Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is delighted planning permission has been given for a new cancer support centre in North Wales.
This week it was announced that a Maggie's cancer support centre is to be built in the grounds of Glan Clwyd Hospital in Bodelwyddan, with £3 million from the Steve Morgan Foundation.
Mr Rowlands, a keen supporter of the proposals said:
I was delighted to hear the plans for a Maggie’s Centre in North Wales have been approved as there are already two such places in South Wales, Cardiff and Swansea.
We already have a dedicated cancer centre in North Wales, based on the hospital site and I welcome any further plans to provide free support and help and advice for people living with cancer in North Wales.
A big thank-you must also go to the Steve Morgan Foundation for its generosity as it will be providing the funding for the venture after already commissioning, designing and building a Maggie’s Centre in the grounds of Clatterbridge Cancer Centre.
The centre will provide free practical, psychological and emotional support for people with cancer, as well as their family and friends, from across the whole region - including Bangor and Wrexham.
North Wales sees 4,800 people newly diagnosed with cancer every year. It is hoped the centre will open in 2025.
Dame Laura Lee, Chief Executive at Maggie’s said: “We are delighted to have been granted planning permission for our centre in North Wales.
“Without the Steve Morgan Foundation’s incredibly generous support in commissioning, designing, building and funding we wouldn’t have been able to bring Maggie’s to North Wales and for that I am so grateful.
“I am greatly looking forward to working closely once again with the Steve Morgan Foundation, and Betsi Cadwaladr University Health Board, to ensure the people of North Wales have the support which has already been making such a difference to people’s lives in other parts of Wales for 12 years.”
A third Maggie’s centre in Liverpool, to be built within the grounds of the New Royal Liverpool Hospital next to the new Clatterbridge Cancer Centre, is also in the development stages thanks to the Steve Morgan Foundation.
Liam Eaglestone, CEO of the Steve Morgan Foundation, said:
We are delighted to be helping Maggie’s bring its vital cancer support to the people of North Wales, ensuring they will have the warm, welcoming and free expert support of a Maggie’s centre right on their doorstep.
Our collaboration with Maggie’s is one of the strongest examples of our philosophy of ‘disruptive philanthropy’. It highlights the Foundation’s ability to ‘give’ well, by harnessing our expertise, practical support and commercial experience to maximise the impact of our financial support.
Maggie’s North Wales, expected to open in 2025, will be the third in Wales, with Maggie’s Swansea opening in 2011 and Maggie’s Cardiff opening in 2019.
Maggie’s has more than 26 years’ experience of supporting people with free cancer support and information in centres across the UK.
The charity puts people with cancer at the heart of everything it does and believes everyone should have access to professional psychological and emotional support to help change the way they live with cancer.
Sam Rowlands AS yn croesawu cymeradwyo cynlluniau ar gyfer Canolfan Maggie yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn falch iawn bod caniatâd cynllunio wedi'i roi ar gyfer canolfan cymorth canser newydd yng Ngogledd Cymru.
Yr wythnos hon, cyhoeddwyd y bydd canolfan cymorth canser Maggie yn cael ei hadeiladu ar dir Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, gyda £3 miliwn gan Sefydliad Steve Morgan.
Meddai Mr Rowlands, un o gefnogwyr brwd y cynigion:
Roeddwn i’n falch iawn o glywed bod y cynlluniau ar gyfer Canolfan Maggie yng Ngogledd Cymru wedi cael eu cymeradwyo gan fod dau le o'r fath yn y De eisoes, yng Nghaerdydd ac Abertawe.
Mae gennym ni ganolfan ganser bwrpasol yn y Gogledd eisoes, wedi'i lleoli ar safle'r ysbyty ac rwy'n croesawu unrhyw gynlluniau pellach i ddarparu cymorth a chyngor am ddim i bobl sy'n byw gyda chanser yng Ngogledd Cymru.
Diolch o galon hefyd i Sefydliad Steve Morgan am ei haelioni yn darparu'r cyllid ar gyfer y fenter ar ôl comisiynu, dylunio ac adeiladu Canolfan Maggie yn barod ar dir Canolfan Ganser Clatterbridge.
Bydd y ganolfan yn darparu cefnogaeth ymarferol, seicolegol ac emosiynol am ddim i bobl â chanser, yn ogystal â'u teuluoedd a'u ffrindiau, o bob rhan o'r rhanbarth cyfan - gan gynnwys Bangor a Wrecsam.
Mae 4,800 o bobl yn cael diagnosis canser o’r newydd bob blwyddyn yn y Gogledd. Y gobaith yw y bydd y ganolfan yn agor yn 2025.
Meddai’r Fonesig Laura Lee, Prif Weithredwr Maggie's:
Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer ein canolfan yng Ngogledd Cymru.
Heb gefnogaeth hynod hael Sefydliad Steve Morgan wrth gomisiynu, dylunio, adeiladu a chyllido, ni fyddem ni wedi gallu dod â Maggie's i’r Gogledd ac rwyf mor ddiolchgar am hynny.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio'n agos unwaith eto gyda Sefydliad Steve Morgan, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i sicrhau bod gan bobl Gogledd Cymru'r gefnogaeth sydd eisoes wedi bod yn gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau pobl mewn rhannau eraill o Gymru ers 12 mlynedd.
Mae trydedd ganolfan Maggie's yn Lerpwl, i'w hadeiladu ar dir Ysbyty Brenhinol newydd Lerpwl wrth ymyl Canolfan Ganser newydd Clatterbridge, yn y camau datblygu hefyd diolch i Sefydliad Steve Morgan.
Meddai Liam Eaglestone, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Steve Morgan: “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn helpu Maggie's i ddod â'i chefnogaeth ganser hanfodol i bobl Gogledd Cymru, gan sicrhau y byddan nhw’n cael cefnogaeth arbenigol, gynnes, groesawgar a rhad ac am ddim canolfan Maggie ar garreg eu drws.
“Mae ein cydweithrediad â Maggie's yn un o'r enghreifftiau cryfaf o'n hathroniaeth o ‘ddyngarwch aflonyddgar’. Mae'n tynnu sylw at allu'r Sefydliad i ‘roi’ yn dda, trwy harneisio ein harbenigedd, ein cefnogaeth ymarferol a'n profiad masnachol i wneud y gorau o effaith ein cefnogaeth ariannol.”
Disgwylir i ddrysau Maggie’s Gogledd Cymru agor yn 2025 a hi fydd y drydedd yng Nghymru, gyda Maggie's Abertawe yn agor yn 2011 a Maggie's Caerdydd yn agor yn 2019.
Mae gan Maggie's fwy na 26 mlynedd o brofiad o gefnogi pobl gyda chymorth a gwybodaeth am ddim am ganser mewn canolfannau ledled y DU.
Mae'r elusen yn rhoi pobl â chanser wrth wraidd popeth y maen nhw’n ei wneud ac yn credu y dylai pawb gael mynediad at gymorth seicolegol ac emosiynol proffesiynol i helpu i newid y ffordd maen nhw’n byw gyda chanser.