrlwytho gemau yn gyflymach, galwadau fideo o ansawdd gwell a ffrydio ffilm cydraniad uwch.
Gallwch hefyd ddefnyddio llawer o ddyfeisiau ar unwaith heb eu bod yn arafu - fel bod mwy o bobl yn eich cartref yn gallu mynd ar-lein ar yr un pryd. Hyd yn oed os yw gweddill eich teulu yn gwneud galwadau fideo, ffrydio cyfresi teledu neu chwarae gemau ar-lein, i gyd ar yr un pryd - ni fyddwch chi’n cael profiad o rewi, byffro na diflannu.
Mae llai o brysurdeb ar adegau prysur gyda ffeibr llawn – felly gallwch fwynhau’ch ffilm fawr ar nos Sadwrn mewn 4K heb y sgrin yn byffro.
Ynglŷn ag Openreach yng Nghymru:
Mae Openreach ar y trywydd iawn i gyrraedd 25 miliwn o gartrefi a busnesau yn y DU sydd â mynediad at fand eang gwibgyswllt ffeibr llawn ac mae eisoes wedi cyrraedd bron i 750,000 eiddo ledled Cymru.
Gyda gweithlu o tua 2,300 yng Nghymru, mae Openreach eisoes yn cyflogi tîm mwyaf y genedl o beirianwyr a gweithwyr proffesiynol telathrebu.
Ledled Cymru mae mwy na 35% o gartrefi a busnesau eisoes wedi archebu gwasanaeth ffibr llawn gan ystod o ddarparwyr gwasanaethau manwerthu sy'n defnyddio rhwydwaith Openreach. Ond mae hyn yn golygu y gallai miloedd mwy fod yn elwa ar rai o'r cysylltiadau band eang cyflymaf, mwyaf dibynadwy yn Ewrop ac nad ydyn nhw eto wedi'u huwchraddio.
Tynnodd ymchwil diweddar gan y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes (Cebr) sylw at fanteision economaidd clir cysylltu pawb yng Nghymru â ffeibr llawn. Amcangyfrifir y byddai hyn yn creu hwb o £2 biliwn i economi Cymru.
Mae’r fideo byr hwn yn esbonio beth yw technoleg ffeibr llawn a gallwch ddarganfod mwy am ein rhaglen Fibre First, yr argaeledd diweddaraf a'r cynlluniau lleol yma.